Archifau Misol: Mai 2015

Gwlad yn llefaru

Gyda brwdfrydedd y darllenais Llafar Gwlad, 126. Roedd y geiriau ‘Gwlad yn llefaru’ a’r llun o bosteri ‘Yes’ ar glawr y rhifyn yn ddigon i’m perswadio i ddarllen mwy. Do, bu llawer yng Nghymru yn dilyn ymgyrch y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban. Roeddwn i yn un o’r bobl hynny. Bûm gyda phedwar myfyriwr ar hugain arall yng Nghaeredin i gefnogi’r ymgyrch ‘ie’ ac i fod yn dyst i’r trobwynt anhygoel yma mewn hanes. ‘Na’ bleidleisiodd yr Alban yn y diwedd, ond yr ‘Ie’ sydd wedi ennill tir. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, y cipiodd yr SNP 56 sedd o 59 sedd posib yn yr etholiad cyffredinol. Yn sicr, fe ddangosodd y refferendwm fod dyfodol amgenach yn bosibl, ac mai lleisiau pobl, nid lleisiau gwleidyddion sydd bwysicaf.

Fel y dywed yr erthygl yn Llafar Gwlad – “ymhob caffi, tafarn ac ar bob stryd, bws a thrên, roedd trafod a dadlau,” Difyr oedd darllen geiriau Aled o Chwilog. Meddai fel hyn – “Roedd dau o’r dynion tacsis ges i ar dân isio trafod. Bob tro y byddan ni’n stopio wrth olau coch, roeddan nhw’n troi atom ni, braich dros gefn y gadair, ac yn pregethu’n huawdl dros annibyniaeth ymhell ar ôl i’r golau droi’n wyrdd”.

Holais un arall oedd ar y daith gyda mi, Osian Elias, am ei argraffiadau ef o’r refferendwn. Dywedodd-

Cefais fy mhrofiad arwyddocaol cyntaf ar y trên, wrth wrando ar sgwrs Albanwr a oedd yn dychwelyd o Bournemouth i’r Alban i bleidleisio. Roedd yn traethu rhesymau a oedd yn ymddangos imi fel pe bai’n ymbil ar ei gynulleidfa.

Penderfynais ei herio ar ôl tuag awr; ai ddim i fanylion ond ar ôl sgwrs hir (roedd hi’n siwrne 7 awr!) dyma ddarganfod y rheswm pam ei fod wedi bod yn Bournemouth: i ddianc oddi wrth ei wraig ‘Britnat’!

Roedd ei wraig wedi gorchuddio’r tŷ â Jac yr Undeb, ac roedd y dyn wedi cael llond bol ar ei harddeliad o naratif yr ymgyrch ‘Better Together’ – felly bu iddo ddianc am wythnos i Bournemouth. Wrth adael y trên, cyfaddefodd y byddai bellach yn debygol o bleidleisio ‘Ie,’ ond na fyddai’n cyfaddef hynny wrth ei wraig!

… Wrth iddi nesáu at 10 o’r gloch, gwnaethom ein ffordd tuag at dafarn nad oedd ond tafliad carreg o’r Senedd, Holyrood. Diolch i’r drefn, nid oedd cefnogwyr ‘Na’ i’w gweld yn unman; ond roedd cynrychiolaeth sylweddol o genhedloedd is-wladwriaethol Ewrop: Cymru, Catalania,Gwlad Y Basg, Galicia, Llydaw, Friesland, Bavaria, De Tyrol a sawl baner arall nad oeddwn yn ei hadnabod.

Credaf y gallaf ddatgan yn weddol ffyddiog na fyddaf eto mewn un man gyda chymaint o genhedloedd amrywiol eto yn fy mywyd. Roedd yr awyrgylch yn hollol unigryw, ac er fy nisgyblaeth bersonol i beidio â dychmygu’r potensial am bleidlais ‘Ie’ roedd hyder tawel yr Albanwyr a gwefr presenoldeb yr ystod o genhedloedd yn heintus.

‘Dyw hi ddim yn bert i adrodd stori weddill y noson, dim ond i nodi bod hi’n noson emosiynol. Disgrifiodd Simon Brooks y brifddinas fel cynhebrwng ar fore dydd Gwener. Mae’n wir iddi fod yn fore niwlog a llwyd, a bod gweld pobl yn mynd o gwmpas eu gwaith fel arfer yn od – ond wedi meddwl dyma oedd i’w ddisgwyl. Yr ymagwedd ymysg cefnogwyr ‘Ie’ oedd hyder tawel, y math o hyder nad oedd yn mynd i gael ei effeithio’n ormodol gan y canlyniad.

trip cwga

Rhai o aelodau CWGA (Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth) aeth i’r Alban ar gyfer y refferendwm.

