Archifau Misol: Ionawr 2015

Beth yw Llên Gwerin?

Dyna gwestiwn a ofynnwyd yn rhifynnau cyntaf Llafar Gwlad. Wedi’r cwbl wrth roi llais a llwyfan i ‘lên gwerin’, rhaid oedd ceisio diffinio union ystyr y geiriau hynny. Sut y byddech chi yn diffinio llên gwerin felly? Ai fel chwedlau, coelion, dywediadau, traddodiadau ac arferion efallai? A ellir cynnig esboniad manylach a llawnach na hynny? Meddai Iorwerth C. Peate –

“Fe gynnwys diwylliant, yn holl ystyr y gair, holl fywyd dyn, ei ffordd o fyw, amgylchiadau ei fywyd, ei gartref, ei offer, ei gelfi, ei arferion cymdeithasol, ei ddeddfau, ei grefydd, ei syniadau, ei sefydliadau, ei addysg, ei grefftau, ei gelfyddyd – y cwbl o’r amrywiol egnïon sydd mewn bywyd, a’r rheini oll yn dangos graddau ei ddatblygiad o lefel anifail y maes.”
(Diwylliant Gwerin Cymru, Lerpwl, 1942)

Aeth Robin Gwyndaf ati i geisio nodi’n fyr brif nodweddion llên gwerin (Llafar Gwlad, 5). Dyma’i ddadansoddiad chwe phwynt:

  1. Mae cynnwys llên gwerin yn cael ei drosglwyddo ar lafar gwlad neu drwy arferiad.
  2. Mae ffurfiau llên gwerin a’r modd y trosglwyddir hwy yn draddodiadol.
  3. Oherwydd dychymyg diderfyn dyn a phroses barhaus o ail-greu drwy ymwneud pobl a’i gilydd, mae ffurfiau llên gwerin yn bodoli mewn mwy nag un fersiwn.
  4. Mae cynnwys llên gwerin, yn amlach na pheidio, yn anhysbys.
  5. Tuedd llên gwerin gydag amser yw cael ei ffurfioli a’i batrymu.
  6. Mae llên gwerin yn ddrych o ddatblygiad meddwl dyn ar hyd y canrifoedd.

Sylwer fel y cyfeiria Robin Gwyndaf at ‘drosglwyddo’ ac at ‘bobl’. Wrth gwrs, y mae dyn wedi chwarae rhan hollbwysig yn cynnal llên gwerin fel y dengys yr hen bennill ‘Hanes yr Hen Ŵr o’r Coed’ –

Dwedai hen ŵr llwyd o gornel:
‘Gan fy nhad mi glywais chwedel,
A chan ei daid y clywsai yntau
Ac ar ei ôl mi gofiais innau.’

 “Ac ar ei ôl mi gofiais innau.” Yng ngeiriau Robin Gwyndaf – “Y cof rhyfeddol hwn, ynghyd ag iaith i fynegi’r hyn a groniclwyd ar y cof (drwy sylwi neu glywed) sy’n peri bod dyn ar hyd yr oesoedd wedi trosglwyddo ar lafar, o ben i ben, wybodaeth a thystiolaeth werthfawr iawn. Diwylliant llafar, yn ei hanfod, fu diwylliant pob gwlad. Ar lafar y trosglwyddodd y crefftwr ddirgelion ei grefft i’w fab. Ar lafar y clywodd plentyn hwiangerddi ei wlad ar lin ei fam.”

Mae’n hawdd meddwl os mai diwylliant llafar yn ei hanfod yw llên gwerin ei fod wedi ei gyfyngu i ddosbarth arbennig yn unig. Fel y dywedodd Robin Gwyndaf – “Y mae’n wir ein bod ninnau yng Nghymru yn tybio heddiw mai’r ‘werin bobl’ – y gwŷr a’r gwragedd hynny na dderbyniodd addysg ffurfiol – yw prif gynheiliaid llên a diwylliant gwerin. Onid bellach, wrth geisio diffinio’r termau hyn, dylid cofio mai cyfeirio a wna’r gair ‘gwerin’ at bobl o bob gradd – y gymdeithas neu’r genedl gyfan.”

