Archifau Categori: Iaith

Glasenwau

Ceir sawl erthygl am lasenwau yn Llafar Gwlad. Holais rai o’m ffrindiau a’m lasenwau – yn naturiol rhywsut aeth y sgwrs i sôn am enwau athrawon ac yna fe soniodd un o’r genod wrth basio am athro o’r enw Dai Long a bod un rhiant yn dod i’r ysgol yn gofyn am weld ‘Mr Two Ships’! A dyna hi wedyn, dyma’r sgwrs yn agor fel dwnim be. Cofiodd rhywun arall am rai yn galw un athro o’r enw Mr Robert ap Robert yn ‘Two Bob’. Dyma fwy i chi – ‘Huw Duw’ athro Addysg Grefyddol, ‘Atlas’ athro Daearyddiaeth, ‘Sam Stretch’ i ddisgrifio athro tal;,‘Llew Llyncwr Llangoed’ i ddisgrifio athro oedd yn enwog am dancio a ‘Cacwn’ i ddisgrifio athro blin oedd yn cadw gwenyn. Ysgrifennodd Arthur Thomas am lysenwau athrawon yn Llafar Gwlad, 91. Darllenwch yr erthygl yma.

Dyma ychwanegu at y rhestr honno gydag enwau o ardal Bethesda. Y mae un enw ychwanegol, enw o ardal Penrhyndeudraeth sef Gwcws Mêl. Galwyd Gwcws Mêl yn Gwcws mêl am mai dyma fyddai ei fam yn ei alw yn blentyn a dyna fu ei enw wedyn.

John Morgins
Huw Mul
Gwilym Boston
Em Dorth Dun
Tomi Chwech a Dimai
Spyd
Eifion Springs
Phil Jymbo
Dic Post
Tomo Fforti Ffôr
Mair Hir
Aled Bach
Doc Rocar (Yr Ocar)
Bryn Tanc
Ned Dew
Gwen Ty Lôn
Huw Tegai
Wil Wandring
Wil Rich
Bry Sgryff
Myti Brigs
Huw Waun
Jack Tractor
Wil Llannerch y medd
John Gŵr Mam
Arthur Dal Pry
Len Plymar
Eunice Dal Byd
Slew Bach
Albert Big Boy
Alun Bingo
Gwyn Spitfire
Richard Boutique
Y tri brawd -Bol Mawr, Bol Canol a Bol Bach.

Wrth roi’r enwau gerbron fy ffrindiau dyma’r enwau oedd yn eu goglais nhw- Arthur Dal Pry (tybed am fod ei geg ar agor fel petai’n dal pryfaid?) Mair Hir, John Gŵr Mam, Em Dorth Dun a’r tri brawd Bol Mawr, Bol Canol a Bol Bach!

Ymddangosodd rai glasenwau o Gaergybi yn Llafar Gwlad, 124. Cliciwch yma i’w darllen. Cofiwch rhowch gwybod am lasenwau o’ch hardaloedd chi.

Iechyd da!

Cwrw budur, meddw gaib, meddw shitrins, lawr y lôn goch, yfed heb dwtshyd yr ochr, clecio, dim troed dano…

“Tybed faint ohonoch chi sydd erioed wedi meddwl am yr holl eiriau a dywediadau sy’n troi o amgylch tŷ tafarn a byd y ddiod?” Dyna holodd Myrddin ap Dafydd yn ei erthygl gyntaf o gyfres ar ‘Iaith Potio’ yn y chweched rhifyn o Llafar Gwlad. Darllenwch yr erthygl ddifyr honno yma. Mae sawl un wedi cyfrannu i Llafar Gwlad dros y blynyddoedd ond wn i ddim am neb gwell i ysgrifennu’r erthyglau ar ‘Iaith Potio’ na Myrddin. Dylan Jones gyflwynodd Myrddin ap Dafydd fel ‘BBC’ ar Radio Cymru: ‘Bardd, Bragwr a C(h)yhoeddwr’. Tybed ai ymchwilio i eiriau a dywediadau tŷ tafarn wnaeth ysgogi Myrddin i gychwyn y fenter Cwrw Llŷn? Byddai’r stori tu ôl i’r fenter honno yn destun erthygl ddifyr arall…

