Iechyd da!

Cwrw budur, meddw gaib, meddw shitrins, lawr y lôn goch, yfed heb dwtshyd yr ochr, clecio, dim troed dano…

“Tybed faint ohonoch chi sydd erioed wedi meddwl am yr holl eiriau a dywediadau sy’n troi o amgylch tŷ tafarn a byd y ddiod?” Dyna holodd Myrddin ap Dafydd yn ei erthygl gyntaf o gyfres ar ‘Iaith Potio’ yn y chweched rhifyn o Llafar Gwlad. Darllenwch yr erthygl ddifyr honno yma. Mae sawl un wedi cyfrannu i Llafar Gwlad dros y blynyddoedd ond wn i ddim am neb gwell i ysgrifennu’r erthyglau ar ‘Iaith Potio’ na Myrddin. Dylan Jones gyflwynodd Myrddin ap Dafydd fel ‘BBC’ ar Radio Cymru: ‘Bardd, Bragwr a C(h)yhoeddwr’. Tybed ai ymchwilio i eiriau a dywediadau tŷ tafarn wnaeth ysgogi Myrddin i gychwyn y fenter Cwrw Llŷn? Byddai’r stori tu ôl i’r fenter honno yn destun erthygl ddifyr arall…

Ond, i fynd yn nôl at ‘Iaith Potio’, atebodd Fred Williams, Wrexham Lager i gais Myrddin am fwy o eiriau a dywediadau. Dyma ddywedodd o:

Enw a arferir am ‘King Pin Bitter’ yng Nghaernarfon yw Ceiliog Dandi. Hefyd clywir Dai Dwbwl am ‘Double Diamond’. Yng Nghaernarfon eto, y gair am fol cwrw yw bol lysh, ac os yw rhywun wedi mynd am beint, yna dywedir ei fod wedi mynd i gael mwy o’r ffisig coch. Ar y llaw arall, os mai stowt neu meild yw diod y dyn, dywedir ei fod yn yfed Grefi Browning. Term a ddefnyddid os byddai rhywun wedi yfed gormod ac wedi taflu i fyny oedd dweud ei fod wedi troi’r drol. Os nad oedd gan rywun ’mond digon o bres i gael un glasiad, yna doedd ganddo ddim ond digon i godi’r gliced. Petai rhywun yn mynd i dafarn Gors Bach, ger Bethel, flynyddoedd yn ôl, mi fuasai’n gweld bod y ciperiaid i gyd yn yfed gyda’i gilydd mewn ystafell ar wahân i’r bobl gyffredin, a dywedai’r werin amdanynt, eu bod yn yfed yn y sbriws. Os oedd rhywun wedi dal annwyd, a hwnnw’n selog wrth y bar fel rheol, dywedid fod wedi bod yn yfed o wydrau gwlyb!

Roedd Fred hefyd am ein hatgoffa o rai o’r termau am wahanol gymysgfeydd o ddiodydd –

Blac an’ Tan – Guinness a bityr
Boilar Mêcyr – Meild a bityr
Snec-beit – Lager a seidar
Peint o ‘Chinese’ – Lager a bityr
Famous-leg-opener – Pony (i ferched wrth gwrs!)
enwogion tafarn sinc

Cefais flas ar rai o dermau Dyfed (Llafar Gwlad, 77). Yno, ar y Preseli, y mae’r dafarn enwog Y Dafarn Sinc wrth gwrs – lle enwog am ei Chymreictod. Bûm yno’r haf diwethaf- profiad a hanner. Llwch lli dan draed, Iwcs a Doyle yn chwarae o’r peiriant Cd, cyfrolau o gerddi ar silffoedd a lluniau o enwogion Cymru oedd wedi ymweld â’r dafarn ar y waliau.

Ches i ddim cyfle i ymweld â thafarn Bessie, neu’r Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun. Yn y dafarn honno, y daeth Myrddin ar draws y term Mabinogaidd ei naws plethad am y tro cyntaf. Gofyn i bostman o Abergwaun pam ei fod yn crwydro yno i Dafarn Bessie am ei beint wnaeth Myrddin a’r ateb amwys oedd: ‘I gael plethad!’

Mae’n rhaid bod y cwrw casgen a werthir o’r gegin yno yn medru creu clymau Celtaidd o’r ymennydd mwyaf caled cyn bo diwedd y nos, ond roedd y ‘plethad’ a soniai amdano yn nes at y ‘crac’ Gwyddelig na dim arall a glywodd Myrddin yn y Gymraeg. Yn ei eiriau ef – “cwmni, straeon, tynnu coes, cwrw, cariad – y cyfan wedi’u plethu drwy’i gilydd i greu noson lawen iawn oedd yn cael ei gyfleu gan y gair.”

Chi arbenigwyr gwin, efallai y byddwch chi yn cael blas ar yr erthygl ‘Geiriau gwych wrth garu gwin’ (Llafar Gwlad, 78). Darllenwch yma. Ond os ydych chi fel finnau yn dioddef o ‘hangofyr’ gwael ar ôl gwin, yna gwell fyddai peidio darllen! A sôn am ‘hangofyr’; difyr oedd darllen ‘Iaith Potio’ Llafar Gwlad, 79 am rhai o’r geiriau Cymraeg am ‘hangofyr’. Mae pen mawr yn ymadrodd cyffredin iawn. Bathodd scriptwyr C’mon Midffîld yr ymadrodd da ‘Penmaenmawr.’ Tybed oes gennych chi ymadroddion eich hunain? Glywsoch chi am rai o’r rhain?

