Archifau Categori: Gwyliau

Ffair Cricieth

Yn ei erthygl ‘Almanac yr Amaethwyr’, rhifyn 5 o Llafar Gwlad, aeth John Williams Davies ati i sôn am bwysigrwydd ffeiriau yng nghalendr y ffermwr. Eglura fel y dechreuai ffermwyr Dyffryn Teifi ddechrau aredig ar gyfer gwenith gaeaf diwrnod ar ôl Ffair Fedi Castellnewydd Emlyn a byddai’n ofynnol i ffermwyr Dyffryn Teifi gael y gwenith gaeaf yn y ddaear erbyn Ffair Calan Gaeaf, Aberteifi ar y degfed o Dachwedd. Cedwid at ddyddiadau traddodiadol wrth ofalu am anifeiliaid hefyd a’r dyddiad a argymhellid i droi’r gwartheg yn Ne Caerfyrddin oedd ddiwrnod Ffair John Brown. Sonnir hefyd am yr arfer o blannu tatws erbyn Ffair John Brown ar y 15fed o Ebrill. Pwy tybed oedd John Brown? Wrth holi fel hyn rwyf am daflu enw arall i’ch sylw hefyd. Wil Ifan yw hwnnw. Pwy oedd Wil Ifan a pham fy mod yn sôn amdano? Wel – dyma i chi enw arall ar ‘Ffair Fawr’ Cricieth yn Eifionydd. Dangosaf fy anwybodaeth drwy holi’n betrus tybed ai Ffair Gŵyl Ifan oedd yr enw gwreiddiol a bod Gŵyl Ifan wedi mynd yn Wil Ifan ar dafod leferydd? Gyda llaw Ffair Gŵyl Ifan oedd enw Ffair Pwllheli ar y 28ain o Fehefin.

Er nad yw John Williams Davies yn sôn am Ffair Cricieth yn ei erthygl ef, dewch efo fi am ychydig i’r dref dlos hon gyda’i môr a’i chastell ond yn wahanol i John Davies tydw i ddim am sôn am ei chysylltiad â byd amaeth. Gadawaf hynny i chi ddarllenwyr. Mynd â chi i sŵn a rhialtwch y ffeiriau a wnaf a rhannu straeon. Ia, sylwch ffeiriau nid ffair. Mae dwy ffair yng Nghricieth- y Ffair Fach ar Fai 23, ffair gynta’r haf a’r Ffair Fawr neu Ffair Wil Ifan ar Fehefin 29. Roedd fy hen nain Rebeca Roberts, Padarn, Cricieth yn dweud fel sawl un arall yn yr ardal na ddylid tynnu festiau nag ymdrochi yn y môr tan ar ôl Ffair Wil Ifan.

Magwyd fy nain yng Nghricieth ac fe gofia hi a’i brawd am geffylau yn cael eu gwerthu ar y maes yng nghanol y dref. Dyna’r unig gof sydd ganddyn nhw am anifeiliaid yn y Ffair. Roedd Ffair Cricieth yn ddigwyddiad o bwys gyda phlant yr ysgol gynradd yn cael hanner diwrnod i ffwrdd i fynd i’r ffair. Daeth yr arferiad hwn i ben ar ôl cyfnod Mr Evan Davies fel Prifathro.