Ond, i fynd yn nôl at ‘Iaith Potio’, atebodd Fred Williams, Wrexham Lager i gais Myrddin am fwy o eiriau a dywediadau. Dyma ddywedodd o:

Enw a arferir am ‘King Pin Bitter’ yng Nghaernarfon yw Ceiliog Dandi. Hefyd clywir Dai Dwbwl am ‘Double Diamond’. Yng Nghaernarfon eto, y gair am fol cwrw yw bol lysh, ac os yw rhywun wedi mynd am beint, yna dywedir ei fod wedi mynd i gael mwy o’r ffisig coch. Ar y llaw arall, os mai stowt neu meild yw diod y dyn, dywedir ei fod yn yfed Grefi Browning. Term a ddefnyddid os byddai rhywun wedi yfed gormod ac wedi taflu i fyny oedd dweud ei fod wedi troi’r drol. Os nad oedd gan rywun ’mond digon o bres i gael un glasiad, yna doedd ganddo ddim ond digon i godi’r gliced. Petai rhywun yn mynd i dafarn Gors Bach, ger Bethel, flynyddoedd yn ôl, mi fuasai’n gweld bod y ciperiaid i gyd yn yfed gyda’i gilydd mewn ystafell ar wahân i’r bobl gyffredin, a dywedai’r werin amdanynt, eu bod yn yfed yn y sbriws. Os oedd rhywun wedi dal annwyd, a hwnnw’n selog wrth y bar fel rheol, dywedid fod wedi bod yn yfed o wydrau gwlyb!

Roedd Fred hefyd am ein hatgoffa o rai o’r termau am wahanol gymysgfeydd o ddiodydd –

Blac an’ Tan – Guinness a bityr
Boilar Mêcyr – Meild a bityr
Snec-beit – Lager a seidar
Peint o ‘Chinese’ – Lager a bityr
Famous-leg-opener – Pony (i ferched wrth gwrs!)
enwogion tafarn sinc

Cefais flas ar rai o dermau Dyfed (Llafar Gwlad, 77). Yno, ar y Preseli, y mae’r dafarn enwog Y Dafarn Sinc wrth gwrs – lle enwog am ei Chymreictod. Bûm yno’r haf diwethaf- profiad a hanner. Llwch lli dan draed, Iwcs a Doyle yn chwarae o’r peiriant Cd, cyfrolau o gerddi ar silffoedd a lluniau o enwogion Cymru oedd wedi ymweld â’r dafarn ar y waliau.

Ches i ddim cyfle i ymweld â thafarn Bessie, neu’r Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun. Yn y dafarn honno, y daeth Myrddin ar draws y term Mabinogaidd ei naws plethad am y tro cyntaf. Gofyn i bostman o Abergwaun pam ei fod yn crwydro yno i Dafarn Bessie am ei beint wnaeth Myrddin a’r ateb amwys oedd: ‘I gael plethad!’

Mae’n rhaid bod y cwrw casgen a werthir o’r gegin yno yn medru creu clymau Celtaidd o’r ymennydd mwyaf caled cyn bo diwedd y nos, ond roedd y ‘plethad’ a soniai amdano yn nes at y ‘crac’ Gwyddelig na dim arall a glywodd Myrddin yn y Gymraeg. Yn ei eiriau ef – “cwmni, straeon, tynnu coes, cwrw, cariad – y cyfan wedi’u plethu drwy’i gilydd i greu noson lawen iawn oedd yn cael ei gyfleu gan y gair.”

Chi arbenigwyr gwin, efallai y byddwch chi yn cael blas ar yr erthygl ‘Geiriau gwych wrth garu gwin’ (Llafar Gwlad, 78). Darllenwch yma. Ond os ydych chi fel finnau yn dioddef o ‘hangofyr’ gwael ar ôl gwin, yna gwell fyddai peidio darllen! A sôn am ‘hangofyr’; difyr oedd darllen ‘Iaith Potio’ Llafar Gwlad, 79 am rhai o’r geiriau Cymraeg am ‘hangofyr’. Mae pen mawr yn ymadrodd cyffredin iawn. Bathodd scriptwyr C’mon Midffîld yr ymadrodd da ‘Penmaenmawr.’ Tybed oes gennych chi ymadroddion eich hunain? Glywsoch chi am rai o’r rhain?

