Gwrachod

Y mae nifer o erthyglau am wrachod wedi bod yn Llafar Gwlad. Os oes gennych ddiddordeb yn y maes hwn – beth am gychwyn drwy ddarllen erthygl Eirlys Gruffydd ‘Hela Sgwarnogod’ o’r rhifyn cyntaf – mae’n rhoi trosolwg ar goelion y Cymry am wrachod a’r gred fod gwrach yn gallu newid i ffurf sgwarnog. Darllenwch yr erthygl yma. Pan ofynnais i griw o ffrindiau yn ddiweddar beth oedden nhw’n wybod am y sgwarnog, tair ffaith yn unig a gefais:

  1. “Cwningen gyda choesau hir yw sgwarnog.”
  2. “Mae’n gallu rhedeg yn gyflym” a wir roedd yr un ddywedodd hynny yn gallu dyfynnu pennill o faled ‘Guto Nyth Bran’ gan I. D. Hooson “Ysgafndroed fel sgwarnog/ A chwim oedd Guto enwog/ Yn wir dywedent fod ei hynt / Yn gynt na’r gwynt na’r hebog.”
  3. “Mae gan Twm Morys ffobia neu thing amdanyn nhw. Mae’n sgwarnoglyd iawn”. Digon gwir, ac wrth gwrs mae gan Bob Delyn gân am ‘Drên bach y Sgwarnogod’

Ond wyddai neb am y goel y cyfeiria Eirlys Gruffydd ati yn ei herthygl sef bod gwrach yn gallu newid i ffurf sgwarnog. Aiff ymlaen i sôn beth ddywed Gerallt Gymro amdanynt a’r defnydd y gwnâi’r derwyddon o’r creadur. Rhoi gwybodaeth gefndirol felly a wna cyn mynd i sôn am chwedlau gwerin diddorol am wrachod ym mhlwyfi Llangadfan a Llanerfyl ym Mhowys. Darllenwch yn ofalus- ac os byddwch yn carafanio neu yn y maes pebyll yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ac yn gweld rhyw sgwarnog yn ei heglu hi ar draws y cloddiau neu’n waeth yn eich gwylio yn bwyta’ch barbeciw cofiwch am y goel fod plwyfolion yr ardal yn credu fod gwrachod yr ardal yn newid yn sgwarnogod.

Cyfeiria Eirlys hefyd at Peggi Jonin, gwrach o ardal Bronant a Rhosywlad, Ceredigion ac mae ganddi erthygl arall yn rhifyn 5 ar Mari Berllan Biter oedd yn byw ym Mhennant, Sir Aberteifi. Yr hyn sy’n ddifyr am yr erthygl hon yw bod llu o straeon gwahanol am Mari ond nid dibynnu ar straeon pobol eraill yn unig a wna Eirlys. Mae’n gwneud ei gwaith ditectif ei hun ac aeth i chwilio am adfeilion Berllan Biter, cartref Mari. Caiff hyd i’r fan lle mae yno “swyn rhyfedd” ac yno cafodd “afael ar ddarnau o grochenwaith, haearn a a gwydr” y credai yn siŵr eu bod yn eiddo i Mari! Difyr, difyr. Ac os yw’r erthygl hon wedi codi cnich arnoch i grwydro a mynd yno am dro y mae yma gyfarwyddiadau manwl ar ddiwedd yr erthygl yn dweud yn union sut mae cyrraedd y fan. Difyr yw ambell gyffyrddiad fel hyn “Tybed a fyddwch chwithau hefyd yn teimlo’r awyrgylch arallfydol sy’n perthyn i’r lle? Anodd cael camera i weithio yma…” Aeth hi ddim i gloddio lle bu’r llawr a dod i hyd i rai o binnau rheibiol Mari, ond efallai y byddwch chi awydd gwneud hynny?!  Darllenwch yr erthygl ar Mari yma.

GWRACHOD BETWS

Does dim sôn am gysylltiad y sgwarnog a gwrachod yn erthygl Griff Griffith ‘Gwrachod Betws’ o’r chweched rhifyn. Byddai ‘Cathod a gwrachod’ wedi bod yn deitl addas i’r erthygl hon gan mai dyma sydd yn dod â’r ias wrth ddarllen. Stori iasol sydd y mynd â ni i hen westy a arferai fod ar yr A5 ger Pentrefoelas yn y flwyddyn 1813 yw’r hanesyn hwn –

Yn y flwyddyn 1813 caed fod amryw o bobl fyddai wedi treulio noson neu ddwy yn lletya mewn gwesty ar ochr yr A5 yn colli llawer o’u harian a’u heiddo… Roedd dyn o’r enw Esmor Prys yn byw yn Nolwyddelan, hen swyddog o’r fyddin ac am nad oedd yr awdurdodau’n medru taflu llawer o oleuni ar y dirgelwch, penderfynodd Prys gymryd pethau i’w ddwylo ei hun ac ymchwilio i sut y digwyddai y colledion…

Cerddodd y Swyddog i mewn un nos Sadwrn, a’i lifrai lliwgar yn tynnu sylw mawr. Cafodd groeso brwd gan y ddwy wraig, a deallodd ar ei union eu bod hefyd yn ddwy chwaer. Wedi sgwrsio peth a chael swper, heb i neb sôn am ddirgelwch y lladradau, aeth y Swyddog i fyny i’w ystafell.

