Gareth Maelor. 56 (Haf 1997), t.10
Mor wir y dywediad mai angen yw mam pob dyfais, ac o blith holl ddyfeisiadau y dyn cyntefig, yr olwyn mae’n debyg oedd y fwyaf syfrdanol a defnyddiol ohonynt i gyd. Mae’r olwynion hynaf sy’ mewn bodolaeth yn perthyn i ail hanner y bedwaredd fileniwn C.C.
Olwynion trol gyntefig yw y rhain ac fe’u darganfuwyd mewn beddau yn Kish a Susa ym Mesopotamia, beddau cenedl y Sumeriaid, cyn-dadau Abraham.
Maent yn olwynion syml wedi eu gwneud o dair ‘styllen yn cyd-gyfarfod yn y both a limpyn yn cloi’r olwyn wrth yr echel. Y ddamcaniaeth yw mai datblygiad o olwyn troell y crochenydd oedd yr olwynion troliau hyn. Ymhen amser daeth yr olwyn yn hanfodol i bob math o grefftwyr a gwaith, o’r turniwr i’r melinydd; o’r ffatri wlân i’r pwll glo, a’r saer olwynion yntau yn ffigwr o bwys mewn cymdeithas. Yn ei draethawd a’i gyfrol werthfawr ar ‘Ddiwydiannau Coll’, cyfeiria Bob Owen, Croesor at seiri troliau enwog Tremadog. Dywed i Nicadner ddilyn ei brentisiaeth gyda hwy. Tybed a oes rhywun bellach yng Nghymru yn gwneud ei fywoliaeth wrth ddilyn y grefft hon? Gwaetha’r modd tynnwyd pinnau o olwynion sawl crefft a galwedigaeth wledig.
Ychydig o bobl bellach sy’n atgyweirio clociau a phrinach byth yw gwneuthurwyr clociau. Bu adeg pan oedd atgyweirwyr clociau bron ym mhob ardal. Yn y pedwardegau roedd sawl un ym Mlaenau Ffestiniog, bro fy mebyd, yn fedrus fel atgyweirwyr clociau – rhai fel Evan Roberts, Tan y grisiau, ac Emrys Evans a’i frodyr yn y Manod wedyn.
Yn wahanol i Wil Bryan gwyddai y crefftwyr hyn am bwysigrwydd pob olwyn gocos a’u lleoliad. Yr olwyn gocos neu’r olwyn ddannedd yw’r fwyaf hynod o’r holl olwynion i gyd. Mor syml ac eto effeithiol yw’r ddyfais hon, dannedd un olwyn ynn cydio ym mylchau olwyn arall, a rhiciau both yr olwyn honno yn derbyn dannedd olwyn gocos arall eto, ac felly ymlaen o un olwyn i’r llall, a’r bysedd, y mawr a’r bach yn troi ac ufuddhau i symudiadau holl ddarnau cyfansoddiad yr hyn a elwir yn gloc. Mae peirianwaith cloc mor gymhleth â’r ddiffiniad ohono yn yr Encyclopedia Britannica:
‘Dyfais yw’r cloc sy’n gwneud symudiadau rheolaidd ac egwyl gyfartal rhwng pob symudiad, a chysylltir y ddyfais hon â mecanyddiaeth sy’n cadw cyfri’ o’r symudiadau hyn’
Boed hynny fel y bo, hawdd deall penbleth Wil Bryan wrth geisio lleoli gwahanol fathau o olwynion cloc a rhoi’r holl ddarnau yn ôl wrth ei gilydd. Fe berthyn i gloc olwynion piniwn neu olwynion cocos, olwynion cyd-bwysedd, olwynion-piniwn-bach ac olwynion clicied, heb sôn am ddarnau eraill a rhyw gyfaredd yn perthyn i enwau’r darnau i gyd: y pendil, pifod, pwysau a phaled, tafol a gwerthyd neu ‘spring’ a ‘spindle’, rhac, atalfar, clicied a cholyn. A bod yn fanwl-gywir rhaid hefyd wrth gloch cyn y gall y ddyfais hawlio’r enw cloc, oherwydd tarddiad Ffrangeg neu Almaeneg sydd i’r gair cloch, sef ‘cloche’ (Ffrangeg) a ‘glocke’ (Almaeneg) a olyga declyn sy’n cadw amser ac yn taro cloch i ddynodi amserau arbennig o’r dydd.
