Patagonia

I gofnodi a dathlu canrif a hanner ers sefydlu’r Wladfa cafwyd cyfres o raglenni gan BBC Cymru, aeth y Theatr Genedlaethol a’r National Theatre Wales ati i gydweithio am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad tairieithog ac yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli gwelwyd arddangosfa ‘Patagonia 150’ gyda gwaith celf gan Catrin Rhys Parri, Delyth Llwyd Evans de Jones a gwaith disgyblion Ysgol Gymraeg yr Hendre yn Nhrelew ac ysgol Feithrin y Gaiman. Rhestrais dri pheth yn unig yma mewn rhestr llawer hwy ond rhaid ychwanegu wrth gwrs Rhifyn Patagonia o Llafar Gwlad (rhifyn 128, Mai 2015). (Brysiaf i ychwanegu y cafwyd rhifyn arbennig ar y Wladfa yn Llafar Gwlad, 86, yn 2004. Yno fe geir erthyglau difyr o ‘Cofio Bydwragedd y Wladfa’ i ‘Beddau’r Wladfa’. Cliciwch yma i ddarllen erthygl ‘Tu hwnt i hwntw – llên gwerin y Wladfa’ gan Robin Gwyndaf o’r rhifyn hwnnw).

“Rhifyn arbennig i ddathlu cant a hanner ers i’r Mimosa adael Lerpwl gyda’i chargo o wladfäwyr i Batagonia,” yw’r rhifyn hwn meddai ‘Llais Llafar Gwlad’ gan ychwanegu fel hyn “mae cynnwys y rhifyn hwn yn adlewyrchu’r diriogaeth a’r gymdeithas fel y mae heddiw.” Casglwyd y deunydd ynghyd gan Esyllt Nest Roberts de Lewis, merch o’r Ffôr yn Llŷn sy’n byw yn y Gaiman gyda’i gŵr Cristian a’i dau fab Mabon ac Idris. Merch “ymroddedig i gasglu a rhannu treftadaeth y Cymry ym Mhatagonia” yw hi. Yn y rhifyn hwn y mae erthyglau amrywiol megis ar Delynau’r Wladfa, Addysg Gymraeg Gynnar y Wladfa, Evan Thomas ac Amgueddfa Cartre’r Bardd.

Soniwyd yn ‘Llais Llafar Gwlad am y “peryg inni fynd o dan y don Batagonaidd eleni” ond tydw i ddim mor siŵr os digwydd hyn. Syrffio ar erchwyn y don a wnawn. Mae’n rhyfedd y gafael sydd gan Batagonia arnom a’r gwir amdani yw bod gan sawl un ohonom ein stori Patagonia ein hunain, boed yn hanes teulu a ymfudodd yno neu am ymweliadau difyr y mae gennym gysylltiad â hwy. Cychwynnaf wthio’r cwch i’r dŵr gyda hanesyn fel hyn gan obeithio y bydd mwy ohonoch yn fodlon cyfrannu a rhannu eich straeon chi maes o law.

Yn 1979 aeth fy nhaid, Gareth Maelor, i’r Wladfa. Doedd o ddim wedi bod dramor nac wedi hedfan cyn hyn a dyma yntau’n mentro ar ei drip cyntaf i Batagonia o bob man. Dychwelodd wedi pythefnos gyda’i gês yn llawn o anrhegion a straeon. Anrhegion megis cerrig llwydion o’r Gaiman neu fag bach o dywod – pob un â’i stori. Straeon y byddai’n hoff o’u hadrodd wrth fy mam a’i chwiorydd ac wrth fy mrodyr a minnau. Roedd un stori yn cael rom bach mwy o sylw na’r gweddill sef yr un amdano yn bedyddio pump o blant ar aelwyd Megan Rowlands yn nhref Esquel – Naomi, Andrea, Benjamin, Juan Guilllerno, Karim a Valeria. Wrth agor y Beibl teulu mawr y gofynnwyd iddo ddarllen ohono yn y gwasanaeth bedydd, cafodd wefr gweld ar y dudalen flaen enw perthynas iddo a pherthynas i’r plant a fedyddiwyd ganddo. John Tudur Roberts oedd hwnnw a oedd yn frawd i Ann Jones, mam ei daid o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Roedd John yr un enw â’i dad sef John Tudur Roberts a briododd Margiad Roberts yn Eglwys Clynnog a bu’r ddau fyw yn Felin Garreg, Llanllyfni cyn mudo i Danygrisiau. Teithiodd eu mab dipyn pellach.

Dyma gopi o gofrestr teulu Tyddyn Tegid, Y Wladfa Gymreig Patagonia

cofretr patagonia

Yn ôl fy nhaid, Anti Jane chwaer ei daid oedd yr olaf i gysylltu â’r teulu yn y Wladfa. Byddai’n llythyru â’i chefnder Gwilym Tudur Roberts – gŵr a ddaeth yn brif gwnstabl y dalaith. Roedd yn goblyn am ferched a chafodd y llys enw “y ceiliog mawr!” Credir mai tad Darwyn yn y llun isod oedd Gwilym Tudur.

Darwyn yw’r bachgen sydd yn sefyll yn y canol yn rhes ôl y llun.

Darwyn yw’r bachgen sydd yn sefyll yn y canol yn rhes ôl y llun.

Gyda llaw, mae cysylltiad rhwng Margiad Tudur sef mam John Tudur Roberts gyda’r llofrudd yr Hwntw Mawr. Ysgrifennwyd amdano mewn rhifynnau eraill o Llafar Gwlad ond stori arall yw honno…

Bachwch gopi o rifyn arbennig Patagonia Llafar Gwlad neu os oes gennych chi straeon neu gysylltiadau â’r Wladfa – cysylltwch!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s