Mae yna ‘Gae Sioe’ yn y ffair hon, ac mae’n dal yn boblogaidd heddiw ac mae hwnnw yn cael ei leoli yn y maes parcio ger y ‘Crossing’; ond arferai’r ceir bach, y bangars, y ceffylau bach y swings a’r pysgod aur fod wrth ymyl y fan lle mae’r Ganolfan Iechyd heddiw. Fe fu hefyd ar faes parcio Morannedd, Dylan’s erbyn hyn, ond dim ond rhyw dair i bedair blynedd y bu hynny am ei fod braidd yn bell mae’n siŵr ac fe’i symudwyd yn nes at y Ffair ei hun. Fe gofia Gwyn Owen, mab y diweddar Barchedig Stanley Owen, cyn- weinidog Capel Jerusalem, Cricieth am gychod gyda rhaff yn y canol yn symud yn nôl a blaen yn y Cae Sioe ac am y stondin bysgod aur. Y dasg oedd codi pysgodyn plastig a rhif o dano a pherchennog y rhif cywir fyddai’n ennill ‘sgodyn aur. Y tristwch oedd doedd yr un ‘sgodyn ffair yn byw yn hir yn y bag plastig ac er prynu bowlen gron fel cartref newydd doedd honno ddim yn gwneud y tro chwaith. Mae pysgod aur yn destun digon difyr a dweud y gwir! Beth am enwau pysgod aur y ffair?! Cyflwynaf Clynnog a Trefor ar ôl y cwmni bysus o Drefor, Samson a Delia, Pen a Morfa. Galwodd teulu Glen Jones o Forfa Nefyn, gynt o Lithfaen, eu pysgod nhw yn Margaret a John ar ôl perthnasau o Abererch! A beth am hanes cynhebrwng yr hen bysgod druan? Arch Glen Jones a’i chwiorydd o Lithfaen oedd tiwb Steradent tra byddai fy mam a’i chwiorydd yn eu claddu mewn bocs matches yn yr ardd gan osod potiau pêst bach i ddal blodau ar y beddi a chroesau o breniau eis-lolis fel cerrig beddi.

Er bod oglau’r ffeiriau am wn i wedi aros yr un peth; oglau nionod, cŵn poeth a chandi fflos, mae’r stondinau wedi newid. Stondin boblogaidd iawn oedd stondin Inja Roc Llannerch-y-medd ger Bont Cwrt a gallaf feddwl y byddai’r ffermwyr a arferai gyfarfod ar y bont yn cael hwyl gwrando ar yr hen wraig yn gweiddi dros bob man ar bobl i ddod i brynu ei hinja roc hi. Oedd, roedd angen cystadlu â stondin inja roc Pwllheli gerllaw! Roedd y ddwy wraig oedd yn cadw cow ar y stondin yn gwisgo bratiau croesi drosodd a hetiau bach ar eu pennau. Byddai Mrs Owen Maes Gwyn, Morannedd, gwraig Y Parch Stanley Owen, yn grediniol fod y sawl oedd yn gwneud yr inja roc yn poeri arno wrth ei wneud ac o ganlyniad ni fyddai yn ei brynu!

Stondin boblogaidd oedd y stondin lestri islaw’r ‘crossing’ wrth ymyl Capel Seion, Capel y Traeth heddiw sef stondin lestri Davies Wrecsam a byddai’r gwerthwyr yn aros yn nhŷ fy hen nain. Fe gofia rhai am stondin lestri arall ar y gornel dros ffordd i’r ‘Medical Hall’ gyda’r llestri wedi’u stacio’n deuluoedd o gwmpas y stondinwr, neu mewn basgedi gwellt ar y lôn. Yntau’n gweiddi ac yn bargeinio ac yn gwerthu tan wedi deg yn y nos yn enwedig os oedd y tywydd yn braf. Byddai tyrfa fawr yn ymgynnull o’i gwmpas i wrando arno yn mynd trwy’i bethau ac yn gwirioni wrth iddo ychwanegu rhyw jwg llefrith a phowlen siwgr at y llestri i wella ac ychwanegu at y fargen.

Roedd yna stondinau carpedi ym mhen ucha’r maes, nifer o stondinau dilladau yn gwerthu ffrogiau crimplene, bratiau, sgerti a phob dilledyn dan haul. Byddai sawl un yn prynu eu dillad gwelyau, tyweli a chadachau a thaclau llnau yn y ffair a’r dynion yn cael eu tynnu am fargen i’r stondin dŵls dan y ‘crossing.’

Tybed pwy sy’n cofio Tom Nefyn yn pregethu ar y maes ger y Neuadd Goffa neu’r Parchedig Gray Edwards, Nefyn, ar ôl hynny? Pwy sy’n cofio’r sŵn a’r twrw yn dod o’r Prince, y Lion, y Bryn Hir a chefn y George? A thybed pwy sy’n cofio Dr Jôs, un o gymeriadau, Cricieth yn cerdded yn ei goban wen i lawr y stryd ar ei ffordd i nofio’n y môr? (Byddai’n gwneud hyn bob bore gyda llaw). Er y ciwio i fynd drwy’r dref a’r plisman yn cael trafferth i gadw trefn ar y traffig, byddai hogiau’r Cyngor wedi clirio’r cwbl lot y noson honno ac wrth gerdded y maes bore wedyn fyddai’r un stwmp sigarét i’w weld medd fy ewythr; roedd bob dim wedi mynd am flwyddyn arall. Roedd bob man yn hollol lan heblaw am olion trampio ar y maes bach a’r maes mawr.