Y mae lle i’r crand a’r cyffredin mewn llên gwerin. Yn Amgueddfa Werin Cymru, fe welir cartrefi syml y chwarelwyr ochr yn ochr â chastell sy’n un o’r enghreifftiau gorau o faenordy Elisabethaidd yng Nghymru (gweler y llun isod).

File Name : DSC_0023.TIF  File Size : 17.0MB (17786958 bytes)  Date Taken : Thu, Sep 29, 2005 11:36:24  Image Size : 3008 x 1960 pixels  Resolution : 300 x 300 dpi  Bit Depth : 8 bits/channel  Protection Attribute : Off  Camera ID : N/A  Camera : NIKON D1X  Quality Mode : N/A  Metering Mode : Matrix  Exposure Mode : Manual  Speed Light : No  Focal Length : 25.0 mm  Shutter Speed : 1/125 seconds  Aperture : F11.0  Exposure Compensation : 0.0 EV  White Balance : N/A  Lens : N/A  Flash Sync Mode : N/A  Exposure Difference : N/A  Flexible Program : N/A  Sensitivity : N/A  Sharpening : N/A  Image Type : Color  Color Mode : N/A  Hue Adjustment : N/A  Saturation Control : N/A  Tone Compensation : N/A  Latitude(GPS) : N/A  Longitude(GPS) : N/A  Altitude(GPS) : N/A

Hawdd fyddai rhagdybio hefyd mai rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yw llên gwerin. Ond gocheler rhag meddwl hynny. Ys dywed Cynan Jones (Llafar Gwlad, 6) –

“Y mae’n wir dweud mai brwydro i gadw ac ail ddarganfod cyfoeth ein cyn-dadau mae astudwyr llên gwerin ar y cyfan, a diolch amdanynt, ond ni ddylid anghofio bod llên gwerin yn cael ei chreu a’i chynnal yn feunyddiol yn ein hoes oleuedig, gyfrifiadurol ni hefyd.” Tynnodd sylw at ddwy agwedd ar lên gwerin gyfoes.

  1. Coelion cyfoes
    Coelion sydd wedi dyfod gyda dylanwadau estron a dieithr i’r wlad. Cymerer y coelion sydd wedi codi yn ardal Blaenau Ffestiniog ers dyfodiad gorsaf niwclear Trawsfynydd fel enghraifft. Credai’r ardalwyr na fu gaeafau cynddrwg â’r gorffennol, gan fod yr atomfa yn cynhesu’r awyr uwch eu pennau. Y mae’n gred gyffredinol hefyd fod yr orsaf yn tynnu mellt pan fydd storm. Enghraifft arall fydd coelion ynglŷn â siopau bwydydd Sienaidd. Onid ydym i gyd bellach wedi clywed sïon am siop ble darganfuwyd llygod neu gathod yn y rhewgell?
  1. Straeon Gwerin Gyfoes
    Straeon tebyg i’w gilydd yw’r rhain sy’n cael eu hadrodd dro ar ôl tro. Dyma un stori o’r math hwn ac yn sicr mae fersiwn yn eich ardal chi (cliciwch ar y stori i’w gweld mewn maint mwy).

y ffawdheglwr diflanedig

A glywsoch chi am straeon tebyg? Os mai ‘do’ yw’r ateb, y mae’n amlwg fod llên gwerin yn fyw ac yn berthnasol o hyd. Felly, peidiwn byth â meddwl mai perthyn i ryw oes a fu rydym yn hiraethu amdani y mae llên gwerin. Y gwir amdani, yw ei bod yn fyw ac yma o hyd yn llawn lliw, yn ein byd ni heddiw, yn ein siarad bob dydd, ar stryd ac mewn siop, dros beint a phanad, mewn ffatri ac mewn swyddfa ond yr hyn sydd angen ei wneud yw cofnodi a rhannu ac o rannu, ei werthfawrogi. Y mae’n rhy werthfawr i fod ar dafod leferydd yn unig a’i ogoniant yw nad rhywbeth sy’n perthyn i fywyd criw dethol o bobl ydyw; mae’n rhan o fyw naturiol pob un wan jac ohonom. Felly, ie, daliwn i roi llais a llwyfan i lên gwerin drwy gyfrwng Llafar Gwlad a beth am ymateb ar y wefan hon? Cofnodwch a rhannwch ac o wneud byddwch o bosib yn procio eraill i gofio, i gofnodi ac i rannu.