  • Mae gen i dri phen yn lle un
  • Mae gen i benglog
  • Mae’r ordd yn curo heddiw
  • Mae gen i gnoc

Os ydych chi’n dioddef o symptomau penodol, ydych chi erioed wedi defnyddio rhai o’r ymadroddion hyn?

  • Dwi’n teimlo fel cadach
  • Teimlo’n wantan
  • Wyneb yn llwyd fatha llymru
  • Mae gen i geg fel nyth cath/ fel cesail arth/ fel twll tin ffurat/ fel caij bwji
  • Dwi wedi llyncu draenog (am boen bol)
  • Mae gen i dipyn o Gantre’r Gwaelod! (dywediad da am y difrod a wna diod ar y pen isaf! Addas iawn hefyd o gofio fod Seithennyn yn dipyn o feddwyn!)

Ie, peth cas ydi anghytuno â’r gasgen. Mae ‘na ddigon wedi’n rhybuddio rhag cyffwrdd y ddiod gadarn wrth gwrs. Wedi cael baw neithiwr mae o oedd dywediad meinars y Rhiw, Llŷn am John Cae Person, Llanrwst oedd yn feddwyn adnabyddus yn y pyllau mwyn yno. Gwlith y diafol sy’n ddywediad arall o Lŷn am ddiod – am rym y Capten Morgan yr arferid hwnnw ym Mhwllheli ers talwm.

Cofiwch gysylltu os gwyddoch chi am eiriau neu ymadroddion eraill yn gysylltiedig ag yfed. Wyddoch chi am arwyddair a gysylltir â thafarn arbennig? Cofiwn am ‘Allwedd calon, Cwrw da’ sydd i’w weld ar ddrws y Llew Aur, Dinbych. Neu beth am enwau’r tafarndai? Wyddoch chi am y stori tu ôl i enw tafarn benodol? A oes gennych chi rigwm, pennill neu englyn am dafarn, neu yn enwi tafarn tybed? Cofiwn am

Tri thafarndy sy’n Nhre-fin
Y Ship, y Swan a Fiddler’s Green.

 Neu’r rhigwm hwn a gyfansoddwyd mae’n debyg am y dafarn enwog ar lan y dŵr, Tŷ Coch –

Ym Mhorthdinllaen mae cwrw llwyd,
sydd yn ddiod ac yn fwyd.
Yfais inna lond fy mol
Nes own i’n troi fel olwyn trol.

Da chi, cysylltwch â ni – iechyd da bawb!

Codi bwlch mewn wal gerrig sych

Alaw Jones. 76 (Mai 2002), t.6

Y ffordd orau i ddechrau dysgu codi wal gerrig sych yw drwy godi bwlch yng nghanol wal. Mi allwch ddilyn y ddwy ochr o boptu’r bwlch ac mi fydd hynny yn rhoi patrwm ichi.

Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych os oes stoc ar y tir, ac a oes perig o amgylch lle’r ydych yn mynd i weithio. Y camau nesaf fydd:

trefnu’r cerrig copa – os ydi’r tir yn uwch un ochr rhowch y cerrig copa yr ochr uchaf tua 8 i 10 troedfedd oddi wrth y wal. Byddant yn sgafnach i’w codi yn ôl ar ben y wal o’r ochr honno. Mae’n rhaid gosod y cerrig copa yn syth at i fyny ac yn dynn at ei gilydd ar y glaswellt fel eu bod nhw’n edrych fel petaent ar y wal, ac yna byddwch yn siŵr fod ganddoch ddigon i gau’r bwlch. Cyn ailgodi bwlch, mae’n rhaid gadael dwy droedfedd o boptu i’r wal yn lle clir a saff i weithio yn gyffyrddus ynddo heb fod tocynnau bach yn erbyn y wal yn y ddau ben. Byddai hynny yn berrig pe bai rhywbeth yn digwydd a chithau eisiau neidio o’r ffordd.

trefnu gweddill y cerrig – Am fod gan wal ddau wyneb, mae angen dosbarthu cerrig i’r ddwy ochr, hanner yn hanner o boptu iddi. Mae’n bwysig nad taflu cerrig wnewch chi ond eu cario i’w llefydd fel buasech yn trefnu darnau o injan car, neu dynnu watch oddi wrth ei gilydd. Yn y wal, mi ddowch ar draws cerrig pwythi sy’n ymestyn o ochr i ochr yn y wal. Mae’r rhain yn bwysig iawn. Os nad oes cerrig llawn lled wal i wneud cerrig pwyth mi allwch ddefnyddio trichwarteri – dau fel pâr. Mae eisiau llathan rhwng pop pâr yn hyd y wal. Pan ddowch ar eu traws, rhowch nhw ar y ddaear agosaf i’r copa a gofalwch fod ganddoch ddigon ohonynt a’u bod yn gryf. Mae’n well fod yna ormod na rhy ychydig ohonynt.

