Meddyginiaethau Hynod

gan Eirlys Gruffydd. 90 (Hydref 2005), t.16

Ers talwm, pan oedd pawb yn byw yn agos at y pridd a doctoriaid yn bethau prin, roedd pob mam a gwraig gwerth ei halen yn gwybod sut i wella salwch a doluriau o bob math – neu roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n gwybod. I ni mae rhai o’r meddygyiniaethau a ddefnyddiwyd yn y canrifoedd a fu yn chwerthinllyd ond yn ddifyr iawn serch hynny.

Meddyliwch o ddifri am ddyn a roddodd lygoden i’w fab i fwyta er mwyn ei wella o’r pâs! Gellid osgoi’r salwch hwnnw trwy wisgo darn o raff a fu mewn tar o gwmpas y gwddw. Hefyd gellid mynd â phlentyn sâl at griw o ddynion oedd yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd er mwyn i’r plentyn gael arogli’r tar gwlyb yn y gred y byddai hyn yn ei wella. Roedd yn arferiad ym Mhorthmadog yng nghanol yr ugeinfed ganrif i fynd â phlant oedd yn dioddef o’r aflwydd at y gwaith nwy ac i gerdded y cob i gael gwynt y môr. Yn ôl y sipsiwn, fodd bynnag, mae’n anodd gwella’r pâs, dim ond lleihau ei effaith sy’n bosibl ac os bydd yn cychwyn yn y gwanwyn bydd yn parhau tan yr hydref. Cofiaf i mi golli tymor cyfan o addysg o’i herwydd pan oeddwn yn fy arddegau. Nododd y Parchedig Elias Owen o sir Drefaldwyn yn ei gyfrol Welsh Folklore, a ymddangosodd yn 1887, yr arfer canlynol i wella’r pâs. Dylid prynu torth fach o fara gwerth ceiniog, ei lapio mewn darn o galico a’i chladdu yn yr ardd. Drannoeth dylid codi’r dorth a’i rhoi i’r claf i’w bwyta nes bod pob briwsionyn wedi diflannu. Byddai hyn yn sicr o wella’r pâs. O ardal y gororau daw’r feddyginiaeth hon i wella’r pâs. Rhaid oedd cymryd tair llath o rhuban du a’i dynnu drwy gorff llyffant byw dair gwaith a gwneud i’r claf wisgo’r rhuban am ei wddw. Dull arall o swydd Efrog y tro hwn oedd rhoi llyffant mewn jwg o ddŵr a gwneud i’r claf besychu i mewn i’r jwg. Byddai’r llyffant yn cael y salwch a’r claf yn gwella. O Forgannwg daw’r arferiad o fwydo pastai o gig llygod i blant oedd ag atal dweud arnynt. Roedd y feddyginiaeth hon hefyd yn addas ar gyfer gwella anhwylder ar y bledren.

O ardal Porthmadog hefyd daw’r arferiad o rwbio’r frest â mwstard a gwasgu croen ysgyfarnog ar y frest a’r croen at allan er mwyn rhwystro bronceitis. Yn ugeiniau’r ganrif diwethaf aeth taid fy ngŵr i weld arbenigwr ar y frest yn Lerpwl. Dychrynodd y meddyg gwybodus pan ofynnodd i’r claf dynnu ei grys a gweld y croen ysgyfarnog. Galwodd bawb o fewn clyw i dystio i’r rhyfeddod nes bod y teulu oedd wedi dod gyda’r claf yn meddwl siŵr ei fod wedi marw! O dde Cymru daw ffordd arall i gadw person rhag cael bronchitis sef drwy glymu darn o facwn i’r frest. Byddai gorchuddio’r frest â phapur brown a saim gŵydd yn effeithiol hefyd.

Y dyddiau hyn gellir cael brechiad yn erbyn y ffliw ond yn y gorffennol credid fod pryfaid cop yn bethau da i atal y salwch. Gellid eu llyncu’n fyw neu gosod nifer ohonynt mewn bag bychain a’i wisgo ar linyn o gwmpas y gwddw. Os nad oedd y creaduriaid eu hunain yn apelio at y claf gellid cymryd gwe pry copyn a’i rolio i wneud pilsen fechan. Byddai angen llyncu chwech o’r rhain cyn i’r driniaeth fod yn effeithiol. Yn ogystal gellid llyncu bwch y coed neu’r grachen ludw i wella’r claf.

Dull arall addas i blant oedd eu gwthio ar eu pennau i ddŵr oer. Tebyg fod hyn yn effeithiol i dorri gwres uchel.

