Cerdded drwy bentref Morfa Nefyn oeddwn i dros y dolig a sylwi cymaint oedd wedi rigio’u tai. Ia, ‘rigio’u tai’ fydd pobl Llŷn nid eu trimio nhw fel pawb arall. Gwahanol? Unigryw? Yn sicr!
Ac fel llo Llŷn rwyf wedi cael fy mhorthi yn iaith y brain ac mewn dywediadau megis “mynd drwy’r byd mewn hers”, “codi cnecs” a “wedi mynd yn horlics” yn ‘hen ysgol hogia Llŷn’ ym Motwnnog.
Cymerwch er enghraifft ‘blermon’ sef rhyw greadur blêr, trwsgl, term y byddaf yn ei edliw am fy mrodyr yn aml! Neu beth am ‘asgwrn tynnu’ sef asgwrn fforchog ar frest cyw iâr. Bydd Iona Jones, gwraig y Post ym Morfa Nefyn yn fwy na pharod ei thafod i alw rhai o genod Ysgol Botwnnog yn “Siani bais gwta” os yw eu sgerti yn rhy fyr. A hi hefyd fydd yn gweld cownter y siop ar Fercher olaf y mis sef diwrnod dosbarthu Llanw Llŷn mor brysur â “bwrdd Bodwrdda” (hen ffermdy ger Aberdaron yw Bodwrdda).
T. Llew Jones ddywedodd wrth sôn am gasglu geiriau a dywediadau llafar gwlad-
“o’r cyfoeth sy’n llithro rhwng ein bysedd fel tywod y môr, a ninnau mor ddifater… fe ddwedwn i ei bod yn hwyr bryd i ni fynd ati i gasglu’r hyn sy’n weddill o’n hetifeddiaeth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Nawr – neu ddim yw hi!”
Dyna a wnaeth Bleddyn Owen Huws yn Llafar Gwlad, 20, drwy restru rhai o eiriau ac ymadroddion Arfon ac Eifionydd. Dyma flas i chi ar rai –
Bachau byns: dwylo go drwsgl yw ei ystyr. Clywais gyfaill imi’n yr ysgol yn dweud bod gan fachgen a fethai â dal pêl â’i ddwylo facha’ byns.
Bodwrdda: “mae hi ‘run fath â Bodwrdda ‘ma”, meddai cymydog pan oeddem yn torri gwair mewn gardd â dau beiriant lladd gwair. Dywediad yn Eifionydd ydyw. Fe arferai fferm Bodwrdda ger Aberdaron gyflogi llawer o weision a morynion.
Brwgaits: meddir am goediach a brigau a drain, neu am anialwch yn gyffredinol. Gw. Maes Mihangel J. G. Williams t.39. Benthyciad o’r Saesneg ‘brockage’ ydyw.
Bytluns: “ty’d yn dy flaen, ddim yn Bytluns ‘rwyt ti rŵan,” meddai gweithiwr wrth annog ei gyd-weithwyr i dorchi’i lewys a gafael ynddi. Gwersyll gwyliau gerllaw Pwllheli yw Butlins, wrth gwrs.
Cadw Cow: cadw trefn neu reolaeth ar sefyllfa yw’r ystyr. Clywir am athrawon yn methu cadw cow ar ddisgyblion mewn dosbarth.
Cario Ciants: cario straeon neu hel clecs.
Carreg fastad: carreg galed eithriadol. Mae’n amhosibl hollti carreg fastad gyda chŷn a morthwyl fel rheol.
Ceg agored: mae hwn yn rhan o eirfa adeiladwyr o Ben-y-groes. Wrth osod llechi ar do mae’n rhaid gofalu eu bod yn gorwedd yn wastad fel na fyddont yn gegorad.
Cratsh: dywedir bod rhywun wedi cael llond ei gratsh o gwrw pan fo wedi meddwi. Yr un ystyr â chael llond ei geubal sydd iddo. Benthyciad o’r Saes. ‘cratch’.
Chwilen â’i thraed i fyny: dywedir am rywun hurt ei fod fel chwilen. Ond clywais am wraig o Ben-y-groes yn dweud am ddynes fwy hurt na’i gilydd ei bod fel chwilen â’i thraed i fyny.
Chwythu fel neidar: “roedd pwy-a-pwy yn chwythu fel neidar ar ôl cerddad i fyny’r allt.” Rhywun yn fyr ei anadl neu allan o wynt yn lân.
Gwisgo’r hen: “pa newydd sy’ gen ti?” “Dim byd ond gwisgo’r hen chwadal nhwtha.” Ffordd o ddweud nad oes gennych fawr ddim newyddion trawiadol am neb na dim.
Jadan: “hen jadan o ddynas ydi hi,” meddir am wraig annymunol ac ystrywgar. Mae sopan o ddynas yn ddrygair tebyg.
Llygaid fel broth: “mae gynp fo lygid fel broth” meddir am un a chanddo bâr da o lygaid. Cyfeiriad sydd yma at lygaid saim ar wyneb potes.
Magu gwaed: “dydi hwn ddim yn lle i fagu gwaed hogia,” meddai Wil Pant y Pistyll, Nebo, ar ganol cae ar ddiwrnod oer a gwyntog ym mis Ionawr.
Pancan: clywais ddefnyddio’r gair fel enw ar ddamwain car ac am dolc ar gar.
Pegan: “mi gath o began,” meddir am rywun yn prynu rhywbeth a sylwi bod nam arno wedyn. Cael tro gwael neu gaff gwag yw’r ystyr.
Sbargio: ym myd economi du Arfon ac ymhlith poblogaeth ddi-waith yr ardal, y mae i’r gair hwn ystyr arbennig. Pan fydd rhywun sydd ar y dôl yn gweithio ar y slei ac yntau’n cael ei ‘riportio’ i’r awdurdodau dywedir ei fod wedi ei sbragio. Yn chwareli Arfon byddid yn atab y wagenni drwy roi ‘sbrag’, sef darn o ddur pwrpasol yn yr olwynion, h.y. roeddent yn cael eu ‘sbargio’.
Sgeg: ‘mi gafodd o ddipyn o hen sgeg’ meddir am ŵr a gafodd lawdriniaeth go arw.
Stwna: gwneud rhyw fân bethau, ffidlan neu stwnsian. Gw. Yr ysgrif ‘Ffidlan’ yn Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams, t.266, lle ceir y diffiniad hwn o ystyr y gair: “…nid gwneud dim yn gyflawn a gorffenedig, ond ymhel â phob math o ryw fân jobsys, neu dynnu pethau oddi wrth ei gilydd o ran hwyl ac ymyrraeth…”
Tŷ Chwain: dyna’r enw a arferid ar bictiwrs Neuadd y Dref ym Mhwllheli. Byddai tocynnau yno’n rhatach nag ym mhictiwrs y Palladium, felly arferai pobl dlawd fynychu’r lle hwnnw. Y dyb gyffredin oedd mai caridymus, pobl fudr a chweinllyd a fyddai’n gwylio ffilmiau yno.
Tywydd chwipsych: cyfansoddair gwych a glywais gan John R. Owen, cigydd yng Nghricieth, yw chwipsych am dywydd oer pan fo’r ddaear wedi rhewi’n gorn.
Oes, y mae gennym ni oll ein geiriau a’n dywediadau llafar gwlad ein hunain. Da chi, gadewch sylwadau gyda eich rhai chi. “Nawr – neu ddim yw hi!”