Hufen Iâ

Ac ar ôl cerdded drwy’r bobl a heibio’r plisman oedd yn cael trafferth cael trefn ar y traffig, doedd wiw mynd o Ffair Cricieth heb gael hufen iâ. Un Cadwaladers. A’r gwerthwr – Dafydd Cadwalader. Dyn oedd yn gwisgo côt fechan wen tri chwarter a ffedog o’i flaen a het wellt ar ei ben; ia dipyn o gymeriad medden nhw ac yn un ffraeth iawn. Dros y ffordd i’r siop ar yr allt roedd yna flwch postio coch ac yn y fan honno, medd Evie Wyn Roberts, fyddai’r hogiau yn hel gyda’r nos. Un yn licio bet neu ddwy oedd Dafydd Cadwalader ac os oedd wedi cael winings golew byddai’n croesi’r ffordd ac yn rhoi cornet bob un i’r hogiau. Yr oedd yr un mor ffeind yn ystod diwrnod chwaraeon yr ysgol gynradd a gofalai ddod â chornet i bawb bryd hynny hefyd. Dyn clên a’i hufen ia yn ddihareb gwlad oedd Dafydd Cadwalader. Roedd yr hufen ia medd Gwyn Owen, Maes Gwyn gynt, Bae Colwyn erbyn heddiw, yn ffres bob dydd. Blas fanila yn unig wrth gwrs, ac os oedd yn rhedeg allan byddai’n cau’r siop am awr i greu mwy ohono ac yna’n agor eto. Roedd dau fwrdd bach ar gyfer eistedd i mewn a chofia Gwyn Owen, fu’n gweithio yno am flynyddoedd, fod Mam Dafydd Cadwalader yn galw yno hefo rhywun am 11.00 y bore i gael ‘knickerbocker glory’. Gwyn Owen fyddai’n cario’r twb crwn a handlen rydd arno i gaffi ‘Blue China’. Roedd ganddo ofn am ei fywyd ei ollwng gan nad oedd yr handlen yn saff. Oedd, roedd hufen ia neu eis crîm Cadawaladers yn ddihareb a thybed pwy sy’n cofio’r nodyn ar ddrws ei siop yn egluro beth oedd cynnwys ei hufen ia : “Into it goes 24 gallons of milk, 5 dozen eggs and a great deal of love and care and a secret ingredient.” Doedd y cynhwysyn pwysicaf un ddim yna! Cred rhai mai hufen ‘condensed Nestle’ oedd o. Mae yna hen ddyfalu wedi bod ond mae un peth yn sicr, tydi perchennog y siop newydd a’i gownter gwydrog crand llawn blasau gwahanol heb gael gafael ar y gyfrinach na’r “secret ingredient”. Holwch, a’r un yw stori pawb heddiw roedd llawer gwell blas ar gynnwys twb fanila Dafydd Cadwalader a werthwyd dros gownter pren. Ond rhaid dweud hyn cyn cloi, mae Mr Gwyn Owen wedi datgan mai ‘Cremilla powder’ o Seland Newydd oedd y cynhwysyn cyfrinachol hwnnw!

Ffair Llanllyfni

Ychydig o wybodaeth sydd gennyf am y ffair hon – ond dyma wahodd ymateb gan ddarllenwyr drwy gychwyn fel hyn. Byddai Glen Jones yn cofio ei mam, Nel Jones o Lithfaen, yn sôn am ddringo’r polyn saim oedd yno. Y dasg oedd ceisio dringo polyn llawn saim a phwy bynnag fyddai’n cyrraedd y brig byddai’n cael lwmp o feicyn! Soniodd hefyd am gystadleuaeth dal mochyn a byddai’r un fyddai’n llwyddo i’w ddal yn cael mynd â fo adref efo fo. Cysylltwch a rhannwch ein hanesion ffeiriau gyda ni.