Iechyd da!

Cwrw budur, meddw gaib, meddw shitrins, lawr y lôn goch, yfed heb dwtshyd yr ochr, clecio, dim troed dano…

“Tybed faint ohonoch chi sydd erioed wedi meddwl am yr holl eiriau a dywediadau sy’n troi o amgylch tŷ tafarn a byd y ddiod?” Dyna holodd Myrddin ap Dafydd yn ei erthygl gyntaf o gyfres ar ‘Iaith Potio’ yn y chweched rhifyn o Llafar Gwlad. Darllenwch yr erthygl ddifyr honno yma. Mae sawl un wedi cyfrannu i Llafar Gwlad dros y blynyddoedd ond wn i ddim am neb gwell i ysgrifennu’r erthyglau ar ‘Iaith Potio’ na Myrddin. Dylan Jones gyflwynodd Myrddin ap Dafydd fel ‘BBC’ ar Radio Cymru: ‘Bardd, Bragwr a C(h)yhoeddwr’. Tybed ai ymchwilio i eiriau a dywediadau tŷ tafarn wnaeth ysgogi Myrddin i gychwyn y fenter Cwrw Llŷn? Byddai’r stori tu ôl i’r fenter honno yn destun erthygl ddifyr arall…

Ond, i fynd yn nôl at ‘Iaith Potio’, atebodd Fred Williams, Wrexham Lager i gais Myrddin am fwy o eiriau a dywediadau. Dyma ddywedodd o:

Enw a arferir am ‘King Pin Bitter’ yng Nghaernarfon yw Ceiliog Dandi. Hefyd clywir Dai Dwbwl am ‘Double Diamond’. Yng Nghaernarfon eto, y gair am fol cwrw yw bol lysh, ac os yw rhywun wedi mynd am beint, yna dywedir ei fod wedi mynd i gael mwy o’r ffisig coch. Ar y llaw arall, os mai stowt neu meild yw diod y dyn, dywedir ei fod yn yfed Grefi Browning. Term a ddefnyddid os byddai rhywun wedi yfed gormod ac wedi taflu i fyny oedd dweud ei fod wedi troi’r drol. Os nad oedd gan rywun ’mond digon o bres i gael un glasiad, yna doedd ganddo ddim ond digon i godi’r gliced. Petai rhywun yn mynd i dafarn Gors Bach, ger Bethel, flynyddoedd yn ôl, mi fuasai’n gweld bod y ciperiaid i gyd yn yfed gyda’i gilydd mewn ystafell ar wahân i’r bobl gyffredin, a dywedai’r werin amdanynt, eu bod yn yfed yn y sbriws. Os oedd rhywun wedi dal annwyd, a hwnnw’n selog wrth y bar fel rheol, dywedid fod wedi bod yn yfed o wydrau gwlyb!

Roedd Fred hefyd am ein hatgoffa o rai o’r termau am wahanol gymysgfeydd o ddiodydd –

Blac an’ Tan – Guinness a bityr
Boilar Mêcyr – Meild a bityr
Snec-beit – Lager a seidar
Peint o ‘Chinese’ – Lager a bityr
Famous-leg-opener – Pony (i ferched wrth gwrs!)
enwogion tafarn sinc

Cefais flas ar rai o dermau Dyfed (Llafar Gwlad, 77). Yno, ar y Preseli, y mae’r dafarn enwog Y Dafarn Sinc wrth gwrs – lle enwog am ei Chymreictod. Bûm yno’r haf diwethaf- profiad a hanner. Llwch lli dan draed, Iwcs a Doyle yn chwarae o’r peiriant Cd, cyfrolau o gerddi ar silffoedd a lluniau o enwogion Cymru oedd wedi ymweld â’r dafarn ar y waliau.

Ches i ddim cyfle i ymweld â thafarn Bessie, neu’r Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun. Yn y dafarn honno, y daeth Myrddin ar draws y term Mabinogaidd ei naws plethad am y tro cyntaf. Gofyn i bostman o Abergwaun pam ei fod yn crwydro yno i Dafarn Bessie am ei beint wnaeth Myrddin a’r ateb amwys oedd: ‘I gael plethad!’