Cofnodwyd llawer o feddyginiaethau’r ddeunawfed ganrif gan John Wesley er mwyn i’w ddilynwyr gael cyrff iach yn ogystal â meddyliau pur ac eneidiau glân. I ryddhau’r corff argymhellai fagu ci ifanc ar fol y claf am rhai oriau. Pan oedd rhywun yn bwyta’n ddireolaeth, argymhellai Welsey rhoi darn bach o fara mewn gwin ac yna’i wthio i’r ffroenau. Mae’n bosib fod anallu i arogli yn gymorth i lleihau blas y bwyd yn union fel pan fo gan rhywun annwyd. Er mwyn gwella asthma dywedai mai’r feddyginiaeth orau oedd byw am bythefnos ar foron wedi eu berwi. Ni ddylid bwyta prydiau trwm meddai, yn enwedig gyda’r nos. O ganolbarth Cymru daw’r gred fod gosod y Beibl o dan obennydd y sawl sydd ag asthma a gwneud iddo gysgu felly am dair noson yn olynol yn siŵr o ddod â rhyddhad iddo. Er mwyn lliniaru rhywfaint ar waeledd un oedd yn dioddef o’r dicâu arferid gwneud cawl malwod ym Morgannwg. Ar y llaw arall byddai gadael y claf am awr bob dydd yn stabl gyda’r ceffylau yr un mor effeithiol ac yn fwy pleserus mae’n siŵr.

Aflwydd cyffredin sy’n ein poeni ni i gyd yw’r annwyd. Yn ôl Welsey dylid cymryd croen oren wedi ei dorri’n denau, ei rolio i fyny o chwith a’i wthio i’r ffroenau. Gellir rhwystro annwyd rhag datblygu wrth sugno nionyn amrwd neu arogli nionod newydd eu torri pan fydd annwyd yn bygwth. Gallwch hefyd yfed peint o ddŵr oer tra’n gorwedd i lawr a chael bath mewn dŵr oer. Mae bwyta bara a llaeth cyn cysgu yn beth da hefyd. Gallwch gynnau cannwyll a gadael i’r gwêr ddisgyn ar bapur brown a thra bo’r gwêr yn gynnes, ei rwbio ar y frest. Gallwch hefyd wneud ffisig ar gyfer pesychu drwy gymysgu dau ŵy, tri lemwn, chwarter pwys o siwgwr brown a pheint o rym. Dylid yfed gwydriad o’r gymysgedd fore a’r hwyr. O dde Cymru daw dwy feddyginiaeth hynod i wella’r annwyd. Os llwyddid i gerdded dros derfyn naw cae mewn un diwrnod byddai’r annwyd yn cilio. Ffordd arall o sicrhau hynny fyddai i’r claf gerdded mewn tawelwch llwyr a heb groesi dŵr at geubren helygen a chwythu dair gwaith i mewn i’r boncyff gwag. Yna dylid gerdded adref heb droi i edrych yn ôl a heb yngan gair. Byddai hyn hefyd yn gwella’r ffliw.

Roedd llygaid poenus yn gyffredin iawn ers talwm ac roedd nifer o ffynhonnau oedd â’u dyfroedd yn arbennig o dda at liniaru’r boen. Gwyddom fod cig coch yn help i leihau llygad ddu neu gellir rhoi poltis afal ar y llygaid. Roedd un feddyginiaeth a gofnododd John Wesley i wella cataract yn defnyddio cynhwysyn carthion dynol a’u sychu yna eu troi’n bowdwr mân. Rhaid wedyn oedd chwythu’r powdwr i’r llygaid a byddai hyn yn fodd i leihau’r haenen denau oedd yn tyfu dros y llygaid. Mae pawb yn gyfarwydd â’r arfer o rwbio llyfrithen a modrwy briodas naw o weithiau er mwyn ei gwella ond tybed faint sy’n gwybod fod yn bosib cael llyfrithen wrth edrych ar lygad poenus rhywun arall! Yn ôl Evan Issac yn ei gyfrol ddiddorol Coelion Cymru, roedd trigolion Penllyn yn credu ei bod yn bosib cael gwared â llyfrithen drwy gyfri i ddeg a chyfrif yn ôl ar un anadliad ac yna chwythu ar y llygaid poenus i’w wella. Ar un adeg roedd hon yn gred cyffredin drwy’r wlad. Byddai dŵr glaw mis Mai yn cael ei ddefnyddio i olchi llygaid poenus a chredid yn yr un modd fod gwlith Mai yn dda i’r croen. Gellid gwella golwg gwan wrth gymryd llygaid llyffant a’u gwisgo ar linyn o gwmpas y gwddw.

