Archifau Misol: Mawrth 2015

Olwyn a Chloc

Gareth Maelor. 56 (Haf 1997), t.10

Mor wir y dywediad mai angen yw mam pob dyfais, ac o blith holl ddyfeisiadau y dyn cyntefig, yr olwyn mae’n debyg oedd y fwyaf syfrdanol a defnyddiol ohonynt i gyd. Mae’r olwynion hynaf sy’ mewn bodolaeth yn perthyn i ail hanner y bedwaredd fileniwn C.C.

Olwynion trol gyntefig yw y rhain ac fe’u darganfuwyd mewn beddau yn Kish a Susa ym Mesopotamia, beddau cenedl y Sumeriaid, cyn-dadau Abraham.

Maent yn olwynion syml wedi eu gwneud o dair ‘styllen yn cyd-gyfarfod yn y both a limpyn yn cloi’r olwyn wrth yr echel. Y ddamcaniaeth yw mai datblygiad o olwyn troell y crochenydd oedd yr olwynion troliau hyn. Ymhen amser daeth yr olwyn yn hanfodol i bob math o grefftwyr a gwaith, o’r turniwr i’r melinydd; o’r ffatri wlân i’r pwll glo, a’r saer olwynion yntau yn ffigwr o bwys mewn cymdeithas. Yn ei draethawd a’i gyfrol werthfawr ar ‘Ddiwydiannau Coll’, cyfeiria Bob Owen, Croesor at seiri troliau enwog Tremadog. Dywed i Nicadner ddilyn ei brentisiaeth gyda hwy. Tybed a oes rhywun bellach yng Nghymru yn gwneud ei fywoliaeth wrth ddilyn y grefft hon? Gwaetha’r modd tynnwyd pinnau o olwynion sawl crefft a galwedigaeth wledig.

Ychydig o bobl bellach sy’n atgyweirio clociau a phrinach byth yw gwneuthurwyr clociau. Bu adeg pan oedd atgyweirwyr clociau bron ym mhob ardal. Yn y pedwardegau roedd sawl un ym Mlaenau Ffestiniog, bro fy mebyd, yn fedrus fel atgyweirwyr clociau – rhai fel Evan Roberts, Tan y grisiau, ac Emrys Evans a’i frodyr yn y Manod wedyn.

Yn wahanol i Wil Bryan gwyddai y crefftwyr hyn am bwysigrwydd pob olwyn gocos a’u lleoliad. Yr olwyn gocos neu’r olwyn ddannedd yw’r fwyaf hynod o’r holl olwynion i gyd. Mor syml ac eto effeithiol yw’r ddyfais hon, dannedd un olwyn ynn cydio ym mylchau olwyn arall, a rhiciau both yr olwyn honno yn derbyn dannedd olwyn gocos arall eto, ac felly ymlaen o un olwyn i’r llall, a’r bysedd, y mawr a’r bach yn troi ac ufuddhau i symudiadau holl ddarnau cyfansoddiad yr hyn a elwir yn gloc. Mae peirianwaith cloc mor gymhleth â’r ddiffiniad ohono yn yr Encyclopedia Britannica:

‘Dyfais yw’r cloc sy’n gwneud symudiadau rheolaidd ac egwyl gyfartal rhwng pob symudiad, a chysylltir y ddyfais hon â mecanyddiaeth sy’n cadw cyfri’ o’r symudiadau hyn’

Boed hynny fel y bo, hawdd deall penbleth Wil Bryan wrth geisio lleoli gwahanol fathau o olwynion cloc a rhoi’r holl ddarnau yn ôl wrth ei gilydd. Fe berthyn i gloc olwynion piniwn neu olwynion cocos, olwynion cyd-bwysedd, olwynion-piniwn-bach ac olwynion clicied, heb sôn am ddarnau eraill a rhyw gyfaredd yn perthyn i enwau’r darnau i gyd: y pendil, pifod, pwysau a phaled, tafol a gwerthyd neu ‘spring’ a ‘spindle’, rhac, atalfar, clicied a cholyn. A bod yn fanwl-gywir rhaid hefyd wrth gloch cyn y gall y ddyfais hawlio’r enw cloc, oherwydd tarddiad Ffrangeg neu Almaeneg sydd i’r gair cloch, sef ‘cloche’ (Ffrangeg) a ‘glocke’ (Almaeneg) a olyga declyn sy’n cadw amser ac yn taro cloch i ddynodi amserau arbennig o’r dydd.