Ar ôl sortio y cerrig pwythi, mae’n rhaid cael trefn ar y cerrig gwebu (gwynebu) a llanw. Y ffordd orau i wneud yw mynd â’r cerrig fasech yn meddwl fod yn perthyn i’r hanner uchaf yn wastad ar y tir gosaf i’r cerrig copa. Pob un ar ei phen ei hun. Peidiwch â rhoi cerrig ar dop ei gilydd a chadwch wyneb y cerrig tuag atoch chi. Pan fyddwch yn ailadeiladu, byddwch yn gweld y garreg wrth droi rownd oddi wrth y wal. Fel arfer, mi welwch ôl y tywydd a thyfiant arni.

Yn y wal, mi ddewch ar draws gerrig mân yn y canol. Yr enw ar y rhain yw uwd neu gerrig llanw. Rhowch y rhein mewn tir thwmpath – oboptu’r ochr i’r wal a rhyw ddwy droedfedd oddi wrth gwyneb y wal. Nid oes lliw tywydd ar y rhain. Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i’r rhein fynd yn ôl i’r canol.

cerrig sylfaen – cerrig mwy o ran seis am mai rhein fydd yn mynd yn ôl gyntaf. Nid oes ganddoch eisiau mynd mynd â nhw yn rhy bell ac maent yn drymach.

Mi allwch roi’r rhein ar ben y cerrig agosaf atoch chi, ond os oes carreg fawr yn y sylfaen, dim byd yn bod arni, does dim pwynt wastio nerth ac amser yn ei symud. Ni fydd carreg sylfaen fyth yr un fath ar ôl ei styrbio, am ei bod wedi gwneud gwely iddi ei hun o dan bwysa a dŵr wedi mynd o’i hamgylch ar hyd y blynyddoedd. Rŵan mae’n rhaid gwastadu sylfaen a gofalu fod popeth yn saff i’r dde ac i’r chwith, rhaf ofn i chi gael damwain gyda cherrig yn cwympo, tra bo chi a’ch pen i lawr yn y sylfaen. Ni fyddwch yn gweld waliwr gyda helmed er ei fod yn gweithio ar ei ben ei hun mewn lle anghysbell.

Ar ôl tynnu i lawr, trefnu a chlirio, mae eisiau meddwl am ei hailadeiladu. Y cam cyntaf yw gosod rhif o binnau, dwy bob pen i’r ddwy ochr wedi eu curo i’r ddaear. Mi allwch iwsio coed mewn llawer lle. Lle mae’n g’regog, mae pinnau haearn yn gweithio’n well.

Mi allwch roi llinyn i ddal y ddau dop at ei gilydd i ddangos lled y wal. A bod rhaid i’r pinnau gael eu gosod yn lletach na’r wal , fydd yn nodi lled y wal, lled y bwlch yn y ddau ben. Mae’r wal yn dal y pinnau i batrwm y wal. Os ydi’r wal yn gorwedd un ffordd, mi fydd hyn yn gywir hefyd. Mae yna ffordd arall os nad ydych eisiau iwshi llinyn ar draws. Mi allwch iwsio pedwar coedyn – dau bob pen gyda thyllai ynddynt; ac mi fedrwch iwsio pwltiau a nyts adenydd a’u clampio.

Flynyddoedd yn ôl, mi roeddwn yn walio heb leins, ond heddiw am fy mod yn dysgu pobl eraill, mae’n rhaid iwsio leins. Rwan mae eisiau gosod dwy lein, pob ochr i’r wal. Ochr i mewn, i wyneb y pegiau ar lefel y glaswellt, mor dynn â phosib. Mae neilon da yn well na llinyn bêl a chotwm. Erbyn hyn mae’n amser cymryd paned bach a sythu’r cefn. Mi rydych wedi rhoi llawer o oriau i mewn yn barod ac wedi codi tunelli o gerrig.

Ar ôl y seibiant bach:

Gwynebu sylfaen – Pan fyddwch yn gosod sylfaen, mi fyddwch yn chwilio am y garreg fwyaf a allwch ei gweld, a gweithio i lawr yn ôl y seisys. Wrth iwsio’r cerrig mawr i gyd yn y dechrau, ni fydd gennych broblem yn y diwedd, gyda cherrig ar ôl ar y ddaear neu brinder cerrig. Byddwn yn gosod pob carreg â’i phen i mewn, yn ei hyd ac ar ei chyllall.

Mae pob carreg i fod i orfadd yn dynn ar y ddaear heb binio o tanynt o gwbwl. Os gallwch gadw top sylfaen yn wastad, mi fydd yn gwneud pethau yn well pan ddaw’n amser ffitio cerrig mawr eraill i gloi ar draws. Ar ôl rhoi cerrig sylfaen i mewn y ddwy ochr, mae eisiau pacio’r canol gyda cherrig mân ar eu fflat ac ar draws os oes posib. Nid ar eu hyd, a byth drwy roi’r cerrig ar eu cyllyll. Peidiwch byth â’u taflu i mewn chwaith. Mae’n rhaid gosod hefo llaw. Cofiwch godi pob plyg (rhesiad o gerrig) o ben i ben a chau y canol cyn codi y cwrs nesaf o hyd. Pan ydym yn adeiladu wal, mae’n rhaid cael un garreg ar ddwy a dwy am un!