Ni fwriadai Esmor Prys droi i gysgu ar noson mor dyngedfennol. Yn hytrach gosodd ei gôt a’i wregys yn dwt ar ganol llawr ei ystafell wrth ochr y gwely, ei gleddyf ynghyd o dan dillad y gwely, a’i law dde yn dynn amdani, ac yna diffoddodd y gannwyll gan syllu yn union drwy’r tywyllwch i gyfeiriad ei ddillad, lle roedd peth arian rhyddion wedi eu rhoi yn bwrpasol…

Mae’n debyg ei bod tua hanner awr wedi dau y bore pan glywodd sliffian slei o gyfeiriad y ffenestr. Daeth dwy gath dan snwyro i ganol llawr yr ystafell, a dechrau bodio’r dillad a’u pawennau a thynnu ar y lifrai a’u hewinedd. Llithrodd peth o’r arian o boced y got, a cheisiodd un o’r cathod gasglu’r arian ,a chau ei cheg yn daclus amdanynt ac roedd y llall yn brysur gyda chadwyn y wats aur… Gwasgodd Esmor garn ei gleddyf ac mewn un symudiad chwim, chwipiodd ei gleddyf i’w chyfeiriad gan daro un o’r cathod. Gyda sgrechiadau oedd yn rhwygo’r nos, rhuthrodd y ddwy allan drwy’r ffenestr. Cododd Esmor i’r ffenestr i weld a oedd unrhyw olwg o hynt y lladron ond roedd pob man yn dawel.

Cododd yn eithaf cynnar y bore canlynol ac aeth i lawr i’r ystafell fwyta gyda’r bwriad o godi cwyn difrifol gyda’r ddwy chwaer, ond sylwodd mai dim ond un ohonynt oedd yn gweini y bore hwnnw.

Wrth edrych trwy ddrws y gegin gefn yn ddiweddarach, gwelodd Prys y chwaer arall yno yn symud yn ôl a blaen gyda bandyn gwyn am ei braich, ac roedd yn amlwg na fyddai yn dod i’r golwg y bore hwnnw. Wedi talu am ei lety aeth allan yn araf a throdd i ganlyn mur y Gwesty oedd yn rhedeg o dan ffenestr ei ystafell wely a chafodd dri darn o’i arian ar lawr. Sylwodd ar y smotiau gwaed, a dilynodd y rheini i gyfeiriad drws y gegin gefn. Trodd ar ei sawdl pan ddaeth wyneb dynes yn dynn ar wydr y ffenestr gefn, a’i llygaid yn pefrio gan ddangos ei dannedd, fel cath wedi’i chythruddo.

Roedd Esmor Prys wedi profi rhywbeth iddo’i hun, hyd yn oed os na choeliai neb arall ei stori.

Dyna stori fyddai’n gwneud ffilm fer dda arswydus ar gyfer noson Calan Gaeaf. Wyddoch chi rywbeth am y gwesty? Glywsoch chi am straeon tebyg? Clywais am hanes Dorti Ddu, gwrach arall o ardal Llannor yn Llŷn – nid wyf wedi darllen amdani yn Llafar Gwlad ond os oes gan rai ohonoch wybodaeth amdani – rhowch wybod. Hefyd mae sôn am dair gwraig oedd yn byw yn ardal Llanbedrog, Llŷn. Cafwyd y dair yn euog am reibio ac o fod yn wrachod a chawsant eu dedfrydu i farwolaeth. Yn nôl y sôn dyma’r unig achos o ddienyddio gwrachod yng Nghymru. Roedd a wnelo dwy chwaer Cefn Llanfair sef plasty bychan yn yr ardal â hyn- bu farw’r ddwy a thaflwyd y bai ar y ‘gwrachod.’ Gwn bod cysylltiad teulu rhwng Cefn Llanfair a Phlas Glyn y Weddw – a bod hyn i gyd wedi digwydd tua 1620. A oes modd taflu mwy o oleuni yma hefyd?

I ddilyn sgwarnog arall, labelwyd Elin Ifans o Bant y Wennol, Mynytho Llŷn fel gwrach gan yr ardalwyr gan fod yna nifer o ddigwyddiadau rhyfeddol wedi digwydd yn ei chartref yn 1866. Bu cryn ddamcaniaethu am y digwyddiadau hyn ac mae’n bosib mai poltergeist oedd y tu ôl i’r cyfan. Beth bynnag os oes gennych chi fwy o wybodaeth am yr hanes difyr hwn – gwn bod llyfryn wedi’i gyhoeddi am yr hanes ac i ‘Almanac’ ddramateiddio’r hanes beth amser yn nôl erbyn hyn – byddai’n ddiddorol gwybod lle y claddwyd Elin Pant y Wennol. Gwn bod rhai llythyrau wedi ymddanos yn Llanw Llŷn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn holi am y fan ond hyd y gwn i ni chafwyd ymateb. Cysylltwch a rhowch wybod os y gwyddoch.

I gloi, os oes rhai ohonoch yn gwaredu at wrachod beth am i chi ddilyn cyngor Eirlys Gruffydd eto, gweler erthygl ‘Eithr Gwared ni Rhag Drwg’ o’r chweched rhifyn – darllenwch yma. Y ffordd orau meddai i ddiogelu eich cartref rhag gwrachod “yw tyfu llysiau sy’n gas gan wrachod o gwmpas y tŷ” ac mae’n enwi rosmari, teim, saffri, lafant a phersli. Ni ddaw gwrach ar eich cyfyl os yw’r griafolen yn tyfu yn ymyl y tŷ chwaith. Wyddoch chi am fwy o gynghorion tebyg? Rhowch wybod!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s