Fel llwythymwrthodwr roedd Welsey yn argymell dŵr oer fel meddyginiaeth anffaeledig i lawer aflwydd. Er mwyn gwella salwch meddwl neu hyd yn oed orffwylledd dylid gorchddio pen y claf gyda charpiau wedi’u codi o ddŵr oer neu gellid mynd â’r claf at raeadr a dal ei ben o dan y dŵr oer am gyhyd ac y gallai’r truan ei ddioddef. Mae rhai pobl yn gweld y math yma o driniaeth fel un sy’n rhoi sioc i’r claf ac yn rhagflaenydd i’r math o driniaeth a roddid i wella salwch meddwl yn yr ugeinfed ganrif. Yn ôl Wesley gallai bath o ddŵr oer helpu rhywun i gysgu’n well. Dyma hefyd oedd yn gwella crudcymalau ac hyd yn oed y gwahanglwyf. Ffordd arall o drin y crudcymalau oedd trwy gario darn o daten, lwmp o swlffwr, nutmeg neu hyd yn oed ddant wenci yn y boced.

Er mwyn bod o gymorth i rhywun oedd wedi cael sioc drydanol drwy gael ei daro gan fellten neu wedi ei achub rhag boddi ac yn anymwybodol, argymhellai Welsey y dylid defnyddio’r fegin i chwythu’n gryf i lawr y corn gwddw. Unwaith eto mae Welsey yn amlwg yn ddyn o flaen ei oes oherwydd dyma wnawn ninnau wrth roi cusan bywyd i berson sydd wedi peidio anadlu, sef anadlu yn ei le.

Rydym wedi hen arfer â defnyddio llysiau i wella afiechydon a gallwn weld fod rhinwedd ynddynt i fod o gymorth i’r claf ond mae’n fwy anodd derbyn y gall llygod, a phryfaid cop fod yn effeithiol. Mae olew draenog yn dda i wella pigyn clust yn ôl y sipsiwn. Rhaid dal y creadur a’i ladd ac yna shafio’r holl bigau oddi arno. Yna caiff y creadur moel ei rostio uwchben tân nes bod yr olew yn llifo allan ohono. O’i gasglu a’i dywallt i’r glust bydd yn effeithiol iawn i esmwytho ac i wella unrhyw boen. Byddai saim llyffantod hefyd yn effeithiol at bigyn clust.

Aflwydd poenus arall sy’n ein heffeithio yw’r ddannodd. Byddai’r sipsiwn yn argymell llanw twll mewn dant gyda lwmp o soda. Hefyd byddai cario dant dafad mewn cod fechan ar linyn o gwmpas y gwddf yn lleihau’r posibilrwydd o gael y ddannodd. Yn ôl un hen feddyginiaeth o sir Forgannwg gellir cael gwared â’r ddannodd drwy gymryd darn main o bren helygen a glanhau’r dannedd drwy ei wthio rhyngddynt a gwneud iddynt waedu. Yna dylid taflu’r darn pren i nant a byddai’r boen yn llifo i ffwrdd gyda’r dŵr. Hyd yn oed mor ddiweddar â thridegau’r ugeinfed ganrif yn swydd Gaerhifryn roedd traed twrch daear neu’r wahadden yn cael eu gwisgo mewn cod fechan o gwmpas y gwddw i wella’r ddannodd. Gellid hefyd eu defnyddio yn yr un modd i gynorthwyo plentyn oedd yn torri dannedd a chadw ei wres i lawr. Ffordd arall o wella’r dannodd oedd berwi un llyffant mewn finegr a golchi’r dannedd gyda’r hylif.

Byddwn yn siŵr o gael dolur gwddw o leiaf unwaith y flwyddyn a gall y cyflwr ein gwneud yn anhwylus a digalon iawn. Wrth gwrs yr ateb ers talwm oedd cysgu â hosan fudur wedi ei chlymu am y gwddw gyda sawdl yr hosan yn pwyso ar y corn gwddw. Gellid hefyd rhoi darn mawr o fara wedi ei dostio mewn finegr wedi ei lapio mewn cadach a’i osod ar y gwddw.

Mae Marie Trevelyan yn ei chyfrol Folk-lore and Folk-stories of Wales a gyhoeddwyd yn 1909 yn sôn am lawer o hen feddyginiaethau hynod a gasglwyd gan ei thad yn sir Forgannwg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credid fod tebyg yn gallu gwella tebyg a dyna pam fod person oedd yn dioddef o’r clefyd melyn yn gwisgo rhuban neu wlanen felen ar y gwddw. Pe bai modd dal yr aderyn bach hoffus hwnnw, melyn yr eithin, a’i rhoi o flaen wyneb y claf a byddai’r clefyd melyn yn siŵr o gael ei wella. Yn yr un modd gellid rhoi darn o ambr mewn cwpan yn cynnwys medd a’i roi i’r claf i’w yfed. Ffordd arall o wella’r clefyd melyn oedd gosod croen madfell neu wiber o dan obennydd y claf. Pan fyddai plentyn yn dioddef o’r dwymyn coch arferid gwisgo’r claf mewn dillad coch, hongian llenni coch ar y ffenest a thaenu cwrlid coch dros y gwely yn y gred y byddai hyn yn help i dorri’r dwymyn. Dyma hefyd un ffordd o drin y frech wen a’r frech goch.