Mae’n rhaid bod y cwrw casgen a werthir o’r gegin yno yn medru creu clymau Celtaidd o’r ymennydd mwyaf caled cyn bo diwedd y nos, ond roedd y ‘plethad’ a soniai amdano yn nes at y ‘crac’ Gwyddelig na dim arall a glywodd Myrddin yn y Gymraeg. Yn ei eiriau ef – “cwmni, straeon, tynnu coes, cwrw, cariad – y cyfan wedi’u plethu drwy’i gilydd i greu noson lawen iawn oedd yn cael ei gyfleu gan y gair.”

Chi arbenigwyr gwin, efallai y byddwch chi yn cael blas ar yr erthygl ‘Geiriau gwych wrth garu gwin’ (Llafar Gwlad, 78). Darllenwch yma. Ond os ydych chi fel finnau yn dioddef o ‘hangofyr’ gwael ar ôl gwin, yna gwell fyddai peidio darllen! A sôn am ‘hangofyr’; difyr oedd darllen ‘Iaith Potio’ Llafar Gwlad, 79 am rhai o’r geiriau Cymraeg am ‘hangofyr’. Mae pen mawr yn ymadrodd cyffredin iawn. Bathodd scriptwyr C’mon Midffîld yr ymadrodd da ‘Penmaenmawr.’ Tybed oes gennych chi ymadroddion eich hunain? Glywsoch chi am rai o’r rhain?

  • Mae gen i dri phen yn lle un
  • Mae gen i benglog
  • Mae’r ordd yn curo heddiw
  • Mae gen i gnoc

Os ydych chi’n dioddef o symptomau penodol, ydych chi erioed wedi defnyddio rhai o’r ymadroddion hyn?

  • Dwi’n teimlo fel cadach
  • Teimlo’n wantan
  • Wyneb yn llwyd fatha llymru
  • Mae gen i geg fel nyth cath/ fel cesail arth/ fel twll tin ffurat/ fel caij bwji
  • Dwi wedi llyncu draenog (am boen bol)
  • Mae gen i dipyn o Gantre’r Gwaelod! (dywediad da am y difrod a wna diod ar y pen isaf! Addas iawn hefyd o gofio fod Seithennyn yn dipyn o feddwyn!)

Ie, peth cas ydi anghytuno â’r gasgen. Mae ‘na ddigon wedi’n rhybuddio rhag cyffwrdd y ddiod gadarn wrth gwrs. Wedi cael baw neithiwr mae o oedd dywediad meinars y Rhiw, Llŷn am John Cae Person, Llanrwst oedd yn feddwyn adnabyddus yn y pyllau mwyn yno. Gwlith y diafol sy’n ddywediad arall o Lŷn am ddiod – am rym y Capten Morgan yr arferid hwnnw ym Mhwllheli ers talwm.

Cofiwch gysylltu os gwyddoch chi am eiriau neu ymadroddion eraill yn gysylltiedig ag yfed. Wyddoch chi am arwyddair a gysylltir â thafarn arbennig? Cofiwn am ‘Allwedd calon, Cwrw da’ sydd i’w weld ar ddrws y Llew Aur, Dinbych. Neu beth am enwau’r tafarndai? Wyddoch chi am y stori tu ôl i enw tafarn benodol? A oes gennych chi rigwm, pennill neu englyn am dafarn, neu yn enwi tafarn tybed? Cofiwn am

Tri thafarndy sy’n Nhre-fin
Y Ship, y Swan a Fiddler’s Green.

 Neu’r rhigwm hwn a gyfansoddwyd mae’n debyg am y dafarn enwog ar lan y dŵr, Tŷ Coch –

Ym Mhorthdinllaen mae cwrw llwyd,
sydd yn ddiod ac yn fwyd.
Yfais inna lond fy mol
Nes own i’n troi fel olwyn trol.

Da chi, cysylltwch â ni – iechyd da bawb!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s