  • Mae gen i dri phen yn lle un
  • Mae gen i benglog
  • Mae’r ordd yn curo heddiw
  • Mae gen i gnoc

Os ydych chi’n dioddef o symptomau penodol, ydych chi erioed wedi defnyddio rhai o’r ymadroddion hyn?

  • Dwi’n teimlo fel cadach
  • Teimlo’n wantan
  • Wyneb yn llwyd fatha llymru
  • Mae gen i geg fel nyth cath/ fel cesail arth/ fel twll tin ffurat/ fel caij bwji
  • Dwi wedi llyncu draenog (am boen bol)
  • Mae gen i dipyn o Gantre’r Gwaelod! (dywediad da am y difrod a wna diod ar y pen isaf! Addas iawn hefyd o gofio fod Seithennyn yn dipyn o feddwyn!)

Ie, peth cas ydi anghytuno â’r gasgen. Mae ‘na ddigon wedi’n rhybuddio rhag cyffwrdd y ddiod gadarn wrth gwrs. Wedi cael baw neithiwr mae o oedd dywediad meinars y Rhiw, Llŷn am John Cae Person, Llanrwst oedd yn feddwyn adnabyddus yn y pyllau mwyn yno. Gwlith y diafol sy’n ddywediad arall o Lŷn am ddiod – am rym y Capten Morgan yr arferid hwnnw ym Mhwllheli ers talwm.

Cofiwch gysylltu os gwyddoch chi am eiriau neu ymadroddion eraill yn gysylltiedig ag yfed. Wyddoch chi am arwyddair a gysylltir â thafarn arbennig? Cofiwn am ‘Allwedd calon, Cwrw da’ sydd i’w weld ar ddrws y Llew Aur, Dinbych. Neu beth am enwau’r tafarndai? Wyddoch chi am y stori tu ôl i enw tafarn benodol? A oes gennych chi rigwm, pennill neu englyn am dafarn, neu yn enwi tafarn tybed? Cofiwn am

Tri thafarndy sy’n Nhre-fin
Y Ship, y Swan a Fiddler’s Green.

 Neu’r rhigwm hwn a gyfansoddwyd mae’n debyg am y dafarn enwog ar lan y dŵr, Tŷ Coch –

Ym Mhorthdinllaen mae cwrw llwyd,
sydd yn ddiod ac yn fwyd.
Yfais inna lond fy mol
Nes own i’n troi fel olwyn trol.

Da chi, cysylltwch â ni – iechyd da bawb!

Enwau lleoedd

Do, mae’r “Cymry wedi cymryd diddordeb erioed yn eu milltir sgwâr. Maent hefyd wedi ymddiddori dros y canrifoedd yn enwau’r filltir sgwâr honno” fel y dywed Tomos Roberts yn yr erthygl ‘Tyst yw’r chwedl i’r enw’ yn Llafar Gwlad, 74. Fel yr awgryma’r teitl, olrhain cysylltiadau enwau lleoedd â chwedlau a wna’r erthygl.

Chi drigolion Tudweiliog, fe wyddoch chi mae’n siŵr am y chwedl onomastig i esbonio’r enw Tudweiliog. Dyfynnaf o Llên Gwerin Sir Gaernarfon

Tudweiliog sydd enw ar blwyf yn Lleyn, yn y gorphenol pell, pryd yr oedd yr holl arwynebedd rhwng Lleyn a’r Iwerddon yn fath o gorsdir ag y gellid ei dramwy ol a blaen ar droed. Dyma fel y bu, yn ol tystiolaeth ceidwadwyr llên a thraddodiad: Yr oedd Person Tudweiliog yn dal bwyoliaeth hefyd yn yr Ynys Werdd, Gwasanaeth yn Lleyn yn y boreu, a ffwrdd a’r Person ar gefn ei geffyl – Weiliog, tu hwnt i’r gors at wasanaeth y prynhawn. Adref at y gosber – ar y daith, suddai traed y ceffyl mewn rhai mannau, arafai hynny beth ar ei gerddediad, “toc a da” clywai y gwir parchedig gloch ei Lan yn galw ar y plwyfolion – fod amser dechreu’r gwasanaeth gerllaw, ac ebai ef yn ei ffrwst wrth ei geffyl, “Tud Weiliog!”