Ar ôl hynny, mae gan bawb ei ffordd bach ei hun o godi. Fy nghyfrinach fy hun yw hyn codi dwy linell arall fel bo gen i ddwy linell bob ochr; gadael y ddwy isaf ar y ddaear a chodi dwy o’ch blaen o hyd. Mae’n rhaid rhoi eich llygaid o’r lein uchaf at i lawr, ac mi fydd y llinellau yn dweud wrthrych os ydych ormod i mewn neu allan a’ch helpu i gadw gwaelod cerrig yn wastad.

Mae gan bob carreg ben a thin. Mae hyn yn golygu fod gwyneb y garreg yn rhedag un ffordd. Os gosodwch garreg y ffordd anghywir, mi fyddwch yn creu stepan yn wyneb y wal, ac yn tynnu dŵr, gan ei gwanio hi.

Mi ddylai wal garreg fod fel ochr cwch. Os gosodir y cerrig y ffordd gywir, mi fydd yn dilyn y llinellau. Hefyd, mae’n bwysig nad ydych yn pinio yn gwyneb y wal, am fod pinnau yn disgyn allan wrth i’r ddaear symud dan bwysau tractorau mawr ac ati.

Os bydd rhaid rhoi pin yn y wal, yr hyn fyswn i’n ei awgrymu fysa rhoi’r pin hiraf y medrwch gael gafael arni, mor bell â phosib at i mewn. Mi geith fwy o waith i ddod yn rhydd ac ni allith godi yn hawdd. Os bydd yn trio codi mi fydd y pen ôl yn twjad y garreg uwch ben. Y ffordd orau o binio ydi pinio bob amser o dan ben ôl pob carreg yng nghanol y wal, ac os oes cynhyrfiad, mi fyddant yn rhy sownd i ddisgyn allan ohoni.

Wrth ei chodi, bydd rhaid trio gwastadu’r wal ar ôl cyrraedd tua 21 uchder o fodfeddi i’r lle agosaf y gwneith y cerrig pwythi gyrraedd yn llawn drwy led y wal, gan ddod drwodd i’r ddau wyneb. Mae’n rhaid i’r rhein fod yn dew, yn gryf heb ddim math o wendidau ynddyn nhw. Mae’n rhaid eu goosd yn wastad. Mae’r rhein yn bwysig fel pwyth i gadw’r ddau wyneb at ei gilydd, ac mae’n rhaid cau otanynt yn fanwl rhag iddynt dorri, hefo’r holl bwysau fydd yn cael ei roi ar eu pennau.

Bob hyn a hyn, mae’n talu i sefyll yn ôl dipyn o lathenni pob ochr i’r wal gan fod rhywun yn rhy agos ati wrth walio. Mi allwch weld os ydi’r llinellau yn syth ac os oes gwendid ynddi. Dal ati i godi yn ôl ei drefn: dwy garreg ar ben ei gilydd i ddod yn lefel, a charreg fawr agosaf iddynt os oes rhaid croesi wedyn – cheith hi ddim bod yn dair.

Nid wyf yn credu mewn cael waliau rhy dynn. Mae’n llawer gwell cael ambell dwll bach i’r eira a’r gwyntoedd cryfion fynd trwyddynt, rhag iddi luwchio ac i’r defaid gael eu trapio yn y gaeaf, er na welais i eira mawr ers tipyn o flynyddoedd bellach.

Mae ffordd o godi o lefal cerrig pwythi yn y wal, yr un fath â’r drefn o godi’r hanner isaf. Os ydi’r wal yn uchel iawn, bydd rhaid rhoi rhagor o gerrig pwythi ynddi. Mi fydd y rheini yn dechrau ar lefel 42 o fodfeddi o lefal y llawr yn lle 21, ond fyddan nhw ddim gyferbyn â’r cerrig pwythi isaf. Mi allwch roi dau tri chwarter yn canlyn ei gilydd os nad oes ganddoch gerrig i ffitio llawn lled y wal.

Ar ôl cyrraedd ei huchder, bydd rhaid gwastadu top y wal. Os ydi’r tir yn rhedeg yn wastad dydi o ddim gwahaniaeth pa ben y byddwn yn gosod y copa. Ond os bydd y tir ar lechwedd, a’r llechwedd yn rhedeg gyda’r wal, y ffordd saffa a’r ffordd orau yw gosod y copa o’r ochr isaf, neu byddent yn disgyn yn ôl fel pac o gardiau. Y ffordd orau i nôl y cerrig copa yw wysg eich ochr, gan ddod yn ôl wysg eich ochr hefyd. Mae hyn yn golygu nad ydych yn troi rownd a rownd mewn cylchoedd. Rhowch eich clun yn erbyn y wal a’ch pen elin ar y wal i osod y copa. Ar ôl gosod y copa, mi fydd yn rhaid wejo yn sownd.

Ar ôl hynny, mae’n rhaid tynnu’r pinnau a’r leins a thwtio ar eich ôl. Pe baech wedi gorfod malu cerrig, bydd llawer mwy o waith clirio. Os nad ydych wedi bod yn torri, a’ch bod yn cadw’r lliwiau yn gywir, ni fedr neb ddeud y gwahaniaeth yn y wal ar ôl ichi godi bwlch.