Daeth y cloc mecanyddol i Ewrop yn y drydedd ganrif ar ddeg a’i briod ddefnydd oedd nodi amserau gwasanaethau yn yr eglwysi, felly mae hanes y cloc capel yn hen iawn! Ceir cofnod am gloc yn abaty San Steffan yn 1288, yng nghadeirlan Caergaint yn 1292, ac yng nghadeirlan Sain Alban yn 1326. Y clociau hynaf mewn bodolaeth yw y rhai sydd yng nghadeirlan Caersallog (Salisbury) 1386, a Wells, 1392.
Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg daeth y cloc mawr, neu’r cloc hir neu’r cloc wyth niwrnod i fri yn Lloegr, ac erbyn y ddeunawfed ganrif roedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Un o nodweddion wyneb y cloc mawr oedd y lleuad symudol i ddynodi pryd y byddai’n lleuad llawn ac ati, a hefyd y llong a symudai ar donnau amser fel petai.
Erbyn heddiw mae’r cloc mawr sy’n perthyn i’r ddeunawfed ganrif yn werth llawer iawn o arian wrth gwrs. Ym mhlwy’ Trawsfynydd mae cloc hynod iawn sy mae’n debyg yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, ond nid cloc mawr mohono. Mae hwn yn rhan o bared stafell yn ffermdy’r Goppa, sef rhan o’r palis. O bosib, un o glociau y Goedwig Dduw ydyw, ardal enwog am wneuthurwyr clociau. Ar wyneb y cloc paentiwyd tirlun a choed sy’n gweddu i ardaloedd y Goedwig Ddu yn ne-orllewin yr Almaen. Yn 1702 eiddo teulu’r Parry, Llanrhaeadr Hall, Dinbych oedd y Goppa.
Nid oeddent yn byw yno eu hunain, gan mai gosod y tŷ i denantiaid a fyddent ond byddent yn ei ddefnyddio fel tŷ haf. Yn ôl Mrs Gwyneth Davies a’i mab Mr John Gwyn Davies, sy’n byw yn y Goppa, y tebygrwydd yw mai eiddo teulu’r Parry ydoedd yr hen ddodrefn sy’ yn y Goppa ynghyd â’r cloc arbennig hwn. Yr hyn a’i gwna yn unigryw yw fod ei berfedd i gyd wedi ei wneud o bren. Cynnwys ei grombil, pob echel, pifod, tafol ac ati, yr holl olwynion, rhai bach a mawr, olwynion clicied a chocos, y cwbwl oll wedi eu gwneud o bren. Tybed a oes ei debyg yng Nghymru? Credir mai cloc oedd hwn at iws morwynion a gweision y Goppa (a rheithor y plwy’ hefyd a fu’n byw yno unwaith), a dydd gwaith pob un ohonynt yn cael ei reoli gan fysedd pren yr hen gloc, a hwythau’r bysedd yn troi yn ôl symudiadau a rhod yr olwynion. Er mai ‘cloc dŵad’ a thramorwr o’r Goedwig Ddu ydoedd a ddaeth i Gymru tua dwy ganrif a hanner yn ôl, mae’r hen gloc wedi cymryd ei le ar aelwyd y Goppa ers cenedlaethau lawer, ac yn gloc Cymreig drwyddo draw o’i wyneb rhadlon i’w berfedd pren.
Os ydym yn berchen ar yr ‘hen wyth niwrnod’, wrth edmygu’r graen a’r wedd allanol sydd iddo peidiwn ag anghofio’r darnau cuddiedig o’i fewn, yn arbennig yr olwynion cocos sy’n cydio yn ei gilydd ac yn troi y naill a’r llall gan roi bywyd i’r cloc mawr.
Ceir pobl hefyd sy’n hynod debyg i’r olwynion hyn, y bobl hynny y cyfeirir atynt yn yr Apocryffa, yn Llyfr Ecclesiasticus fel ‘… rhai na fuont erioed… rhai nad oes iddynt goffadwriaeth’. Yn union fel yr olwynion dannedd, gweithio o’r golwg a wna y rhain hefyd, a’u cyfraniad diffwdan yn gyfrifol am droi rhod ac amgylchiadau bywyd i lawer ohonom.
Ie, yr olwyn mae’n debyg yw un o ddyfeisiadau mwyaf effeithiol dyn.