Cartref

Croeso i flog newydd sbon danlli Llafar Gwlad!

Dyma’r tro cyntaf i Llafar Gwlad gamu i’r byd ar-lein. Gobeithio y bydd yn fodd i greu presenoldeb newydd i’r cylchgrawn ar-lein a bydd hynny yn ei dro yn magu nerth a llais ac yn rhoi sylw pellach i’r cylchgrawn traddodiadol.

Ar y silff hon yr wyf wedi bod yn pori ers wythnosau bellach yn ceisio cloriannu 32 o flynyddoedd a 128 rhifyn.

silff llafar gwlad

Wrth edrych ar y llun mi wn i nad ydi o’n edrych yn fawr o gamp ond pan fo pob erthygl, tudalen a chylchgrawn yn llawn straeon, gwybodaeth, dywediadau, coelion ac arferion diddorol a defnyddiol, dipyn o her oedd darllen y cwbl. Roedd fel wynebu bocs cyfan o siocled Thorntons –ac ara deg a phob yn dipyn mae bwyta’r rheiny. Roedd gan bob erthygl ei blas unigryw ei hun ac roedd angen sipian a blasu’n iawn cyn rhuthro i fachu’r nesaf.

Testun rhyfeddod i mi ar ôl darllen oedd meddwl bod y ffasiwn gyfoeth mewn deg cyfrol biws las ar silff. Nid rhywbeth i’w gadw ar silff fetel mewn llyfrgell yw Llafar Gwlad meddyliais – mae angen rhannu a denu cynulleidfa newydd. Felly rydw i am rannu efo chi a dyna sy’n dda am gysylltu electronig; does dim angen i chi deithio i Aberystwyth a dod i’r llyfrgell ata i – dim ond clicio a sgrolio.

Diolch i chi ymlaen llaw am glicio ar y blog ac am ddarllen. Dwi’n dweud eto fel hen diwn gron, plîs, gadewch sylwadau oherwydd fel y dywedodd John Owen Huws yn y rhifyn cyntaf un o Llafar Gwlad “eich cylchgrawn chi ydyw hwn i fod.” Ac ydy, mae’r weledigaeth honno o 1983 yn parhau hyd heddiw.

Dyma fy mocs siocled Llafar Gwlad i chi. Edrychwch ar y dewis o’ch blaen, estynnwch ato fel maen nhw’n ddweud ac yna ystyriwch sut y gallwch chi gyfrannu. Gallaf eich sicrhau y byddwn yn cael blas ar eich cyfraniad. Fedrwch chi ychwanegu i’r bocsys hynny tybed?

POTIO
Fedrwch chi ychwanegu at eirfa potio Myrddin ap Dafydd?
Helyntion meddw, , trafferth mewn tafarn neu drafferth ar ôl bod mewn tafarn.
CHWARAEON
Termau o fyd golff (e.e. gradd, nod, lawnt )
Rygbi.
Pêl-droed (Iaith Midffîld – Camsefyllian)
Ralio.
Mynydda.
CHWARAEON (2)
Straeon difyr mewn gemau rygbi, pêl-droed gan ddilynwyr a chwaraewyr.Chwaraeon, gemau gwahanol a chwaraewyd yn ystod awr ginio yn yr ysgol.
TEULU (1)
Beth am gofnodi iaith eich teulu chi…
Geiriau am gysgu (e.e. fforti wincs, shi-shi, cyci bei, robin cwsg, mynd i’r ciando).
Magu plant (e.e. cetyn am ‘dummy’)Enwau bwyd (e.e. cacan ffenast am gacen Battenberg neu gynffon crocodeil am gorn bach)
TEULU (2)
Straeon a dywediadau gan blant, plant yn geirio’n gam e.e. Ysbyty Gwinedd am Ysbyty Gwynedd.)
Arferion teulu (e.e. canu corn wrth fynd drwy dwnnel.)
Dathlu’r Nadolig a phen blwydd.
Coelion Cartref (e.e. tannu dillad ar y lein, coginio.)
STRAEON TEULU
Straeon neu gemau i gadw plant yn ddiddig wrth deithio (e.e. pwy sy’n dweud hanes Idris Gawr wrth deithio am Dalyllyn neu hanes saethu Arthur Rowlands yr heddwas wrth fynd dros Bont Machynlleth?)
STRAEON TRWSTAN
e.e. Gyrru ar siwrne seithug – nôl morthwyl llaw chwith, eli penelin neu hyd yn oed chwilio am lond llyn o ddŵr sych!
BYD NATUR
Straeon hynod am ddyn ac anifail ac adar.
Defnydd planhigion a blodau gwahanol.
Coelion cynnar am ddaeargrynfeydd, sêr yn syrthio a sêr cynffon.
Enwau caeau.
 
CWFFIO
Straeon paffio.Iaith cwffio (e.e stid, cweir.)
STRAEON YSBRYD, GWRACHOD, DIAFOL, TWLWYTH TEG, DYNION BACH GWYRDD CALENDR Y CYMRY
Arwyddocâd gwyliau fel Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Gwydir, Sesiwn Fawr, Gŵyl Nol a Mlan.
Arwyddocâd dyddiadau fel 11/12/82, Dydd Glyndŵr, Dwynwen.
ARFERION CARU, PRIODI, BYW A MARW
TRAFFERTHION DYGYMOD Â THECHNOLEG A PHETHAU NEWYDD
e.e. Pobl yn rhoi baw adar (tipp-ex) ar gamgymeriad ar sgrin y cyfrifiadur.
Nain yn agor 144 o fagiau te i’w rhoi yn y tin te.
OFERGOELION
e.e Anlwcus i gerdded dan ysgol.
IAITH AR WAITH
Glasenwau.
100 enw gorau ar fusnesau e.e. Taro Deg Pwllheli, Blas Mwy yn Oriel Môn, Blas ar Win, Dylanwad Da, Pryd ar Frys (Siop decawê ym Mhwllheli), Dan’ I Sang (siop fwyd Tsieineaidd yn Nhregaron).
MOTTO/ ARWYDDAIR GORAU
e.e- Tîm pêl-droed Cymru – Gorau chwarae, cyd chwarae.
UCAC- Rhag Cymru heb Gymry a’r athro dan draed.
GEIRIAU DA AR GRYSAU T
e.e. geiriau gan gwmnïau Cowbois, Shwldimwl, Celtes.RHIFAU CEIR BACHOG
e.e – d1euog i dwrna neu LLYFR i awdur.
DYWEDIADAU BOB DYDD
Am y tywydd er enghraifft.
CRWYDRO
Anturiaethau neu deithiau cerdded.
Pererindodau.
Straeon am leoliadau gwahanol e.e- am adeilad, adfail, ffynhonnau, capel, ysgol, tŷ arbennig.
STRAEON CELWYDD GOLAU STRAEON AM GYMERIADAU A PHOBL DDIFYR

Ydy hyn wedi codi awydd arnoch i gyfrannu neu i ‘sgwennu am bethau tebyg? Cofiwch, efallai y bydd gennych chi eich syniadau eich hun – ac os felly gorau oll. Dyna ydy’r bwriad- ysgogi ymateb a thanio’r dychymyg i feddwl. Cryfder ymateb i flog yw y gellir ymateb yn syth bin iddo a gobeithio y bydd cael darllen straeon amrywiol o bob cwr o Gymru am bob dim dan haul sy’n ymwneud â’n byw ni o ddydd i ddydd yn cyfoethogi fwy fwy ar y diwylliant llên gwerin.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s