Roedd y gynddaredd yn afiechyd llawer mwy cyffredin ymhlith dynion ac anifeiliad ers talwm nag ydyw heddiw, a diolch am hynny. Un modd o wella’r claf a ddefnyddiwyd ar hyd arfordiroedd Cymru oedd clymu traed a dwylo’r claf a rhwyfo’r truan allan i’r môr, yna gafael yn ei draed a’i ollwng deirgwaith yn olynol i’r tonnau. Bob tro gofynnid iddo neu iddi os oedd wedi cael digon. Fel yr agorai ei geg i ateb fe’i rhoddwyd yn ôl o dan y dŵr unwaith yn rhagor. Rhaid oedd gwneud hyn naw o weithiau gydag ysbaid rhwng pob tro i’r creadur gael gwynt. Credid fod y sioc a’r dŵr hallt a lyncwyd yn sicrhau gwellhad.

Gwn am nifer o bobl sy’n dioddef o’r gowt ac er bod rhywun yn tueddu i gymryd y cyflwr yn ysgafn, mae’n aflwydd poenus iawn. Ers talwm credid mai malais gwrachod oedd yn ei achosi. Gormod o fwyd maethlon a gwinoedd oedd yn cael y bai ers slawer dydd. Yn sicr mae alcohol yn cael eu wahardd i’r sawl sy’n dioddef o’r gowt heddiw. Yn y gorffennol defnyddid cawl malwod, cawl a cherrig callestr wedi’u berwi yn y dŵr a the carreg galch i wella’r cyflwr. Berwyd rhain am hanner awr, wedyn eu hudlo a’u hyfed a dywedid wrth y claf am gael ffydd yn y feddyginiaeth, pa’r un bynnag ydoedd! Yn ôl Marie Trevelyan roedd yr hen bobl yn credu fod sawl gwahanol fath o gowt i’w gael. Byddai un math yn symud i wahanol rhannau o’r corff a’r feddyginiaeth oedd gwneud i’r claf orwedd yn noeth mewn gwair glân ac yna ei lapio mewn croen dafad. Yna byddid yn rhoi cymysgedd iddo i wneud iddo chwysu a hyn yn sicrhau gwellhad.

Pan fyddai plant yn cael ffitiau ers talwm arferid gwneud modrwy iddynt i’w gwisgo ond nid modrwy gyffredin mohoni. Rhaid oedd ei gwneud allan o ddarn swllt a gymerwyd o’r plat casglu yn yr eglwys ar ôl gwasanaeth y Cymun. Rhaid oedd i’r swllt gael ei gyflwyno i’r rhiant oedd ei angen heb yngan gair a rhaid oedd ei dderbyn yn yr un modd. Byddai gwisgo’r fodrwy yn cadw’r plentyn rhag cael ffitiau. Dyma oedd y gred yn ardaloedd Efenechtyd a Rhosymedre yn yr hen sir Ddinbych, yn ôl Elias Owen. Dull arall o wella’r plentyn oedd cael hyd i benglog dynol a’i falu’n bowdwr a’i rhoi mewn diod i’r plentyn i’w yfed.

Gwelsom eisoes fod y llyffant yn greadur tra defnyddiol i wella amrywiol anhwylderau. Gellid gwella pesychu drwg drwy adael i’r claf osod llyffant bach yn ei geg a phan fyddai’n poeri’r creadur allan cai wared o’r besychu. Er mwyn rhwystro trwyn rhag gwaedu rhaid oedd lladd llyffant a gwasgu hoelion iddo a’i wisgo mewn cod o amgylch y gwddw. Os bydd garddwrn wedi ei hysigo gellir ei wella drwy ddal llyffant a rwbio’r creadur byw drosto. Ar un adeg yn Lloegr roedd y fath beth â doctor llyffantod yn bodoli, dyn oedd yn mynd o gwmpas y wlad yn gwerthu llyffantod marw mewn codau yn barod i’w gwisgo am y gwddw fel meddyginiaeth barod ar gyfer amrywiol anhwylderau.

Mae’n siŵr gen i fod yr holl greaduriaid bach diniwed oedd yn cael eu defnyddio i wella salwch yn y gorffennol wedi cael rhwydd hynt i fyw a marw yn gwbl naturiol ers blynyddoedd maith. Wn i ddim am neb bellach sy’n defnyddio’r fath feddyginiaethau hynod. Wyddoch chi?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s