Daeth y cloc mecanyddol i Ewrop yn y drydedd ganrif ar ddeg a’i briod ddefnydd oedd nodi amserau gwasanaethau yn yr eglwysi, felly mae hanes y cloc capel yn hen iawn! Ceir cofnod am gloc yn abaty San Steffan yn 1288, yng nghadeirlan Caergaint yn 1292, ac yng nghadeirlan Sain Alban yn 1326. Y clociau hynaf mewn bodolaeth yw y rhai sydd yng nghadeirlan Caersallog (Salisbury) 1386, a Wells, 1392.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg daeth y cloc mawr, neu’r cloc hir neu’r cloc wyth niwrnod i fri yn Lloegr, ac erbyn y ddeunawfed ganrif roedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Un o nodweddion wyneb y cloc mawr oedd y lleuad symudol i ddynodi pryd y byddai’n lleuad llawn ac ati, a hefyd y llong a symudai ar donnau amser fel petai.

Erbyn heddiw mae’r cloc mawr sy’n perthyn i’r ddeunawfed ganrif yn werth llawer iawn o arian wrth gwrs. Ym mhlwy’ Trawsfynydd mae cloc hynod iawn sy mae’n debyg yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, ond nid cloc mawr mohono. Mae hwn yn rhan o bared stafell yn ffermdy’r Goppa, sef rhan o’r palis. O bosib, un o glociau y Goedwig Dduw ydyw, ardal enwog am wneuthurwyr clociau. Ar wyneb y cloc paentiwyd tirlun a choed sy’n gweddu i ardaloedd y Goedwig Ddu yn ne-orllewin yr Almaen. Yn 1702 eiddo teulu’r Parry, Llanrhaeadr Hall, Dinbych oedd y Goppa.

Nid oeddent yn byw yno eu hunain, gan mai gosod y tŷ i denantiaid a fyddent ond byddent yn ei ddefnyddio fel tŷ haf. Yn ôl Mrs Gwyneth Davies a’i mab Mr John Gwyn Davies, sy’n byw yn y Goppa, y tebygrwydd yw mai eiddo teulu’r Parry ydoedd yr hen ddodrefn sy’ yn y Goppa ynghyd â’r cloc arbennig hwn. Yr hyn a’i gwna yn unigryw yw fod ei berfedd i gyd wedi ei wneud o bren. Cynnwys ei grombil, pob echel, pifod, tafol ac ati, yr holl olwynion, rhai bach a mawr, olwynion clicied a chocos, y cwbwl oll wedi eu gwneud o bren. Tybed a oes ei debyg yng Nghymru? Credir mai cloc oedd hwn at iws morwynion a gweision y Goppa (a rheithor y plwy’ hefyd a fu’n byw yno unwaith), a dydd gwaith pob un ohonynt yn cael ei reoli gan fysedd pren yr hen gloc, a hwythau’r bysedd yn troi yn ôl symudiadau a rhod yr olwynion. Er mai ‘cloc dŵad’ a thramorwr o’r Goedwig Ddu ydoedd a ddaeth i Gymru tua dwy ganrif a hanner yn ôl, mae’r hen gloc wedi cymryd ei le ar aelwyd y Goppa ers cenedlaethau lawer, ac yn gloc Cymreig drwyddo draw o’i wyneb rhadlon i’w berfedd pren.

Os ydym yn berchen ar yr ‘hen wyth niwrnod’, wrth edmygu’r graen a’r wedd allanol sydd iddo peidiwn ag anghofio’r darnau cuddiedig o’i fewn, yn arbennig yr olwynion cocos sy’n cydio yn ei gilydd ac yn troi y naill a’r llall gan roi bywyd i’r cloc mawr.

Ceir pobl hefyd sy’n hynod debyg i’r olwynion hyn, y bobl hynny y cyfeirir atynt yn yr Apocryffa, yn Llyfr Ecclesiasticus fel ‘… rhai na fuont erioed… rhai nad oes iddynt goffadwriaeth’. Yn union fel yr olwynion dannedd, gweithio o’r golwg a wna y rhain hefyd, a’u cyfraniad diffwdan yn gyfrifol am droi rhod ac amgylchiadau bywyd i lawer ohonom.

Ie, yr olwyn mae’n debyg yw un o ddyfeisiadau mwyaf effeithiol dyn.

