Alaw Jones. 76 (Mai 2002), t.6
Y ffordd orau i ddechrau dysgu codi wal gerrig sych yw drwy godi bwlch yng nghanol wal. Mi allwch ddilyn y ddwy ochr o boptu’r bwlch ac mi fydd hynny yn rhoi patrwm ichi.
Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych os oes stoc ar y tir, ac a oes perig o amgylch lle’r ydych yn mynd i weithio. Y camau nesaf fydd:
trefnu’r cerrig copa – os ydi’r tir yn uwch un ochr rhowch y cerrig copa yr ochr uchaf tua 8 i 10 troedfedd oddi wrth y wal. Byddant yn sgafnach i’w codi yn ôl ar ben y wal o’r ochr honno. Mae’n rhaid gosod y cerrig copa yn syth at i fyny ac yn dynn at ei gilydd ar y glaswellt fel eu bod nhw’n edrych fel petaent ar y wal, ac yna byddwch yn siŵr fod ganddoch ddigon i gau’r bwlch. Cyn ailgodi bwlch, mae’n rhaid gadael dwy droedfedd o boptu i’r wal yn lle clir a saff i weithio yn gyffyrddus ynddo heb fod tocynnau bach yn erbyn y wal yn y ddau ben. Byddai hynny yn berrig pe bai rhywbeth yn digwydd a chithau eisiau neidio o’r ffordd.
trefnu gweddill y cerrig – Am fod gan wal ddau wyneb, mae angen dosbarthu cerrig i’r ddwy ochr, hanner yn hanner o boptu iddi. Mae’n bwysig nad taflu cerrig wnewch chi ond eu cario i’w llefydd fel buasech yn trefnu darnau o injan car, neu dynnu watch oddi wrth ei gilydd. Yn y wal, mi ddowch ar draws cerrig pwythi sy’n ymestyn o ochr i ochr yn y wal. Mae’r rhain yn bwysig iawn. Os nad oes cerrig llawn lled wal i wneud cerrig pwyth mi allwch ddefnyddio trichwarteri – dau fel pâr. Mae eisiau llathan rhwng pop pâr yn hyd y wal. Pan ddowch ar eu traws, rhowch nhw ar y ddaear agosaf i’r copa a gofalwch fod ganddoch ddigon ohonynt a’u bod yn gryf. Mae’n well fod yna ormod na rhy ychydig ohonynt.
Ar ôl sortio y cerrig pwythi, mae’n rhaid cael trefn ar y cerrig gwebu (gwynebu) a llanw. Y ffordd orau i wneud yw mynd â’r cerrig fasech yn meddwl fod yn perthyn i’r hanner uchaf yn wastad ar y tir gosaf i’r cerrig copa. Pob un ar ei phen ei hun. Peidiwch â rhoi cerrig ar dop ei gilydd a chadwch wyneb y cerrig tuag atoch chi. Pan fyddwch yn ailadeiladu, byddwch yn gweld y garreg wrth droi rownd oddi wrth y wal. Fel arfer, mi welwch ôl y tywydd a thyfiant arni.
Yn y wal, mi ddewch ar draws gerrig mân yn y canol. Yr enw ar y rhain yw uwd neu gerrig llanw. Rhowch y rhein mewn tir thwmpath – oboptu’r ochr i’r wal a rhyw ddwy droedfedd oddi wrth gwyneb y wal. Nid oes lliw tywydd ar y rhain. Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i’r rhein fynd yn ôl i’r canol.
cerrig sylfaen – cerrig mwy o ran seis am mai rhein fydd yn mynd yn ôl gyntaf. Nid oes ganddoch eisiau mynd mynd â nhw yn rhy bell ac maent yn drymach.
Mi allwch roi’r rhein ar ben y cerrig agosaf atoch chi, ond os oes carreg fawr yn y sylfaen, dim byd yn bod arni, does dim pwynt wastio nerth ac amser yn ei symud. Ni fydd carreg sylfaen fyth yr un fath ar ôl ei styrbio, am ei bod wedi gwneud gwely iddi ei hun o dan bwysa a dŵr wedi mynd o’i hamgylch ar hyd y blynyddoedd. Rŵan mae’n rhaid gwastadu sylfaen a gofalu fod popeth yn saff i’r dde ac i’r chwith, rhaf ofn i chi gael damwain gyda cherrig yn cwympo, tra bo chi a’ch pen i lawr yn y sylfaen. Ni fyddwch yn gweld waliwr gyda helmed er ei fod yn gweithio ar ei ben ei hun mewn lle anghysbell.