Mae trwsio wal fel trwsio fan yn y garej ar ôl damwain – bydd y cwsmer yn disgwyl cael y lliw yn gywir. Os ydi’r lliw yn gywir ac yn matchio yr hen wal, fedrwch chi ddim gweld y gwahaniaeth. Trwsio ydi trwsio; wal newydd ydi wal newydd.

Waliau cerrig a Waliwrs

Pobl Ardudwy, mae eich waliau cerrig chi yn harddach na waliau cerrig Arfon – mae yna ryw linynnau arian yn britho eich waliau chi. Pobl Arfon, mae’n ddrwg gen i ond mae eich waliau cerrig chi yn fwy pŵl a llwydaidd… Ond ai wal yw wal a pha wahaniaeth sydd yna, ac yn fwy na dim sut wnes i feddwl trafod waliau? Edrych ar glawr Rhifyn 76 o Llafar Gwlad wnes i ac arno mae llun o ddau yn cau bwlch mewn wal gerrig yn Eryri yn 2002 ac yna naw mlynedd yn ddiweddarach yn 2011, yn Rhifyn 113, ceir llun da, mewn lliw y tro hwn, o griw hogia’r walia yn Ysgol Botwnnog.

walio cynt

walia

Cyfeirio at Ras Aredig Sarn a’r cydweithio clos rhwng Cymdeithas Ras Aredig Llŷn, Ysgol Botwnnog a Chymunedau’n Gyntaf a wneir yn yr erthygl yn rhifyn 113 a bod criw o hogiau yn cystadlu ar gystadleuaeth i waliwrs ifanc yno. Noddwyd dau brynhawn o hyfforddiant i bobl ifanc yn yr ysgol “gan godi brwdfrydedd yn yr hen grefft.” Gwlad y cloddiau yn hytrach na waliau yn bennaf yw Llŷn ac mae Gruffydd Parri yn rhyw led dynnu sylw at hynny yn Crwydro Llŷn ac Eifionydd wrth sôn am ardal Garn Fadrun. Meddai – “mae cymeriad y wlad yn newid am ychydig ac yn mynd yn foel a llwm. Mae cloddiau’r cerrig o bobtu’r ffordd yn debyg i gloddiau cerrig y mynyddoedd.” O gofio hyn da darllen bod deuddeg o ddechreuwyr wedi cystadlu a bod “graen arbennig ar eu gwaith.” Darllen wedyn rhifyn Ebrill 2015 o’r papur bro Llanw Llŷn a gweld bod waliwrs newydd yn dal ati i gystadlu.

Ysgrifennodd Alaw Jones yn Llafar Gwlad, 76 erthygl am ‘Godi Bwlch mewn wal gerrig sych’ (cliciwch yma i’w darllen). Ond petai un o’r waliwrs yn debygol o ddarllen yr erthygl hon, byddai’n dda pe baech yn nodi mewn deg pwynt bwled sut mae walio. Os nad ydyn nhw, chi athrawon sy’n darllen dyna i chi dasg gyfarwyddo bwrpasol i’w gosod yn y dosbarth. Beth amdani?

Ond cyn gorffen rhaid i mi ychwanegu un stori fyddwn i yn ei chlywed yn y gwasanaeth pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog – mae’n siŵr ei bod yn cael ei chyflwyno i ni yn ystod y cyfnod hyfforddiant walio. Cael ein hatgoffa fyddem ni am natur a chrefft gosod wal gerrig a beth oedd ei angen yn y gwactod rhwng y cerrig allanol amlwg ar y wyneb. Cerrig mân oedd yr ateb a heb y cerrig mân hyn ni fyddai’r wal yn sefyll. Aethpwyd ati wedyn i egluro gwerth pobl y cerrig mân mewn bywyd a chymdeithas. Ac wrth edrych ar waliau cerrig Arfon ac Ardudwy mae’n siŵr mai amaethwyr a chrefftwyr digon cyffredin fu wrthi yn eu codi, ond mae eu gwaith yno o hyd, yn rhan o bensaerniaeth gwlad yr ardaloedd hyn.

Enwau lleoedd

Do, mae’r “Cymry wedi cymryd diddordeb erioed yn eu milltir sgwâr. Maent hefyd wedi ymddiddori dros y canrifoedd yn enwau’r filltir sgwâr honno” fel y dywed Tomos Roberts yn yr erthygl ‘Tyst yw’r chwedl i’r enw’ yn Llafar Gwlad, 74. Fel yr awgryma’r teitl, olrhain cysylltiadau enwau lleoedd â chwedlau a wna’r erthygl.

Chi drigolion Tudweiliog, fe wyddoch chi mae’n siŵr am y chwedl onomastig i esbonio’r enw Tudweiliog. Dyfynnaf o Llên Gwerin Sir Gaernarfon

Tudweiliog sydd enw ar blwyf yn Lleyn, yn y gorphenol pell, pryd yr oedd yr holl arwynebedd rhwng Lleyn a’r Iwerddon yn fath o gorsdir ag y gellid ei dramwy ol a blaen ar droed. Dyma fel y bu, yn ol tystiolaeth ceidwadwyr llên a thraddodiad: Yr oedd Person Tudweiliog yn dal bwyoliaeth hefyd yn yr Ynys Werdd, Gwasanaeth yn Lleyn yn y boreu, a ffwrdd a’r Person ar gefn ei geffyl – Weiliog, tu hwnt i’r gors at wasanaeth y prynhawn. Adref at y gosber – ar y daith, suddai traed y ceffyl mewn rhai mannau, arafai hynny beth ar ei gerddediad, “toc a da” clywai y gwir parchedig gloch ei Lan yn galw ar y plwyfolion – fod amser dechreu’r gwasanaeth gerllaw, ac ebai ef yn ei ffrwst wrth ei geffyl, “Tud Weiliog!”

