Mynwenta

Gwenllian Awbery. 87 (Ionawr, 2005), t.26

Mae tuedd i ni, wrth fynwenta, ganolbwyntio ar y cerddi sydd i’w gweld ar y cerrig beddi, rhai yn englynion gan feirdd adnabyddus, rhai yn benillion mwy gwerinol eu naws. Rhai yn mynegi teimladau sy’n gyffredin i bawb, eraill yn coffáu unigolion penodol.

Ond nid dyma’r unig elfen yn yr arysgrif – ar y rhan fwyaf o gerrig fe welir adnod o’r Beibl, un ai ochr yn ochr â phennill neu yn sefyll wrth ei hun. Roedd pawb ar un adeg yn hyddysg yn eu Beibl, ac yn medru dewis adnod oedd yn gweddu i’w teimladau, eu galar a’u gobeithion. Ac mae’n drawiadol pa mor gywir y cerfiwyd yr adnodau hyn, heb y camgymeriadau a’r nodweddion tafodieithol sydd yn codi mor aml yn achos y penillion. Os mai ar gof gwlad y cedwid y cerddi, yn sicr fe dynnwyd yr adnodau yn syth o’r Beibl ac fe ddilynwyd y geiriad hwn yn ffyddlon. Fel arfer yn unig newid a welir yw torri adnod ar ei hanner, a rhoi rhan yn unig yn lle’r cyfan – hyn efallai oherwydd lle ar y garreg.

Er bod nifer aruthrol o adnodau i’w gweld mewn mynwentydd ar hyd a lled y wlad, mae yna nifer gymharol fach sydd yn codi dro ar ôl tro, a’r rhain yn raddol ddod yn gyfarwydd. Breuder bywyd yw’r thema sydd yn codi mewn nifer ohonynt; blodeuyn y maes yw bywyd, neu gysgod yn cilio:

  • Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio, a minnau fel glaswelltyn a wywais (Salm 102.11)
  • Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn; megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe (Salm 103, 15)
  • Cysgod yw ein dyddiau ar y ddaear (Job 8.9)

Rhybuddio’r byw mewn nifer fawr o adnodau eraill, eu hatgoffa nad oes modd gwybod pryd y daw angau ar eu gwarthaf:

  • Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod (Diarhebion 27.1)
  • Gwyliwch gan hynny am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd (Mathew 24.42)

Weithiau fe welwn fwy nag un ffurf ar beth sydd i bob pwrpas yn un adnod, un yn dod o’r Efengyl yn ôl Mathew, ac un o’r Efengyl yn ôl Luc, y naill ar un garreg a’r llall a’r garreg arall.

  • Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn (Mathew 24.44)
  • A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yn awr ni thybioch y daw Mab y dyn (Luc 12.40)

Profiad cyffredin yn yr hen ddyddiau oedd colli plant yn gynnar, ac mae yna nifer o adnodau sydd i’w gweld yn arbennig ar feddau plant a fu farw yn ifanc. Nid yw’n syndod, er enghraifft, gweld yr un hwn ar fedd plentyn, ac yma eto fe welwn fersiwn Mathew weithiau a fersiwn Luc dro arall:

  • A’r Iesu a ddywedodd. Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd (Mathew 19.14)
  • Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, a na waherddwch hwynt, canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw (Luc 18.16)

Ond dyma un llai disgwyliedig, sydd i’w weld yn arbennig ar feddau plant, yn dystiolaeth i alar y rhieni a’u hymgais i dderbyn y golled hon fel ewyllys Duw:

  • Yr Arglwydd a roddodd, a’r arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd (Job 1.21)

Adnod a welir yn hytrach ar fedd oedolyn a fu farw yn gymharol ifanc yw hwn:

  • Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau (Salm 102.23)

A thro arall, a hyn ar garreg fedd rhywun a fu farw mewn oedran teg, fe welwn adnod yn cydnabod ac yn diolch am y bywyd hir hwn.

  • Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser (Job 5.26)

Mae adnodau eraill yn coffáu y sawl a gafodd fywyd gweithgar, diwyd, duwiol:

  • Coffadwriaeth y cyfiawn sydd yn fendigedig (Diarhebion 10.7)
  • Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd (2 Tim 4.7)

Nid tristwch sydd yn codi bob tro n yr adnodau hyn, ond llawenydd. Croeeswir marwolaeth, ar bywyd newydd yng Nghrist.

  • Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd (Datguddiad 14.13)
  • Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw (Philippiaid 1.21)
  • Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef (Salm 116.15)

Edrychir ymlaen at y bywyd newydd, tu hwnt i’r bedd, gyda Christ:

  • Canys y mae yn gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw byw (Philippiaid 1.23)
  • Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi pan ddihunwyf, â’th ddelw di (Salm 17.15)
  • Bydd ffydlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd (Datguddiad 2.10)

Ac at adgyfodiad y meirw ar Ddydd y Farn:

  • Yr udgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir (1 Corinthiaid 15.52)

Mae’r geiriad a welir ar y garreg yn dilyn ffurf yr adnod yn y Beibl yn ffyddlon bron bob tro. Prin iawn yw’r enghreifftiau hynny sydd yn datgelu ymgais i’w gymhwyso at unigolyn neu sefyllfa arbennig, er bod hyn yn digwydd o dro i dro. Adnod cyffredin iawn, er enghraifft, yw hwn:

  • Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul, fel blodeuyn y daw allan, ag y torrir ef ymaith; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif (Job 14.1/2)

Ond unwaith, ar fedd plentyn ifanc 3 oed fe welais y ffurf hon i goffáu’r ferch fach:

  • Fel blodeuyn y daeth allan ac y torwyd hi ymaith.

Trist iawn, a chynnil. Enghraifft arall debyg yw’r adnod hwn, a welir yn aml ar fedd gwraig weithgar, dduwiol:

  • Hyn allodd hon hi a’i gwnaeth (Marc 14.8)

Dyma’r ffurf wreiddiol. Ond o dro i dro, ar fedd dyn, fe welwn addasiad pwrpasol, ffurf sydd heb unrhyw sail ysgrythurol ond sydd yn llenwi bwlch amlwg:

  • Hyn a alodd hwnw efe a’i gwnaeth

A dyma un sydd, yn fy mhrofiad i, yn cael ei ddefnyddio mewn ffurf addasiedig bob tro. Yr hyn a welir ar y garreg fedd yw:

  • Digonaist fi a hir ddyddiau, dangosaist i mi dy iachawdwriaeth

Ond ffurf wreiddiol yr adnod yn y Beibl yw:

  • Digonaf ef â hir ddyddiau, a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth (Salm 91.16)

Tybed a welwyd addasiadau tebyg o adnodau eraill sydd yn amlygu’r tensiwn rhwng parchu geiriad y Beibl a chyfleu teimladau’r teulu?

Nid dyma’r unig adnodau a welir o bell ffordd. Detholiad sydd yma o’r rhai mwyaf cyffredin, y rhai sydd yn codi ym mhob mynwent bron ar draws y wlad, ac yn amlwg yn greiddiol i’r traddodiad. Fe fyddai’n ddiddorol gwneud casgliad llawnach, a chrynhoi’r adnodau y teimlwyd eu bod yn addas i’w defnyddio i’r diben hwn. Fe ddylswn ychwanegu hefyd nad peth hawdd bob tro yw olrhain yr adnod i’r union lyfr a’r union bennod, i ni sydd heb yr un adnabyddiaeth drwyadl o’r Beibl â’r hyn oedd gan ein cyndeidiau. Ambell waith fe fydd y cyfeiriad yn glir ar y garreg fedd, ond nid bob tro, a rhaid i mi ddiolch yn fawr i’r Athro John Gwynfor Jones, am ei help wrth i mi chwilio am rai adnodau trafferthus pan oeddwn yn paratoi’r llith hwn!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s