Medd Tomos Roberts – “y mae yma yn amlwg elfen gref o gelwydd golau, ond y mae yn y chwedl hedyn o wirionedd hefyd ac efallai fod yma enghraifft o gof gwerin yn ymestyn ymhell i’r gorffennol. Yr oedd tir sych yn cysylltu Cymru ac Iwerddon amser maith yn ôl. Y mae yn y chwedl hon adlais cryf o’r rhan honno ail gainc y Mabinogi lle mae’r cawr Bendigeidfran yn gallu cerdded o Gymru i Iwerddon a’r holl gerddorion offerynnol ar ei gefn gan nad oedd y môr yn fawr.”

Difyr, ynte? Difyr fod gan y Cymru eu ffordd eu hunain o esbonio enwau lleoedd. A sut mae esbonio’r enw ‘Tudweiliog’ go iawn gofynnwch? Yn ôl Ifor Williams enw person wedi goroesi mewn enw lle ydyw. Tudwal yw’r enw yma.

O.M.Edwards ddywedodd mai dagrau pethau yw nad ydym yn gwybod ystyr enwau lleoedd. Ysgododd hynny imi fynd ati i ymchwilio i enwau lleoedd yn fy milltir sgwâr. Dyma flas ar ambell un i chi –

  • Daron – Mae Daron yn enw cyffredin ym Mhen Llŷn. Yn ôl Ifor Williams, duwies nid duw, oedd Daron – duwies y dderwen. Difyr yw ychwanegu fod y Celtiaid yn Ffrainc yn arfer addoli duwiesau a elwid Dervonae.
  • Afon Dwyfor – Duwies eto “yn ddiamheuol” medd Ifor Williams fel yr afon Dwyfach.
  • LlangwnadlNant + gwnadl yn troi yn Langwnadl. Efallai bod rhai ohonoch wedi meddwl mai Llan Gwynhoedl sant ydyw, ond yn ôl Ifor Williams, Llanwnadl fyddai’r ffurf wedyn.
  • Botwnnog – Yr hen enw Bod-dywynnog. Dyma enghraifft o ddwy d yn taro yn erbyn ei gilydd ac yn rhoi t. Ond cofiwch sillafu yr enw’n gywir – does dim dwy t yn y Gymraeg – Botwnnog felly amdani.
  • Mochras –Mae traeth Mochras ym mhen draw bae Porth Mawr, Abersoch. Dyma ardal llawn tai haf a’r ymwelwyr yno, chwedl pobol Llŷn fel ‘chwain traeth.’ Ystyr? Bae neu benrhyn moch yn ôl Ifor Williams. Oni soniodd Saunders Lewis – “ac wele’r moch.” Rhy hwyr yn hanes Mochras mae arnaf ofn.
  • Sarn – Cerrig wedi eu gosod er mwyn hwyluso croesi afon neu gors wlyb. Ie, lle gwlyb yw Sarn Mellteyrn o hyd. Pentref bychan ydyw, y lleiaf yn Llŷn ond pentref â thair tafarn!
  • Fferm Coch y Moel – A’r ystyr? Llysenw oedd hwn ar berchennog y ffarm slawer dydd!
  • Yr Eifl – Mae Geraint Jones, Trefor, yn cynddeiriogi wrth glywed pobl ddiarth yn bedyddio’r mynydd hwn fel “the Rivals” ac yn ffromi bod tafarn o’r un enw yn Llanhaelhaearn. Beth yw ystyr yr Eifl felly? Golyga ‘y ddwy fforch’ – darlun da o’r mynydd hwn rhwng afon a llyn.
    Gafl yw fforch, y lluosog yw geifl. Felly nid lluosog yw Yr Eifl.
    Merch eofn oedd yn hoff o grwydro llethrau’r Eifl oedd y cymeriad Luned Bengoch yn y nofel o’r un enw gan Elisabeth Watkin Jones a biti na fyddai fforch yr Eifl yn codi ofn ar yr ymwelwyr hŷ sy’n tramwyo ar y ffordd sy’n rhedeg hyd ei godra am Ben Llŷn yn yr haf. Dywed rhai bod pobl Llŷn bron mor gysetlyd â phobl Môn a’u bod angen “passport i groesi’r Eifl!” Mae Gruffudd Parri, awdur y clasur Crwydro Llŷn ac Eifionydd, yn sôn mewn ysgrif yn y gyfrol Mân Sôn am hen ffarmwr o Lŷn yn rhoi ateb sydyn i rywun a ddywedodd wrtho fod Llŷn ymhell o bob man drwy ddweud mai “pob man arall sydd yn bell o Ben Llŷn.”