Ar ôl tynnu i lawr, trefnu a chlirio, mae eisiau meddwl am ei hailadeiladu. Y cam cyntaf yw gosod rhif o binnau, dwy bob pen i’r ddwy ochr wedi eu curo i’r ddaear. Mi allwch iwsio coed mewn llawer lle. Lle mae’n g’regog, mae pinnau haearn yn gweithio’n well.
Mi allwch roi llinyn i ddal y ddau dop at ei gilydd i ddangos lled y wal. A bod rhaid i’r pinnau gael eu gosod yn lletach na’r wal , fydd yn nodi lled y wal, lled y bwlch yn y ddau ben. Mae’r wal yn dal y pinnau i batrwm y wal. Os ydi’r wal yn gorwedd un ffordd, mi fydd hyn yn gywir hefyd. Mae yna ffordd arall os nad ydych eisiau iwshi llinyn ar draws. Mi allwch iwsio pedwar coedyn – dau bob pen gyda thyllai ynddynt; ac mi fedrwch iwsio pwltiau a nyts adenydd a’u clampio.
Flynyddoedd yn ôl, mi roeddwn yn walio heb leins, ond heddiw am fy mod yn dysgu pobl eraill, mae’n rhaid iwsio leins. Rwan mae eisiau gosod dwy lein, pob ochr i’r wal. Ochr i mewn, i wyneb y pegiau ar lefel y glaswellt, mor dynn â phosib. Mae neilon da yn well na llinyn bêl a chotwm. Erbyn hyn mae’n amser cymryd paned bach a sythu’r cefn. Mi rydych wedi rhoi llawer o oriau i mewn yn barod ac wedi codi tunelli o gerrig.
Ar ôl y seibiant bach:
Gwynebu sylfaen – Pan fyddwch yn gosod sylfaen, mi fyddwch yn chwilio am y garreg fwyaf a allwch ei gweld, a gweithio i lawr yn ôl y seisys. Wrth iwsio’r cerrig mawr i gyd yn y dechrau, ni fydd gennych broblem yn y diwedd, gyda cherrig ar ôl ar y ddaear neu brinder cerrig. Byddwn yn gosod pob carreg â’i phen i mewn, yn ei hyd ac ar ei chyllall.
Mae pob carreg i fod i orfadd yn dynn ar y ddaear heb binio o tanynt o gwbwl. Os gallwch gadw top sylfaen yn wastad, mi fydd yn gwneud pethau yn well pan ddaw’n amser ffitio cerrig mawr eraill i gloi ar draws. Ar ôl rhoi cerrig sylfaen i mewn y ddwy ochr, mae eisiau pacio’r canol gyda cherrig mân ar eu fflat ac ar draws os oes posib. Nid ar eu hyd, a byth drwy roi’r cerrig ar eu cyllyll. Peidiwch byth â’u taflu i mewn chwaith. Mae’n rhaid gosod hefo llaw. Cofiwch godi pob plyg (rhesiad o gerrig) o ben i ben a chau y canol cyn codi y cwrs nesaf o hyd. Pan ydym yn adeiladu wal, mae’n rhaid cael un garreg ar ddwy a dwy am un!
Ar ôl hynny, mae gan bawb ei ffordd bach ei hun o godi. Fy nghyfrinach fy hun yw hyn codi dwy linell arall fel bo gen i ddwy linell bob ochr; gadael y ddwy isaf ar y ddaear a chodi dwy o’ch blaen o hyd. Mae’n rhaid rhoi eich llygaid o’r lein uchaf at i lawr, ac mi fydd y llinellau yn dweud wrthrych os ydych ormod i mewn neu allan a’ch helpu i gadw gwaelod cerrig yn wastad.
Mae gan bob carreg ben a thin. Mae hyn yn golygu fod gwyneb y garreg yn rhedag un ffordd. Os gosodwch garreg y ffordd anghywir, mi fyddwch yn creu stepan yn wyneb y wal, ac yn tynnu dŵr, gan ei gwanio hi.
Mi ddylai wal garreg fod fel ochr cwch. Os gosodir y cerrig y ffordd gywir, mi fydd yn dilyn y llinellau. Hefyd, mae’n bwysig nad ydych yn pinio yn gwyneb y wal, am fod pinnau yn disgyn allan wrth i’r ddaear symud dan bwysau tractorau mawr ac ati.
