Amdanom ni

Llafar Gwlad – Cylchgrawn gwerin gwlad

Cylchgrawn chwarterol yw Llafar Gwlad sy’n rhoi sylw i lên gwerin, crefftau, cymeriadau, iaith lafar a hiwmor gwlad. Medd Myrddin ap Dafydd, y cyhoeddwr – “Cylchgrawn a dyfodd o blith cymdeithas o bobl oedd yn rhannu’r un diddordebau yw Llafar Gwlad ac mewn awyrgylch o’r fath, mae anffurfioldeb yn beth hollol naturiol. Rhannu’r deunydd ac ysgogi eraill i gofio, casglu a rhannu fu’r nod.”

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst/Medi 1983 dan ofal y golygydd gwreiddiol John Owen Huws – gŵr a wnaeth gyfraniad arbennig yn rhoi’r cylchgrawn poblogaidd ar ei draed, gan ennyn ymateb cyson oddi wrth y darllenwyr. Dathlodd Llafar Gwlad ei ganfed rhifyn yn Mai 2008 ac mae’n dal i ffynnu hyd heddiw. Mae rhai o awduron ac ysgrifenwyr difyrraf Cymru fel T. Llew Jones, Wil Sam a Twm Morys wedi cyfrannu i’r cylchgrawn. Eirlys Gruffydd, Twm Elias, Gwenllian Awbery, Myrddin ap Dafydd, Arthur Thomas, Tegwyn Jones a Rhys Mwyn yw’r rhai sy’n clustfeinio a chofnodi ac yn rhannu eu gwybodaeth a’u straeon erbyn heddiw.

Wrth ddathlu canfed rhifyn y cylchgrawn, gwnaed y sylw – pwy feddyliai yn ôl yn y dyddiau cynnar fod digon o ddeunydd llên gwerin ar gael yn y Gymraeg i lenwi’r holl dudalennau? Mae hynny yn rhyfeddod – ond nid oes ond rhaid edrych ar rifyn diweddaraf y cylchgrawn i sylweddoli mai rhywbeth sy’n dal i dyfu, gyda phob sgwrs yn yr iaith bron, ydi deunydd Llafar Gwlad. Beth bynnag fo’r ffynhonnell, mae digon o ddeunydd – a chofiwch am yr hiwmor hefyd!

Mae Llafar Gwlad ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg neu gellir ei gael drwy’r post drwy danysgrifio £8 am bedwar rhifyn y flwyddyn. Mae ôl-rifynnau’r cylchgrawn ar gael hefyd (er bod ambell rifyn wedi darfod bellach). Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Heddiw, y dyfodol sy’n bwysig i Llafar Gwlad, i’r traddodiadau a’r dreftadaeth, yr iaith a’r enwau sy’n cael eu dathlu ar ei dudalennau. Croesewir sylwadau, cyfansoddiadau, erthyglau, lluniau a phytiau fyddai o ddiddordeb i’r cylchgrawn neu’r blog. Fel y dywedodd golygydd cyntaf y cylchgrawn, John Owen Huws – “Eich cylchgrawn chi ydyw hwn i fod… Darllenwch Llafar Gwlad; anfonwch air os bydd erthygl yn eich atgoffa am draddodiad, hanesyn neu stori. Ac yn fwy na dim, mwynhewch o!

I weld rhestr llyfryddiaeth Llafar Gwlad – cliciwch ar y linc isod a bydd modd lawrlwytho’r ddogfen-
https://llafargwlad.files.wordpress.com/2015/05/llafar-gwlad-llyfryddiaeth1.docx

Mae’r blog yma wedi cael ei ran-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.

logo ewrop

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s