  • Bodegroes – Dyma gyrchfan sawl seleb o A. A. Gill hiliol a sarhaus i Siân Tywydd siriol a wendeg. Plasty ydyw ar gyrion Pwllheli a gollodd ei seren Michelin werthfawr yn ddiweddar. Gwell gan Gymry Llŷn dramwyo falla i Benlan ym Mhwllheli boed am chips mewn un siop neu bicio dros ffordd i’r dafarn enwog yn llawn lluniau o’r Ysgol Fomio a darllen soned ‘1937’ R. Williams Parry ar y muriau gwynglachog.
    Dywedir mai enw lluosog am ffrwyth y rhosyn gwyllt yw egroes ond mae Melville Richards yn gyndyn o’i dderbyn. Y mae am i ni ystyried bod+y+croes sydd yma. Y mae Glenda Carr yn sôn am y cyfeiriad cynharaf ar yr enw sef pethegoes a hynny yn 1352. Mae’n mynd i’r afael â damcaniaeth Melville Richards ac yn dod i gasgliad mai tŷ lle gwelir llawer o rosynod gwyllt ydyw. Ac o fynd yno mae’n llawn haeddu’r enw gyda’r rhosyn gwyllt yn “fil harddach” na’r llwyni dof eraill sydd yno.
  • Bodermid – Y mae sawl stori ysbryd yn gysylltiedig ag ardal Aberdaron megis y rhai am gŵn Annwn yn dilyn personiaid, Ysbryd Parwyd a’r rhai am fynachod Enlli ar y swnt.
    Beth am Bodermid? Yn ôl Glenda Carr dywed fod Bodermid yn ardal Anelog yn “hen enw”. Dywed mai’r gair ‘hermit’ yw ‘ermid’ yma, ac yr arferid defnyddio ermid am hermit. Dyfynna Lewis Glyn Cothi yn cyfeirio at frudiwr “Ieuan Ermit o Normant”. Gerllaw mae Porth Meudwy, y porth traddodiadol i groesi i Enlli. Pwy oedd hwn dybed?
  • Bodfel – Enwir Bodermid a Bodfel yn nofel Gwen Pritchard Jones a gipiodd y Daniel Owen yn 2006 sef Dygwyl Eneidiau. Mae Bodfel yn Llannor yn Llŷn. Ac ym Modfel yr aeth Gwen Pritchard Jones â’r darllenydd i noson o gyfeddach a dawns.
    Bod + mel yw’r ystyr? Na, dim honeyeyd dwelling – rhy ffansiol yn ôl Geraint Lewis. Awgrymodd Melville Richards mai enw personol Mael sydd yma neu enw cyffredin ‘mael’ sef tywysog. Tuedda Glenda Carr i gytuno ag ef. Bellach mae Bodvel Hall wedi gweld dyddiau gwell – testun nofel arall efallai?
  • Bodwyddog – Bu Wil Bodwyddog yn destun ysgrif gan Harri Parri yn ei lyfr Iaith Brain ac Awen Brudd. Dyma gymeriad ardal a fedrai iaith y brain. Ffermdy yn ardal Rhiw yw Bodwyddog ac fe geir Bodwyddog Fawr a Bach. Aeth Melville Richards ati i’w ddadansoddi fel hyn.
    Bod = preswylfa a gwyddfa = ansoddair gyda’r ystyr coediog. Diddorol – lle digon di-goed yw Llŷn ac eithrio coed Madrun a choed Nanhoron fu’n destun sawl telyneg ac ysgrif i’r Prif Lenor John Gruffydd Jones Abergele (Nanhoron gynt). Mae coed yn ardal Bodwyddog hefyd. Fodd bynnag fe gyflwynodd Melville Richards yr enw personol Gwyddog yma. Os felly dyma enw personol sydd wedi hen fynd.
  • Tywyn – Mae tywyn yn air cyffredin yn Gymraeg am draeth tywodlyd. Yn Llŷn fe geir Tywyn a Phorth-tywyn ger Tudweiliog. Sylwer fod tywyn yn cael ei sillafu gydag ‘y’ yn yr ail lythyren. Dyna sy’n gywir. Yn ei darddiad mae’r gair tywyn yn perthyn i’r gair tywod.