Olwyn a Chloc… a bocs talu

Darllenais yr erthygl ‘Olwyn a Chloc’ yn Rhifyn 56 o Llafar Gwlad gyda diddordeb gan mai fy nhaid Gareth Maelor a’i hysgrifennodd. Ynddi mae cyfeiriad at gloc hynod yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, oedd yn fferm y Goppa, Trawsfynydd. Ysgrifennwyd yr erthygl yn 1997 ac fe allwch ei darllen yma. Tybed ydy’r cloc yno o hyd?

Mae rhai teuluoedd yn ffodus bod ganddyn nhw greiriau teulu. Dic Goodman Jones yw awdur y soned sydd yn sôn amdano yn weindio hen gloc mawr y teulu fel y gwnaeth ei dad a’i daid o’i flaen. Does dim cloc mawr dresel fawr gymreig na chwpwrdd tridarn yn eiddo i’n teulu ni; mae rheiny wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain a dau hen daid wedi’u gwerthu i ddynion hel antiques oedd yn ymweld â thai ers stalwm gan feddwl y byddai cwpwrdd modern yn well o lawer. Syrthiodd y ddau i’r trap gan feddwl eu bod yn taro bargen â’r Saeeson hyn oedd yn hela tai am hen greiriau a bellach mae’r ddresel a’r llestri gleision wedi hen fynd dros glawdd Offa i rywle.

Na, does genni ddim crair na chreiriau gwerthfawr yn ein meddiant fel teulu ond mae gen i hwn

bocs chwarel

Be’ ‘dio? Bocs cyflog. Bocs dal cyflog prin John Samuel Jones, hen hen daid i mi. Gweithiai yn chwarel yr Oakley ym Mlaenau Ffestiniog ac roedd gan pob chwarelwr ddisg efydd a rhif arno. Ar ddiwrnod cyflog byddai’n cyflwyno ei ddisg i’r clerc cyflogau a byddai hwnnw yn rhoi iddo ei gyflog mewn bocs efo’r un rhif.

Amrywiai’r cyflog yn ôl y llechi a wnaed gan y chwarelwr. 208 oedd rhif bocs John Samuel Jones. Yn yr hen Lyfr Emynau geiriau agoriadol Emyn rhif 208 oedd –

“Dyma frawd a annwyd inni
Erbyn cledi a phob clwy…”

Geiriau addas i chwarelwr a wyddai am gledi gwaith a chlwy y garreg las.

Dyma grair arall sydd gennym fel teulu –

crair 2

Ond y tro hwn ni chofnodais beth ddywedodd fy nhaid amdano. Yr unig beth a gofiaf iddo ddweud amdano yw ei fod wedi dod o gartref perthynas i Hedd Wyn. Beth oedd ei bwrpas? Rhywbeth yn ymwneud â bara ceirch rwy’n amau. Tybed fedr rywun roi goleuni ar y mater? Ac wrth gwrs os oes gennych chwithau focs cyflog neu grair difyr arall sy’n perthyn i’ch teulu chi, rhowch wybod.

Graffiti

Anweledig ganodd – “Os dachi isio neud graffiti / gwnewch graffiti Cymraeg.” Ac ysgrifennu am graffiti, a graffiti Cymraeg yn arbennig a wnaeth Myrddin ap Dafydd yn Llafar Gwlad, 32. Fel y dywed Myrddin “yn ôl rhai, mae rhywbeth cyntefig, tiriogaethol yn perthyn i’r arfer o sgwennu graffiti.” Ac mi allai innau dystio i hynny; wedi prynhawn hir o baentio parlwr y tŷ yn 14 Ffordd Portland, Aberystwyth y llynedd, roedd fy ffrind a minnau am adael ein marc –