Croeso

Croeso i flog newydd sbon danlli Llafar Gwlad!

Dyma’r tro cyntaf i Llafar Gwlad gamu i’r byd ar-lein. Gobeithio y bydd yn fodd i greu presenoldeb newydd i’r cylchgrawn ar-lein a bydd hynny yn ei dro yn magu nerth a llais ac yn rhoi sylw pellach i’r cylchgrawn traddodiadol.

Ar y silff hon yr wyf wedi bod yn pori ers wythnosau bellach yn ceisio cloriannu 32 o flynyddoedd a 128 rhifyn.

silff llafar gwlad

Wrth edrych ar y llun mi wn i nad ydi o’n edrych yn fawr o gamp ond pan fo pob erthygl, tudalen a chylchgrawn yn llawn straeon, gwybodaeth, dywediadau, coelion ac arferion diddorol a defnyddiol, dipyn o her oedd darllen y cwbl. Roedd fel wynebu bocs cyfan o siocled Thorntons –ac ara deg a phob yn dipyn mae bwyta’r rheiny. Roedd gan bob erthygl ei blas unigryw ei hun ac roedd angen sipian a blasu’n iawn cyn rhuthro i fachu’r nesaf.

Testun rhyfeddod i mi ar ôl darllen oedd meddwl bod y ffasiwn gyfoeth mewn deg cyfrol biws las ar silff. Nid rhywbeth i’w gadw ar silff fetel mewn llyfrgell yw Llafar Gwlad meddyliais – mae angen rhannu a denu cynulleidfa newydd. Felly rydw i am rannu efo chi a dyna sy’n dda am gysylltu electronig; does dim angen i chi deithio i Aberystwyth a dod i’r llyfrgell ata i – dim ond clicio a sgrolio.

Diolch i chi ymlaen llaw am glicio ar y blog ac am ddarllen. Dwi’n dweud eto fel hen diwn gron, plîs, gadewch sylwadau oherwydd fel y dywedodd John Owen Huws yn y rhifyn cyntaf un o Llafar Gwlad “eich cylchgrawn chi ydyw hwn i fod.” Ac ydy, mae’r weledigaeth honno o 1983 yn parhau hyd heddiw.

Dyma fy mocs siocled Llafar Gwlad i chi. Edrychwch ar y dewis o’ch blaen, estynnwch ato fel maen nhw’n ddweud ac yna ystyriwch sut y gallwch chi gyfrannu. Gallaf eich sicrhau y byddwn yn cael blas ar eich cyfraniad. Fedrwch chi ychwanegu i’r bocsys hynny tybed?