Newidwyd llawer o enwau dros dreigl amser. Ystumiwyd rhai er mwyn eu gwneud yn haws i’w hynganu er enghraifft mae’n haws dweud Berch am Abererch. Dywediad da yw hwnnw am rywun amleiriog “Yn mynd rownd Berch i gyrradd Pwllheli”. Rhaid bod pobl debyg ym Môn – sy’n mynd rownd Sir Fôn i ddweud eu stori nhw! Ac rwy’n siŵr fy mod innau ‘wedi mynd rownd Berch’ yn yr erthygl hon hefyd, ond peth felly yw olrhain enwau lleoedd. Cofiwch, os oes gennych chi enw, neu stori tu ôl i enw enw, cysylltwch â ni! Neu os am ddarllen am chwedlau onomastig darllenwch Llafar Gwlad 75 (t.10) a 76 (t.8).

Rom bach o eiriau ac ymadroddion Llŷn, Arfon ac Eifionydd

map

Cerdded drwy bentref Morfa Nefyn oeddwn i dros y dolig a sylwi cymaint oedd wedi rigio’u tai. Ia, ‘rigio’u tai’ fydd pobl Llŷn nid eu trimio nhw fel pawb arall. Gwahanol? Unigryw? Yn sicr!

Ac fel llo Llŷn rwyf wedi cael fy mhorthi yn iaith y brain ac mewn dywediadau megis “mynd drwy’r byd mewn hers”, “codi cnecs” a “wedi mynd yn horlics” yn ‘hen ysgol hogia Llŷn’ ym Motwnnog.

Cymerwch er enghraifft ‘blermon’ sef rhyw greadur blêr, trwsgl, term y byddaf yn ei edliw am fy mrodyr yn aml! Neu beth am ‘asgwrn tynnu’ sef asgwrn fforchog ar frest cyw iâr. Bydd Iona Jones, gwraig y Post ym Morfa Nefyn yn fwy na pharod ei thafod i alw rhai o genod Ysgol Botwnnog yn “Siani bais gwta” os yw eu sgerti yn rhy fyr. A hi hefyd fydd yn gweld cownter y siop ar Fercher olaf y mis sef diwrnod dosbarthu Llanw Llŷn mor brysur â “bwrdd Bodwrdda” (hen ffermdy ger Aberdaron yw Bodwrdda).

T. Llew Jones ddywedodd wrth sôn am gasglu geiriau a dywediadau llafar gwlad-

“o’r cyfoeth sy’n llithro rhwng ein bysedd fel tywod y môr, a ninnau mor ddifater… fe ddwedwn i ei bod yn hwyr bryd i ni fynd ati i gasglu’r hyn sy’n weddill o’n hetifeddiaeth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Nawr – neu ddim yw hi!”

Dyna a wnaeth Bleddyn Owen Huws yn Llafar Gwlad, 20, drwy restru rhai o eiriau ac ymadroddion Arfon ac Eifionydd. Dyma flas i chi ar rai –

Bachau byns: dwylo go drwsgl yw ei ystyr. Clywais gyfaill imi’n yr ysgol yn dweud bod gan fachgen a fethai â dal pêl â’i ddwylo facha’ byns.

Bodwrdda: “mae hi ‘run fath â Bodwrdda ‘ma”, meddai cymydog pan oeddem yn torri gwair mewn gardd â dau beiriant lladd gwair. Dywediad yn Eifionydd ydyw. Fe arferai fferm Bodwrdda ger Aberdaron gyflogi llawer o weision a morynion.

Brwgaits: meddir am goediach a brigau a drain, neu am anialwch yn gyffredinol. Gw. Maes Mihangel J. G. Williams t.39. Benthyciad o’r Saesneg ‘brockage’ ydyw.

Bytluns: “ty’d yn dy flaen, ddim yn Bytluns ‘rwyt ti rŵan,” meddai gweithiwr wrth annog ei gyd-weithwyr i dorchi’i lewys a gafael ynddi. Gwersyll gwyliau gerllaw Pwllheli yw Butlins, wrth gwrs.

Cadw Cow: cadw trefn neu reolaeth ar sefyllfa yw’r ystyr. Clywir am athrawon yn methu cadw cow ar ddisgyblion mewn dosbarth.