Dau arall a rannodd eu straeon a’u profiadau oedd Richard Owen a Simon Brooks. Dyma ddywedodd y ddau yn Llafar Gwlad

refferndwm

Ond beth am Gymru yn hyn i gyd? Dyma oedd gan Osian i’w ddweud – “Cynigiodd Rhodri Morgan y dylai Cymru dderbyn gwobr am ein hymddygiad da (gonest!) Hynny yw – dylid gwobrwyo diffyg asgwrn cefn y Cymry: mwy o friwsion oddi ar fwrdd San Steffan. Yn bersonol, rwy’n teimlo mai gwers yr Alban yw dilyn cyngor Tecwyn Ifan a “gwrthod bod yn blant bach da.”

Archaeoleg

Er Haf 2013, un o gyfranwyr sefydlog Llafar Gwlad yw’r canwr, yr arbenigwr cerddoriaeth, y colofnwr, yr awdur a’r archeolegwr Rhys Mwyn. Mae’n rhaid imi gyfaddef, nad oes gen i affliw o ddiddordeb mewn archaeoleg. Neu felly y meddyliwn cyn i mi darllen ‘Dyddiadur cloddiwr Rhys Mwy, Haf 2013’, Llafar Gwlad, 122. Gallwch ddarllen yr erthygl drwy ddilyn y linc yma i flog Rhys Mwyn –

http://rhysmwyn.blogspot.co.uk/2013/11/dyddiadur-cloddio-haf-2013-llafar-gwlad.html?spref=tw

Difyr oedd darllen am y gwaith archaeoleg sy’n digwydd ar safle Meillionydd, ym Mhen Llŷn; safle a ddisgrifir fel ‘cylchfur dwbl’ sef “safle amaethyddol gan ddau glawdd, math o safle sydd yn nodweddiadol o Ben Llŷn.” Fel y dywed Rhys ei hun, y mae’n arwain teithiau ysgolion o amgylch y gwaith cloddio archaeolegol ym Meillionydd ers rhyw bum mlynedd bellach. Gwn am sawl un sydd wedi bod ar y teithiau hyn ac wedi mwynhau’n arw – hyd yn oed y bobl hynny sydd fel finnau, yn llawn rhagfarnau yn erbyn archaeoleg. Maent oll fel pe baent yn cael eu gwyrdroi gan Rhys. Braf oedd darllen yn yr erthygl hefyd fod disgyblion Ysgol Botwnnog a Crud y Werin, Aberdaron yn dangos diddordeb byw mewn olion dyn ar y tirwedd. I ddyfynnu Rhys – “mae eu cwestiynau yn rhai da, mae eu rhesymeg yn wych a chlywed Cymraeg pur Pen Llŷn gan y bobl ifanc yn dod â dagrau i’m llygaid. Roedd eu hymweliadau yn codi calon rhywun…”

A da fod pobl ifanc Llŷn yn dangos diddordeb oherwydd byddwch yn onest, rhai gwael ydym ni fel Cymry am gofio a chadw ein trysorau ynde? Cenedl sydd ddim yn hoffi brolio nac ymffrostio ydi Cymru. Rydym ni yn bathetig ddiymhongar. “Diffyg hyder mewn gwlad wedi ei choloneiddio” ys dywed Adam Price. Rhyw deimladau ddigon tebyg oedd gan Rhys yn yr erthygl ‘Nodiadau Archaeolegol’ Llafar Gwlad, 127. Sonia fel y bu yntau a Myrddin ap Dafydd yn cymryd rhan mewn sgwrs ynglŷn â llysoedd tywysogion Gwynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014. Edrych ar y dystiolaeth ddisgrifiadol o fywyd yn y llys o’r hen gywyddau wnaeth Myrddin a chyfraniad Rhys wedyn oedd awgrymu pa dystiolaeth archaeolegol oedd yn bodoli i gadarnhau neu i ategu hynny. Yn ystod y sgwrs, enwyd lleoliadau fel Castell Prysor a Chastell Carn Dochan, safleoedd sydd â chysylltiad â thywysogion Gwynedd a gwnaeth hynny i Rhys sylweddoli fod ein hymwybyddiaeth fel Cymry Cymraeg o safleoedd fel Carn Dochan yn llawer rhy isel.