POTIO
Fedrwch chi ychwanegu at eirfa potio Myrddin ap Dafydd?
Helyntion meddw, trafferth mewn tafarn neu drafferth ar ôl bod mewn tafarn.
CHWARAEON
Termau o fyd golff (e.e. gradd, nod, lawnt )
Rygbi.
Pêl-droed (Iaith Midffîld – Camsefyllian)
Ralio.
Mynydda.
CHWARAEON (2)
Straeon difyr mewn gemau rygbi, pêl-droed gan ddilynwyr a chwaraewyr. Chwaraeon, gemau gwahanol a chwaraewyd yn ystod awr ginio yn yr ysgol.
TEULU (1)
Beth am gofnodi iaith eich teulu chi…
Geiriau am gysgu (e.e. fforti wincs, shi-shi, cyci bei, robin cwsg, mynd i’r ciando)
Magu plant (e.e. cetyn am ‘dummy’)
Enwau bwyd (e.e. cacan ffenast am gacen Battenberg neu gynffon crocodeil am gorn bach)
TEULU (2)
Straeon a dywediadau gan blant, plant yn geirio’n gam e.e. Ysbyty Gwinedd am Ysbyty Gwynedd.)
Arferion teulu (e.e. canu corn wrth fynd drwy dwnnel.)
Dathlu’r Nadolig a phen blwydd.
Coelion Cartref (e.e. tannu dillad ar y lein, coginio.)
STRAEON TEULU
Straeon neu gemau i gadw plant yn ddiddig wrth deithio (e.e. pwy sy’n dweud hanes Idris Gawr wrth deithio am Dalyllyn neu hanes saethu Arthur Rowlands yr heddwas wrth fynd dros Bont Machynlleth?)
STRAEON TRWSTAN
e.e. Gyrru ar siwrne seithug – nôl morthwyl llaw chwith, eli penelin neu hyd yn oed chwilio am lond llyn o ddŵr sych!
BYD NATUR
Straeon hynod am ddyn ac anifail ac adar.
Defnydd planhigion a blodau gwahanol.
Coelion cynnar am ddaeargrynfeydd, sêr yn syrthio a sêr cynffon.
Enwau caeau.
CWFFIO
Straeon paffio.Iaith cwffio (e.e stid, cweir.)
STRAEON YSBRYD, GWRACHOD, DIAFOL, TYLWYTH TEG, DYNION BACH GWYRDD CALENDR Y CYMRY
Arwyddocâd gwyliau fel Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Gwydir, Sesiwn Fawr, Gŵyl Nol a Mlan.
Arwyddocâd dyddiadau fel 11/12/82, Dydd Glyndŵr, Dwynwen.
ARFERION CARU, PRIODI, BYW A MARW
TRAFFERTHION DYGYMOD Â THECHNOLEG A PHETHAU NEWYDD
e.e. Pobl yn rhoi baw adar (tipp-ex) ar gamgymeriad ar sgrin y cyfrifiadur.
Nain yn agor 144 o fagiau te i’w rhoi yn y tin te.
OFERGOELION
e.e Anlwcus i gerdded dan ysgol.
IAITH AR WAITH
Glasenwau.
100 enw gorau ar fusnesau e.e. Taro Deg Pwllheli, Blas Mwy yn Oriel Môn, Blas ar Win, Dylanwad Da, Pryd ar Frys (Siop decawê ym Mhwllheli), Dan’ I Sang (siop fwyd Tsieineaidd yn Nhregaron).

MOTTO/ ARWYDDAIR GORAU
e.e- Tîm pêl-droed Cymru – Gorau chwarae, cyd chwarae.
UCAC- Rhag Cymru heb Gymry a’r athro dan draed.

GEIRIAU DA AR GRYSAU T
e.e. geiriau gan gwmnïau Cowbois, Shwldimwl, Celtes.

RHIFAU CEIR BACHOG
e.e – d1euog i dwrna neu LLYFR i awdur.

DYWEDIADAU BOB DYDD
Am y tywydd er enghraifft.
CRWYDRO
Anturiaethau neu deithiau cerdded.
Pererindodau.
Straeon am leoliadau gwahanol e.e- am adeilad, adfail, ffynhonnau, capel, ysgol, tŷ arbennig.
STRAEON CELWYDD GOLAU STRAEON AM GYMERIADAU A PHOBL DDIFYR

Ydy hyn wedi codi awydd arnoch i gyfrannu neu i ‘sgwennu am bethau tebyg? Cofiwch, efallai y bydd gennych chi eich syniadau eich hun – ac os felly gorau oll. Dyna ydy’r bwriad- ysgogi ymateb a thanio’r dychymyg i feddwl. Cryfder ymateb i flog yw y gellir ymateb yn syth bin iddo a gobeithio y bydd cael darllen straeon amrywiol o bob cwr o Gymru am bob dim dan haul sy’n ymwneud â’n byw ni o ddydd i ddydd yn cyfoethogi fwy fwy ar y diwylliant llên gwerin.