Archifau Categori: Sipsiwn

Sipsiwn

Ambell dro fe geir rhifynnau arbennig o Llafar Gwlad sy’n canolbwyntio ar draddodiadau neu leoedd arbennig. Dyna a gafwyd yn y deunawfed rhifyn pan gafwyd rhifyn am y sipsiwn. Y dyddiau hyn y mae’r ddelwedd o’r sipsiwn wedi ei drawsnewid yn llwyr diolch (neu dim diolch) i raglenni teledu fel Big Fat Gypsy Wedding. Nid fel hyn yr oedd rhai o gyfranwyr Llafar Gwlad yn darlunio’r sipsiwn mae hynny’n saff –


Pwy oedd y sipsiwn felly? Dyma oedd gan Llewelyn Williams i’w ddweud –

Wyddoch chi beth yn union ydi Sipsiwn? Rhywun yn byw mewn carafan? Rhywun yn teithio o le i le? Ym mis Mawrth 1967 gofynnwyd i’r Arglwydd Ustus Diplock o’r Uchel Lys am ddiffiniad, a dyma beth ddywedodd o: “Person heb gartref arhosol yn byw bywyd crwydrol yn preswylio mewn pebyll neu gysgodfeydd eraill neu garafanau neu gerbydau eraill.”

O ble tarddodd y Sipsi? O Ham fab Noa, medd rhai; eraill o Gain trwy Lamech. Tarddant, medd traddodiad, o’r gof a wnaeth yr hoelion ar gyfer y Croesholiad. Mae’r damcaniaeth eu bod yn dod o’r Aifft (Saesneg = Egyptians) yn nes ati o bosib, ond yr esboniad mwyaf rhesymol yw mai o India y daethant. Mae rhifolyn Romani, iaith y Sipsi, yn eitha tebyg i rai Hindi, iaith mwyafrif poblogaeth India. Mae’r gair am y rhif pump – panch – yn union yr un fath.

Y Sipsi Cymreig cynta’ oedd Abram Wood a’i deulu o dri mab ac un ferch (Valentine, William, Solomon a Damaria). Tua 1730 oedd hynny ac fe ddaeth i’r golwg gyntaf yn Llanidloes. Cyfeirir ato yn un o anterliwtiau Twm o’r Nant… John Roberts, neu Delynor Cymru fel y’i gelwid, heb os nac oni bai, oedd y mwyaf dawnus o deulu lluosog iawn Abram Wood. Canodd ef a’i naw mab eu telynau o flaen y Frenhines Fictoria ym Mhlas Pale, Llandderfel, yn Awst 1889. Canodd ei Delyn hefyd o flaen Arch-Ddug Rwsia, Brenin y Belgiaid, Dug Bedford, Dug Marlborough, Dug Connaught, Dug Westminster ac Ymrodres Awstria, heb sôn am ennill mewn amryw o steddfodau cenedlaethol.

Mae dywediadau’r Sipsi lawn mor lliwgar â’u carafanau. Dyma rai o’u henwau ar drefi a phentrefi Cymru:
Wrecsam – Tref y Creigiau Coch.
Llangynhafal – Pentref yr Afalau.
Abertawe – Dinas yr Aderyn Gwyn.
Llandyrnog – Pentref y Paffio.
Rhuthun – Tref y Cathod.
Llangollen – Tref y Cnau.
Dinbych- Tref y Cŵn.
Sir Ddinbych – Sir Llaeth a Bara.

Wyddoch chi beth ydi “pensil” yn Romani? Ffon siarad! ‘Dyn y Gog’ ydi plismon. Teliffôn ydi ‘siaradwr clust’. Ysgrifen – ‘siarad llaw’. Ysgol – ‘eglwys ddyddiol’. Dyna i chi ddywediadau pert ynte?