Os bydd rhaid rhoi pin yn y wal, yr hyn fyswn i’n ei awgrymu fysa rhoi’r pin hiraf y medrwch gael gafael arni, mor bell â phosib at i mewn. Mi geith fwy o waith i ddod yn rhydd ac ni allith godi yn hawdd. Os bydd yn trio codi mi fydd y pen ôl yn twjad y garreg uwch ben. Y ffordd orau o binio ydi pinio bob amser o dan ben ôl pob carreg yng nghanol y wal, ac os oes cynhyrfiad, mi fyddant yn rhy sownd i ddisgyn allan ohoni.
Wrth ei chodi, bydd rhaid trio gwastadu’r wal ar ôl cyrraedd tua 21 uchder o fodfeddi i’r lle agosaf y gwneith y cerrig pwythi gyrraedd yn llawn drwy led y wal, gan ddod drwodd i’r ddau wyneb. Mae’n rhaid i’r rhein fod yn dew, yn gryf heb ddim math o wendidau ynddyn nhw. Mae’n rhaid eu goosd yn wastad. Mae’r rhein yn bwysig fel pwyth i gadw’r ddau wyneb at ei gilydd, ac mae’n rhaid cau otanynt yn fanwl rhag iddynt dorri, hefo’r holl bwysau fydd yn cael ei roi ar eu pennau.
Bob hyn a hyn, mae’n talu i sefyll yn ôl dipyn o lathenni pob ochr i’r wal gan fod rhywun yn rhy agos ati wrth walio. Mi allwch weld os ydi’r llinellau yn syth ac os oes gwendid ynddi. Dal ati i godi yn ôl ei drefn: dwy garreg ar ben ei gilydd i ddod yn lefel, a charreg fawr agosaf iddynt os oes rhaid croesi wedyn – cheith hi ddim bod yn dair.
Nid wyf yn credu mewn cael waliau rhy dynn. Mae’n llawer gwell cael ambell dwll bach i’r eira a’r gwyntoedd cryfion fynd trwyddynt, rhag iddi luwchio ac i’r defaid gael eu trapio yn y gaeaf, er na welais i eira mawr ers tipyn o flynyddoedd bellach.
Mae ffordd o godi o lefal cerrig pwythi yn y wal, yr un fath â’r drefn o godi’r hanner isaf. Os ydi’r wal yn uchel iawn, bydd rhaid rhoi rhagor o gerrig pwythi ynddi. Mi fydd y rheini yn dechrau ar lefel 42 o fodfeddi o lefal y llawr yn lle 21, ond fyddan nhw ddim gyferbyn â’r cerrig pwythi isaf. Mi allwch roi dau tri chwarter yn canlyn ei gilydd os nad oes ganddoch gerrig i ffitio llawn lled y wal.
Ar ôl cyrraedd ei huchder, bydd rhaid gwastadu top y wal. Os ydi’r tir yn rhedeg yn wastad dydi o ddim gwahaniaeth pa ben y byddwn yn gosod y copa. Ond os bydd y tir ar lechwedd, a’r llechwedd yn rhedeg gyda’r wal, y ffordd saffa a’r ffordd orau yw gosod y copa o’r ochr isaf, neu byddent yn disgyn yn ôl fel pac o gardiau. Y ffordd orau i nôl y cerrig copa yw wysg eich ochr, gan ddod yn ôl wysg eich ochr hefyd. Mae hyn yn golygu nad ydych yn troi rownd a rownd mewn cylchoedd. Rhowch eich clun yn erbyn y wal a’ch pen elin ar y wal i osod y copa. Ar ôl gosod y copa, mi fydd yn rhaid wejo yn sownd.
Ar ôl hynny, mae’n rhaid tynnu’r pinnau a’r leins a thwtio ar eich ôl. Pe baech wedi gorfod malu cerrig, bydd llawer mwy o waith clirio. Os nad ydych wedi bod yn torri, a’ch bod yn cadw’r lliwiau yn gywir, ni fedr neb ddeud y gwahaniaeth yn y wal ar ôl ichi godi bwlch.
Mae trwsio wal fel trwsio fan yn y garej ar ôl damwain – bydd y cwsmer yn disgwyl cael y lliw yn gywir. Os ydi’r lliw yn gywir ac yn matchio yr hen wal, fedrwch chi ddim gweld y gwahaniaeth. Trwsio ydi trwsio; wal newydd ydi wal newydd.