Oes, mae llefydd o bwys yng Nghymru y dylai pob Cymro ymweld â nhw ond nid yw’r mannau hynny yn cael sylw gan y wasg na’r cyfryngau. Ar wahân i Stadiwm a Chanolfan y Mileniwm nid yw’r wasg yn rhoi sylw go iawn i lefydd o bwys ddiddordeb hanesyddol ac archaeolegol. Nid ydym yn ddigon mentrus a hyderus i dynnu sylw’r cyhoedd a’r Cymro cyffredin at wir sefydliadau Cymru. Oes, y mae cofeb yng Nghilmeri. Ond a yw’r lle hwn yn golygu rhywbeth i drwch poblogaeth Cymru? Mae’r tyrfaoedd yn tyrru yn eu miloedd i Lanelwedd nid nepell i ffwrdd. ‘Y Royal Welsh’ sy’n denu nid y garreg unig hon ar lan yr afon Irfon.

Mae’n bwysig fod unrhyw genedl gwerth ei halen yn mynnu diogelu ei hetifeddiaeth, ei hiaith a’i hanes “i gadw i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.” Braf oedd darllen yn yr erthygl fod ymweliadau â safleoedd archaeolegol yn denu nifer o ymwelwyr. Roedd yn codi calon rhywun hefyd darllen am waith Jamie Davies – gŵr ifanc sy’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn a’i waith ef sydd wedi arwain at y gwaith cloddio diweddar gan Jane Kennedy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn Nhŷ Newydd. Da gweld Cymry ifanc yn mentro ac yn arwain y gad!

Gallwch ddarllen yr erthygl ‘Nodiadau Archaeolegol’, Llafar Gwlad, 127 yma.

Glasenwau

Ceir sawl erthygl am lasenwau yn Llafar Gwlad. Holais rai o’m ffrindiau a’m lasenwau – yn naturiol rhywsut aeth y sgwrs i sôn am enwau athrawon ac yna fe soniodd un o’r genod wrth basio am athro o’r enw Dai Long a bod un rhiant yn dod i’r ysgol yn gofyn am weld ‘Mr Two Ships’! A dyna hi wedyn, dyma’r sgwrs yn agor fel dwnim be. Cofiodd rhywun arall am rai yn galw un athro o’r enw Mr Robert ap Robert yn ‘Two Bob’. Dyma fwy i chi – ‘Huw Duw’ athro Addysg Grefyddol, ‘Atlas’ athro Daearyddiaeth, ‘Sam Stretch’ i ddisgrifio athro tal;,‘Llew Llyncwr Llangoed’ i ddisgrifio athro oedd yn enwog am dancio a ‘Cacwn’ i ddisgrifio athro blin oedd yn cadw gwenyn. Ysgrifennodd Arthur Thomas am lysenwau athrawon yn Llafar Gwlad, 91. Darllenwch yr erthygl yma.

Dyma ychwanegu at y rhestr honno gydag enwau o ardal Bethesda. Y mae un enw ychwanegol, enw o ardal Penrhyndeudraeth sef Gwcws Mêl. Galwyd Gwcws Mêl yn Gwcws mêl am mai dyma fyddai ei fam yn ei alw yn blentyn a dyna fu ei enw wedyn.

John Morgins
Huw Mul
Gwilym Boston
Em Dorth Dun
Tomi Chwech a Dimai
Spyd
Eifion Springs
Phil Jymbo
Dic Post
Tomo Fforti Ffôr
Mair Hir
Aled Bach
Doc Rocar (Yr Ocar)
Bryn Tanc
Ned Dew
Gwen Ty Lôn
Huw Tegai
Wil Wandring
Wil Rich
Bry Sgryff
Myti Brigs
Huw Waun
Jack Tractor
Wil Llannerch y medd
John Gŵr Mam
Arthur Dal Pry
Len Plymar
Eunice Dal Byd
Slew Bach
Albert Big Boy
Alun Bingo
Gwyn Spitfire
Richard Boutique
Y tri brawd -Bol Mawr, Bol Canol a Bol Bach.

Wrth roi’r enwau gerbron fy ffrindiau dyma’r enwau oedd yn eu goglais nhw- Arthur Dal Pry (tybed am fod ei geg ar agor fel petai’n dal pryfaid?) Mair Hir, John Gŵr Mam, Em Dorth Dun a’r tri brawd Bol Mawr, Bol Canol a Bol Bach!

Ymddangosodd rai glasenwau o Gaergybi yn Llafar Gwlad, 124. Cliciwch yma i’w darllen. Cofiwch rhowch gwybod am lasenwau o’ch hardaloedd chi.