Medd Tomos Roberts – “y mae yma yn amlwg elfen gref o gelwydd golau, ond y mae yn y chwedl hedyn o wirionedd hefyd ac efallai fod yma enghraifft o gof gwerin yn ymestyn ymhell i’r gorffennol. Yr oedd tir sych yn cysylltu Cymru ac Iwerddon amser maith yn ôl. Y mae yn y chwedl hon adlais cryf o’r rhan honno ail gainc y Mabinogi lle mae’r cawr Bendigeidfran yn gallu cerdded o Gymru i Iwerddon a’r holl gerddorion offerynnol ar ei gefn gan nad oedd y môr yn fawr.”

Difyr, ynte? Difyr fod gan y Cymru eu ffordd eu hunain o esbonio enwau lleoedd. A sut mae esbonio’r enw ‘Tudweiliog’ go iawn gofynnwch? Yn ôl Ifor Williams enw person wedi goroesi mewn enw lle ydyw. Tudwal yw’r enw yma.

O.M.Edwards ddywedodd mai dagrau pethau yw nad ydym yn gwybod ystyr enwau lleoedd. Ysgododd hynny imi fynd ati i ymchwilio i enwau lleoedd yn fy milltir sgwâr. Dyma flas ar ambell un i chi –

  • Daron – Mae Daron yn enw cyffredin ym Mhen Llŷn. Yn ôl Ifor Williams, duwies nid duw, oedd Daron – duwies y dderwen. Difyr yw ychwanegu fod y Celtiaid yn Ffrainc yn arfer addoli duwiesau a elwid Dervonae.
  • Afon Dwyfor – Duwies eto “yn ddiamheuol” medd Ifor Williams fel yr afon Dwyfach.
  • LlangwnadlNant + gwnadl yn troi yn Langwnadl. Efallai bod rhai ohonoch wedi meddwl mai Llan Gwynhoedl sant ydyw, ond yn ôl Ifor Williams, Llanwnadl fyddai’r ffurf wedyn.
  • Botwnnog – Yr hen enw Bod-dywynnog. Dyma enghraifft o ddwy d yn taro yn erbyn ei gilydd ac yn rhoi t. Ond cofiwch sillafu yr enw’n gywir – does dim dwy t yn y Gymraeg – Botwnnog felly amdani.
  • Mochras –Mae traeth Mochras ym mhen draw bae Porth Mawr, Abersoch. Dyma ardal llawn tai haf a’r ymwelwyr yno, chwedl pobol Llŷn fel ‘chwain traeth.’ Ystyr? Bae neu benrhyn moch yn ôl Ifor Williams. Oni soniodd Saunders Lewis – “ac wele’r moch.” Rhy hwyr yn hanes Mochras mae arnaf ofn.
  • Sarn – Cerrig wedi eu gosod er mwyn hwyluso croesi afon neu gors wlyb. Ie, lle gwlyb yw Sarn Mellteyrn o hyd. Pentref bychan ydyw, y lleiaf yn Llŷn ond pentref â thair tafarn!
  • Fferm Coch y Moel – A’r ystyr? Llysenw oedd hwn ar berchennog y ffarm slawer dydd!
  • Yr Eifl – Mae Geraint Jones, Trefor, yn cynddeiriogi wrth glywed pobl ddiarth yn bedyddio’r mynydd hwn fel “the Rivals” ac yn ffromi bod tafarn o’r un enw yn Llanhaelhaearn. Beth yw ystyr yr Eifl felly? Golyga ‘y ddwy fforch’ – darlun da o’r mynydd hwn rhwng afon a llyn.
    Gafl yw fforch, y lluosog yw geifl. Felly nid lluosog yw Yr Eifl.
    Merch eofn oedd yn hoff o grwydro llethrau’r Eifl oedd y cymeriad Luned Bengoch yn y nofel o’r un enw gan Elisabeth Watkin Jones a biti na fyddai fforch yr Eifl yn codi ofn ar yr ymwelwyr hŷ sy’n tramwyo ar y ffordd sy’n rhedeg hyd ei godra am Ben Llŷn yn yr haf. Dywed rhai bod pobl Llŷn bron mor gysetlyd â phobl Môn a’u bod angen “passport i groesi’r Eifl!” Mae Gruffudd Parri, awdur y clasur Crwydro Llŷn ac Eifionydd, yn sôn mewn ysgrif yn y gyfrol Mân Sôn am hen ffarmwr o Lŷn yn rhoi ateb sydyn i rywun a ddywedodd wrtho fod Llŷn ymhell o bob man drwy ddweud mai “pob man arall sydd yn bell o Ben Llŷn.”
  • Bodegroes – Dyma gyrchfan sawl seleb o A. A. Gill hiliol a sarhaus i Siân Tywydd siriol a wendeg. Plasty ydyw ar gyrion Pwllheli a gollodd ei seren Michelin werthfawr yn ddiweddar. Gwell gan Gymry Llŷn dramwyo falla i Benlan ym Mhwllheli boed am chips mewn un siop neu bicio dros ffordd i’r dafarn enwog yn llawn lluniau o’r Ysgol Fomio a darllen soned ‘1937’ R. Williams Parry ar y muriau gwynglachog.