A beth am y rhain? ‘Mae o’n bwyta galar’ – ar ôl rhywun wedi marw. ‘Methais â dweud gair’ – ‘aeth fy ngheg i rywle’. ‘Pwdin mawr heb ddim byd ynddo’ – yn golygu ffŵl. A dyma i chi ddeud go dda – ‘wats arian yw’r lleuad, wats aur ydi’r haul’.

Tybed ydych chi fel finnau yn sylwi ar y cyfoeth o atgofion sydd yn perthyn i’r sipsi a’i ddiwylliant? Yn wir o ddarllen y rhifyn, fe sylwa rhywun y caent barch haeddiannol yng Nghymru gynt. Sonia Megan Roberts er enghraifft mai uchafbwynt blwyddyn ei mam yn blentyn oedd pan ddeuai’r sipsiwn. Câi ei mam fynd i’r gwersyll i chwarae gyda’r plant a dotiai “at grandrwydd a lliwiau hapus y garafan”. Yr oedd rhyw ramant yn perthyn i fywyd y sipsiwn er mor galed ydoedd.

Fe geir straeon fwy sinistr am y sipsiwn hefyd. Darllenwch hon gan Llion Roberts-

ysbryd y sipsi

Tybed a glywsoch chi am ‘dŷ’r ysgariad’? Oes melltith ar y tŷ o hyd? Gadewch i ni wybod! A beth am y stori hon?

Un tro cafodd Wil Sam lythyr o Ben Dinas, Aberdaron yn crefu arno i gael gafael ar Austin 1939 i berchennog y tŷ a oedd bron â thorri ei fol eisiau car o’r fath.
Prin y medrai Wil gredu ei lygaid pan welodd lorri sipsiwn yn troi i mewn i’w iard ymhen rhai dyddiau – ac Austin 1939 ar ei thu ôl hi! Dechreuwyd bargeinio am y car ond doedd yr hen fois ddim eisiau gwerthu. Yn y diwedd cynigiodd Wil bris na fedrent ei wrthod – toedd o’n gwybod y rhoddai dyn Pen Dinas unrhyw bris am gar?
O gael y car aeth y dramodydd-fecanic am ben draw Llŷn a holi am Ben Dinas. Gallwch ddychmygu sut y teimlai pan ganfu nad oedd y fath le mewn bod ac mai’r sipsi oedd wedi postio’r llythyr!

Difyr oedd darllen erthygl gan Medwyn Roberts (Llafar Gwlad, 54) am ei brofiadau yn ffilmio’r sipsiwn ar gyfer rhaglen deledu a ddangoswyd ar S4C yn 1996; ‘Romani Rai’. Ydych chi’n cofio’r rhaglen honno tybed? Dywed fel hyn amdanynt –
“Er hynny, cenedl ydynt, yn byw yn ein mysg, bron fel cenedl ar wahân a heb i’r rhan fwyaf ohonom sylwi hyn. Eu cryfder erbyn heddiw, a hyn sydd bellach yn cadw eu teimlad o arwahanrwydd yn fyw, yw eu hoffter o ddawnsio a cherddoriaeth, eu hymdrechion i gadw rhywfaint o’u traddodiadau yn fyw, a’r pwysigrwydd o gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd ble bynnag mae aelodau’r teulu yn byw.”
(Darllenwch yr erthygl yn llawn yma)

Ie, cenedl ydynt sydd wedi ei herlid o lech i lwyn, cenedl sydd wedi dioddef cael eu hanwybyddu er gwaethaf y ffaith fod ganddynt ganrifoedd o draddodiad a chyfoeth diwylliannol y tu ôl iddynt.

Cyn cloi, dywedwyd wrthyf y byddai’r sipsi yn hongian cerrig bychain gyda thyllau ynddynt (tebyg i’r rhai yn y llun isod) tu allan i’r garafán er mwyn cadw ysbrydion drwg draw.

cerrig sipsi

Tybed glywodd rhywun arall am y gred hon? Byddai’n dda cael gwybod.