graffiti 2

Ydi, mae gadael marc fel hyn yn perthyn chwedl Myrddin “yn agos i gi sy’n codi’i goes ar geir, ar lampau ac ar goed er mwyn dangos mai ei batch bach o ydi’r tir hwnnw!” Cofia Myrddin iddo weld y geiriau “English visited Panti” gyda dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Er imi breswylio am ddwy flynedd ym Mhantycelyn, welais i erioed mo’r geiriau hynny – ond cyn symud o’r Neuadd ddwy flynedd yn ôl, roeddem fel criw o ffrindiau am adael ein hôl ar Bantycelyn. Crafodd pawb eu henwau ar eu drysau gyda’r flwyddyn oddi tano. Llwyddodd ambell un ohonom fynd ar y parapet a wir i chi mae ein henwau yno o hyd! Gwireddodd eraill uchelgais i ymweld â’r bar ym Mhantycelyn. Wrth gwrs, mae’r ‘bar’ hwnnw wedi ei gau ers blynyddoedd bellach ac er ceisio ‘torri fewn’ i’r bar ar ôl nosweithiau meddwol, dim ond ar ddiwedd fy nghyfnod ym Mhantycelyn y cefais weld y lle drosof fy hun. Erbyn hyn, lle storio matresi, cadeiriau a byrddau ydyw ond yr hyn a’m rhyfeddodd oedd bod y waliau wedi eu plastro â phosteri, enwau a sloganau gwahanol.

graffiti

posteri panty

Yn sicr, fe ddefnyddiwyd waliau Pantycelyn i gyhoeddi negeseuon gwleidyddol. Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld sawl cenhedlaeth o sloganau, o ‘Cofiwch Dryweryn’ i ‘Meibion Glyndŵr’. Cyfeiria Myrddin at un o’r rhai mwyaf gogleisiol sef honno a baentiwyd ar dro siarp ger Corris. “Caution” meddai’r paent, gair digon disgwyliedig ar dro o’r fath – ond wele’r ychwanegiad “Revolution in Progress”. 1969 oedd hynny. Tydi’r sgwennu ddim yno mwyach na’r wal chwaith.

Sonia Myrddin am graffiti gwleidyddol mewn gwledydd eraill hefyd. Dywed –

“Yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae talcenni tai wedi eu haddurno’n drawiadol gan ddarlunio’r gwahanol safbwyntiau gwleidyddol. Marcio’r diriogaeth unwaith eto, ond mae lle i sylw gwreiddiol, ysgafnach ar dro. Ar wal un tŷ, sgrialwyd y slogan “Throw well, throw shell” yn niwedd y chwedegau. Daeth yr hanes i glyw ffotograffydd newyddiadurol ond pan aeth ef yno i dynnu llun y graffiti, roedd y tŷ erbyn hynny wedi cael ei losgi i’r llawr.”

Mae’n werth dilyn yr #graffiticymraeg ar Twitter – yno fe welwch enghreifftiau o graffiti gwahanol ar draws Cymru – o ‘Twll tin y cwin’ i ‘Tom Jones am byth’. Yno, ymysg y lluniau fe welwch graffiti o’r geiriau ‘Cymru Rydd’ sydd i’w weld ar gopa Garn Boduan, ger Nefyn ym Mhen Llŷn. Byddaf yn cerdded yn wythnosol bron i Garn Boduan, a’r peth cyntaf a wnaf wrth gyrraedd y copa yw sefyll ar y slabyn carreg sydd wedi ei baentio â’r geiriau ‘Cymru Rydd.’ Efallai mai fi sy’n colli arni, ond byddaf yn teimlo rhyw wefr anhygoel bob tro o deimlo’r geiriau dan fy sawdl ac yna codi llygaid i weld Pen Llŷn yn agor fel llyfr o’m blaen.

cymru rydd

Wyddoch chi am fwy o graffiti fel hyn? Cofiwch yrru pwt neu lun os y gwyddoch am graffiti diddorol. Yn sicr, mae angen mwy o graffiti Cymraeg yng Nghymru. Holodd Myrddin pam fod cyn lleied o graffiti Cymraeg ar gael mewn tai bach? Gofynnodd ai “methu fforddio ffelt-pen neu fethu meddwl am ddim byd newydd i’w ddweud” ydym ni? Cyfeiriodd at un tŷ bach diddorol oedd yn llawn graffiti gwahanol sef tŷ bach yn yr Hen Lolfa yn Nhalybont. Dyfynnaf gasgliad o ddoethinebau’r muriau –

“Does dim graddau o fasdads” – G. Huws
Waeth iti garreg na thwll!” – S. Johnson
Dim myg i gyd yw Duw” – E. Pontshân
“Wa’th ti enjoio leiff mo’r dam bit” – D. Bontgoch
Pa leshad i ddyn os cyll efe yr holl fyd, ac ennill ei enaid ei hun” – Wil Sam

A dyma rai dienw oddi ar waliau yr un geudy prysur:

“Perffeithrwydd yw nod yr eilradd”
“Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd.”
“Y lleiafrif sydd wastad yn iawn”
“Bydd yn ymarferol – mynna’r amhosibl”
“Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch.”