    Dywedir mai enw lluosog am ffrwyth y rhosyn gwyllt yw egroes ond mae Melville Richards yn gyndyn o’i dderbyn. Y mae am i ni ystyried bod+y+croes sydd yma. Y mae Glenda Carr yn sôn am y cyfeiriad cynharaf ar yr enw sef pethegoes a hynny yn 1352. Mae’n mynd i’r afael â damcaniaeth Melville Richards ac yn dod i gasgliad mai tŷ lle gwelir llawer o rosynod gwyllt ydyw. Ac o fynd yno mae’n llawn haeddu’r enw gyda’r rhosyn gwyllt yn “fil harddach” na’r llwyni dof eraill sydd yno.
  • Bodermid – Y mae sawl stori ysbryd yn gysylltiedig ag ardal Aberdaron megis y rhai am gŵn Annwn yn dilyn personiaid, Ysbryd Parwyd a’r rhai am fynachod Enlli ar y swnt.
    Beth am Bodermid? Yn ôl Glenda Carr dywed fod Bodermid yn ardal Anelog yn “hen enw”. Dywed mai’r gair ‘hermit’ yw ‘ermid’ yma, ac yr arferid defnyddio ermid am hermit. Dyfynna Lewis Glyn Cothi yn cyfeirio at frudiwr “Ieuan Ermit o Normant”. Gerllaw mae Porth Meudwy, y porth traddodiadol i groesi i Enlli. Pwy oedd hwn dybed?
  • Bodfel – Enwir Bodermid a Bodfel yn nofel Gwen Pritchard Jones a gipiodd y Daniel Owen yn 2006 sef Dygwyl Eneidiau. Mae Bodfel yn Llannor yn Llŷn. Ac ym Modfel yr aeth Gwen Pritchard Jones â’r darllenydd i noson o gyfeddach a dawns.
    Bod + mel yw’r ystyr? Na, dim honeyeyd dwelling – rhy ffansiol yn ôl Geraint Lewis. Awgrymodd Melville Richards mai enw personol Mael sydd yma neu enw cyffredin ‘mael’ sef tywysog. Tuedda Glenda Carr i gytuno ag ef. Bellach mae Bodvel Hall wedi gweld dyddiau gwell – testun nofel arall efallai?
  • Bodwyddog – Bu Wil Bodwyddog yn destun ysgrif gan Harri Parri yn ei lyfr Iaith Brain ac Awen Brudd. Dyma gymeriad ardal a fedrai iaith y brain. Ffermdy yn ardal Rhiw yw Bodwyddog ac fe geir Bodwyddog Fawr a Bach. Aeth Melville Richards ati i’w ddadansoddi fel hyn.
    Bod = preswylfa a gwyddfa = ansoddair gyda’r ystyr coediog. Diddorol – lle digon di-goed yw Llŷn ac eithrio coed Madrun a choed Nanhoron fu’n destun sawl telyneg ac ysgrif i’r Prif Lenor John Gruffydd Jones Abergele (Nanhoron gynt). Mae coed yn ardal Bodwyddog hefyd. Fodd bynnag fe gyflwynodd Melville Richards yr enw personol Gwyddog yma. Os felly dyma enw personol sydd wedi hen fynd.
  • Tywyn – Mae tywyn yn air cyffredin yn Gymraeg am draeth tywodlyd. Yn Llŷn fe geir Tywyn a Phorth-tywyn ger Tudweiliog. Sylwer fod tywyn yn cael ei sillafu gydag ‘y’ yn yr ail lythyren. Dyna sy’n gywir. Yn ei darddiad mae’r gair tywyn yn perthyn i’r gair tywod.

Newidwyd llawer o enwau dros dreigl amser. Ystumiwyd rhai er mwyn eu gwneud yn haws i’w hynganu er enghraifft mae’n haws dweud Berch am Abererch. Dywediad da yw hwnnw am rywun amleiriog “Yn mynd rownd Berch i gyrradd Pwllheli”. Rhaid bod pobl debyg ym Môn – sy’n mynd rownd Sir Fôn i ddweud eu stori nhw! Ac rwy’n siŵr fy mod innau ‘wedi mynd rownd Berch’ yn yr erthygl hon hefyd, ond peth felly yw olrhain enwau lleoedd. Cofiwch, os oes gennych chi enw, neu stori tu ôl i enw enw, cysylltwch â ni! Neu os am ddarllen am chwedlau onomastig darllenwch Llafar Gwlad 75 (t.10) a 76 (t.8).

Olwyn a Chloc

Gareth Maelor. 56 (Haf 1997), t.10

Mor wir y dywediad mai angen yw mam pob dyfais, ac o blith holl ddyfeisiadau y dyn cyntefig, yr olwyn mae’n debyg oedd y fwyaf syfrdanol a defnyddiol ohonynt i gyd. Mae’r olwynion hynaf sy’ mewn bodolaeth yn perthyn i ail hanner y bedwaredd fileniwn C.C.