Cario Ciants: cario straeon neu hel clecs.

Carreg fastad: carreg galed eithriadol. Mae’n amhosibl hollti carreg fastad gyda chŷn a morthwyl fel rheol.

Ceg agored: mae hwn yn rhan o eirfa adeiladwyr o Ben-y-groes. Wrth osod llechi ar do mae’n rhaid gofalu eu bod yn gorwedd yn wastad fel na fyddont yn gegorad.

Cratsh: dywedir bod rhywun wedi cael llond ei gratsh o gwrw pan fo wedi meddwi. Yr un ystyr â chael llond ei geubal sydd iddo. Benthyciad o’r Saes. ‘cratch’.

Chwilen â’i thraed i fyny: dywedir am rywun hurt ei fod fel chwilen. Ond clywais am wraig o Ben-y-groes yn dweud am ddynes fwy hurt na’i gilydd ei bod fel chwilen â’i thraed i fyny.

Chwythu fel neidar: “roedd pwy-a-pwy yn chwythu fel neidar ar ôl cerddad i fyny’r allt.” Rhywun yn fyr ei anadl neu allan o wynt yn lân.

Gwisgo’r hen: “pa newydd sy’ gen ti?” “Dim byd ond gwisgo’r hen chwadal nhwtha.” Ffordd o ddweud nad oes gennych fawr ddim newyddion trawiadol am neb na dim.

Jadan: “hen jadan o ddynas ydi hi,” meddir am wraig annymunol ac ystrywgar. Mae sopan o ddynas yn ddrygair tebyg.

Llygaid fel broth: “mae gynp fo lygid fel broth” meddir am un a chanddo bâr da o lygaid. Cyfeiriad sydd yma at lygaid saim ar wyneb potes.

Magu gwaed: “dydi hwn ddim yn lle i fagu gwaed hogia,” meddai Wil Pant y Pistyll, Nebo, ar ganol cae ar ddiwrnod oer a gwyntog ym mis Ionawr.

Pancan: clywais ddefnyddio’r gair fel enw ar ddamwain car ac am dolc ar gar.

Pegan: “mi gath o began,” meddir am rywun yn prynu rhywbeth a sylwi bod nam arno wedyn. Cael tro gwael neu gaff gwag yw’r ystyr.

Sbargio: ym myd economi du Arfon ac ymhlith poblogaeth ddi-waith yr ardal, y mae i’r gair hwn ystyr arbennig. Pan fydd rhywun sydd ar y dôl yn gweithio ar y slei ac yntau’n cael ei ‘riportio’ i’r awdurdodau dywedir ei fod wedi ei sbragio. Yn chwareli Arfon byddid yn atab y wagenni drwy roi ‘sbrag’, sef darn o ddur pwrpasol yn yr olwynion, h.y. roeddent yn cael eu ‘sbargio’.

Sgeg: ‘mi gafodd o ddipyn o hen sgeg’ meddir am ŵr a gafodd lawdriniaeth go arw.

Stwna: gwneud rhyw fân bethau, ffidlan neu stwnsian. Gw. Yr ysgrif ‘Ffidlan’ yn Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams, t.266, lle ceir y diffiniad hwn o ystyr y gair: “…nid gwneud dim yn gyflawn a gorffenedig, ond ymhel â phob math o ryw fân jobsys, neu dynnu pethau oddi wrth ei gilydd o ran hwyl ac ymyrraeth…”

Tŷ Chwain: dyna’r enw a arferid ar bictiwrs Neuadd y Dref ym Mhwllheli. Byddai tocynnau yno’n rhatach nag ym mhictiwrs y Palladium, felly arferai pobl dlawd fynychu’r lle hwnnw. Y dyb gyffredin oedd mai caridymus, pobl fudr a chweinllyd a fyddai’n gwylio ffilmiau yno.

Tywydd chwipsych: cyfansoddair gwych a glywais gan John R. Owen, cigydd yng Nghricieth, yw chwipsych am dywydd oer pan fo’r ddaear wedi rhewi’n gorn.

Oes, y mae gennym ni oll ein geiriau a’n dywediadau llafar gwlad ein hunain. Da chi, gadewch sylwadau gyda eich rhai chi. “Nawr – neu ddim yw hi!”