Dyfynna Myrddin hefyd bennill gan Glyn Roberts a gyfansoddodd ar gyfer y Talwrn. A dyma fo i chi –

Pennill Graffiti
Ar wal y tŷ bach

Confucius a ddywedodd;
“Eistedd i lawr mewn hedd –
Os siglo y bo’r gadwyn
Cynhesach fydd y sedd.”

I gloi, dyma sôn am un graffiti sy’n dipyn o ffefryn gan Myrddin. Fel y gwyddoch, mae amryw o dai bach bellach yn cael eu paentio â phaent lympiog, glosi dros ben – paent gwrth-graffiti. Ond anghofiwyd paentio’r to mewn un o’r tai bach hyn ac arno mewn llythrennau mân, mân, yr oedd yn rhaid ymestyn ar flaenau’ch traed i graffu arnynt, oedd y geiriau hyn –

“Os wyt ti’n medru darllen hwn,
rwyt ti’n gwlychu dy esgidiau.”

Rom bach o eiriau ac ymadroddion Llŷn, Arfon ac Eifionydd

map

Cerdded drwy bentref Morfa Nefyn oeddwn i dros y dolig a sylwi cymaint oedd wedi rigio’u tai. Ia, ‘rigio’u tai’ fydd pobl Llŷn nid eu trimio nhw fel pawb arall. Gwahanol? Unigryw? Yn sicr!

Ac fel llo Llŷn rwyf wedi cael fy mhorthi yn iaith y brain ac mewn dywediadau megis “mynd drwy’r byd mewn hers”, “codi cnecs” a “wedi mynd yn horlics” yn ‘hen ysgol hogia Llŷn’ ym Motwnnog.

Cymerwch er enghraifft ‘blermon’ sef rhyw greadur blêr, trwsgl, term y byddaf yn ei edliw am fy mrodyr yn aml! Neu beth am ‘asgwrn tynnu’ sef asgwrn fforchog ar frest cyw iâr. Bydd Iona Jones, gwraig y Post ym Morfa Nefyn yn fwy na pharod ei thafod i alw rhai o genod Ysgol Botwnnog yn “Siani bais gwta” os yw eu sgerti yn rhy fyr. A hi hefyd fydd yn gweld cownter y siop ar Fercher olaf y mis sef diwrnod dosbarthu Llanw Llŷn mor brysur â “bwrdd Bodwrdda” (hen ffermdy ger Aberdaron yw Bodwrdda).

T. Llew Jones ddywedodd wrth sôn am gasglu geiriau a dywediadau llafar gwlad-

“o’r cyfoeth sy’n llithro rhwng ein bysedd fel tywod y môr, a ninnau mor ddifater… fe ddwedwn i ei bod yn hwyr bryd i ni fynd ati i gasglu’r hyn sy’n weddill o’n hetifeddiaeth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Nawr – neu ddim yw hi!”

Dyna a wnaeth Bleddyn Owen Huws yn Llafar Gwlad, 20, drwy restru rhai o eiriau ac ymadroddion Arfon ac Eifionydd. Dyma flas i chi ar rai –

Bachau byns: dwylo go drwsgl yw ei ystyr. Clywais gyfaill imi’n yr ysgol yn dweud bod gan fachgen a fethai â dal pêl â’i ddwylo facha’ byns.

Bodwrdda: “mae hi ‘run fath â Bodwrdda ‘ma”, meddai cymydog pan oeddem yn torri gwair mewn gardd â dau beiriant lladd gwair. Dywediad yn Eifionydd ydyw. Fe arferai fferm Bodwrdda ger Aberdaron gyflogi llawer o weision a morynion.

Brwgaits: meddir am goediach a brigau a drain, neu am anialwch yn gyffredinol. Gw. Maes Mihangel J. G. Williams t.39. Benthyciad o’r Saesneg ‘brockage’ ydyw.

Bytluns: “ty’d yn dy flaen, ddim yn Bytluns ‘rwyt ti rŵan,” meddai gweithiwr wrth annog ei gyd-weithwyr i dorchi’i lewys a gafael ynddi. Gwersyll gwyliau gerllaw Pwllheli yw Butlins, wrth gwrs.

Cadw Cow: cadw trefn neu reolaeth ar sefyllfa yw’r ystyr. Clywir am athrawon yn methu cadw cow ar ddisgyblion mewn dosbarth.

Cario Ciants: cario straeon neu hel clecs.

Carreg fastad: carreg galed eithriadol. Mae’n amhosibl hollti carreg fastad gyda chŷn a morthwyl fel rheol.

Ceg agored: mae hwn yn rhan o eirfa adeiladwyr o Ben-y-groes. Wrth osod llechi ar do mae’n rhaid gofalu eu bod yn gorwedd yn wastad fel na fyddont yn gegorad.

Cratsh: dywedir bod rhywun wedi cael llond ei gratsh o gwrw pan fo wedi meddwi. Yr un ystyr â chael llond ei geubal sydd iddo. Benthyciad o’r Saes. ‘cratch’.

Chwilen â’i thraed i fyny: dywedir am rywun hurt ei fod fel chwilen. Ond clywais am wraig o Ben-y-groes yn dweud am ddynes fwy hurt na’i gilydd ei bod fel chwilen â’i thraed i fyny.

Chwythu fel neidar: “roedd pwy-a-pwy yn chwythu fel neidar ar ôl cerddad i fyny’r allt.” Rhywun yn fyr ei anadl neu allan o wynt yn lân.

Gwisgo’r hen: “pa newydd sy’ gen ti?” “Dim byd ond gwisgo’r hen chwadal nhwtha.” Ffordd o ddweud nad oes gennych fawr ddim newyddion trawiadol am neb na dim.

Jadan: “hen jadan o ddynas ydi hi,” meddir am wraig annymunol ac ystrywgar. Mae sopan o ddynas yn ddrygair tebyg.

Llygaid fel broth: “mae gynp fo lygid fel broth” meddir am un a chanddo bâr da o lygaid. Cyfeiriad sydd yma at lygaid saim ar wyneb potes.

Magu gwaed: “dydi hwn ddim yn lle i fagu gwaed hogia,” meddai Wil Pant y Pistyll, Nebo, ar ganol cae ar ddiwrnod oer a gwyntog ym mis Ionawr.

Pancan: clywais ddefnyddio’r gair fel enw ar ddamwain car ac am dolc ar gar.

Pegan: “mi gath o began,” meddir am rywun yn prynu rhywbeth a sylwi bod nam arno wedyn. Cael tro gwael neu gaff gwag yw’r ystyr.

Sbargio: ym myd economi du Arfon ac ymhlith poblogaeth ddi-waith yr ardal, y mae i’r gair hwn ystyr arbennig. Pan fydd rhywun sydd ar y dôl yn gweithio ar y slei ac yntau’n cael ei ‘riportio’ i’r awdurdodau dywedir ei fod wedi ei sbragio. Yn chwareli Arfon byddid yn atab y wagenni drwy roi ‘sbrag’, sef darn o ddur pwrpasol yn yr olwynion, h.y. roeddent yn cael eu ‘sbargio’.

Sgeg: ‘mi gafodd o ddipyn o hen sgeg’ meddir am ŵr a gafodd lawdriniaeth go arw.

Stwna: gwneud rhyw fân bethau, ffidlan neu stwnsian. Gw. Yr ysgrif ‘Ffidlan’ yn Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams, t.266, lle ceir y diffiniad hwn o ystyr y gair: “…nid gwneud dim yn gyflawn a gorffenedig, ond ymhel â phob math o ryw fân jobsys, neu dynnu pethau oddi wrth ei gilydd o ran hwyl ac ymyrraeth…”

Tŷ Chwain: dyna’r enw a arferid ar bictiwrs Neuadd y Dref ym Mhwllheli. Byddai tocynnau yno’n rhatach nag ym mhictiwrs y Palladium, felly arferai pobl dlawd fynychu’r lle hwnnw. Y dyb gyffredin oedd mai caridymus, pobl fudr a chweinllyd a fyddai’n gwylio ffilmiau yno.

Tywydd chwipsych: cyfansoddair gwych a glywais gan John R. Owen, cigydd yng Nghricieth, yw chwipsych am dywydd oer pan fo’r ddaear wedi rhewi’n gorn.

Oes, y mae gennym ni oll ein geiriau a’n dywediadau llafar gwlad ein hunain. Da chi, gadewch sylwadau gyda eich rhai chi. “Nawr – neu ddim yw hi!”