Olwynion trol gyntefig yw y rhain ac fe’u darganfuwyd mewn beddau yn Kish a Susa ym Mesopotamia, beddau cenedl y Sumeriaid, cyn-dadau Abraham.

Maent yn olwynion syml wedi eu gwneud o dair ‘styllen yn cyd-gyfarfod yn y both a limpyn yn cloi’r olwyn wrth yr echel. Y ddamcaniaeth yw mai datblygiad o olwyn troell y crochenydd oedd yr olwynion troliau hyn. Ymhen amser daeth yr olwyn yn hanfodol i bob math o grefftwyr a gwaith, o’r turniwr i’r melinydd; o’r ffatri wlân i’r pwll glo, a’r saer olwynion yntau yn ffigwr o bwys mewn cymdeithas. Yn ei draethawd a’i gyfrol werthfawr ar ‘Ddiwydiannau Coll’, cyfeiria Bob Owen, Croesor at seiri troliau enwog Tremadog. Dywed i Nicadner ddilyn ei brentisiaeth gyda hwy. Tybed a oes rhywun bellach yng Nghymru yn gwneud ei fywoliaeth wrth ddilyn y grefft hon? Gwaetha’r modd tynnwyd pinnau o olwynion sawl crefft a galwedigaeth wledig.

Ychydig o bobl bellach sy’n atgyweirio clociau a phrinach byth yw gwneuthurwyr clociau. Bu adeg pan oedd atgyweirwyr clociau bron ym mhob ardal. Yn y pedwardegau roedd sawl un ym Mlaenau Ffestiniog, bro fy mebyd, yn fedrus fel atgyweirwyr clociau – rhai fel Evan Roberts, Tan y grisiau, ac Emrys Evans a’i frodyr yn y Manod wedyn.

Yn wahanol i Wil Bryan gwyddai y crefftwyr hyn am bwysigrwydd pob olwyn gocos a’u lleoliad. Yr olwyn gocos neu’r olwyn ddannedd yw’r fwyaf hynod o’r holl olwynion i gyd. Mor syml ac eto effeithiol yw’r ddyfais hon, dannedd un olwyn ynn cydio ym mylchau olwyn arall, a rhiciau both yr olwyn honno yn derbyn dannedd olwyn gocos arall eto, ac felly ymlaen o un olwyn i’r llall, a’r bysedd, y mawr a’r bach yn troi ac ufuddhau i symudiadau holl ddarnau cyfansoddiad yr hyn a elwir yn gloc. Mae peirianwaith cloc mor gymhleth â’r ddiffiniad ohono yn yr Encyclopedia Britannica:

‘Dyfais yw’r cloc sy’n gwneud symudiadau rheolaidd ac egwyl gyfartal rhwng pob symudiad, a chysylltir y ddyfais hon â mecanyddiaeth sy’n cadw cyfri’ o’r symudiadau hyn’

Boed hynny fel y bo, hawdd deall penbleth Wil Bryan wrth geisio lleoli gwahanol fathau o olwynion cloc a rhoi’r holl ddarnau yn ôl wrth ei gilydd. Fe berthyn i gloc olwynion piniwn neu olwynion cocos, olwynion cyd-bwysedd, olwynion-piniwn-bach ac olwynion clicied, heb sôn am ddarnau eraill a rhyw gyfaredd yn perthyn i enwau’r darnau i gyd: y pendil, pifod, pwysau a phaled, tafol a gwerthyd neu ‘spring’ a ‘spindle’, rhac, atalfar, clicied a cholyn. A bod yn fanwl-gywir rhaid hefyd wrth gloch cyn y gall y ddyfais hawlio’r enw cloc, oherwydd tarddiad Ffrangeg neu Almaeneg sydd i’r gair cloch, sef ‘cloche’ (Ffrangeg) a ‘glocke’ (Almaeneg) a olyga declyn sy’n cadw amser ac yn taro cloch i ddynodi amserau arbennig o’r dydd.

Daeth y cloc mecanyddol i Ewrop yn y drydedd ganrif ar ddeg a’i briod ddefnydd oedd nodi amserau gwasanaethau yn yr eglwysi, felly mae hanes y cloc capel yn hen iawn! Ceir cofnod am gloc yn abaty San Steffan yn 1288, yng nghadeirlan Caergaint yn 1292, ac yng nghadeirlan Sain Alban yn 1326. Y clociau hynaf mewn bodolaeth yw y rhai sydd yng nghadeirlan Caersallog (Salisbury) 1386, a Wells, 1392.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg daeth y cloc mawr, neu’r cloc hir neu’r cloc wyth niwrnod i fri yn Lloegr, ac erbyn y ddeunawfed ganrif roedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Un o nodweddion wyneb y cloc mawr oedd y lleuad symudol i ddynodi pryd y byddai’n lleuad llawn ac ati, a hefyd y llong a symudai ar donnau amser fel petai.

Erbyn heddiw mae’r cloc mawr sy’n perthyn i’r ddeunawfed ganrif yn werth llawer iawn o arian wrth gwrs. Ym mhlwy’ Trawsfynydd mae cloc hynod iawn sy mae’n debyg yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, ond nid cloc mawr mohono. Mae hwn yn rhan o bared stafell yn ffermdy’r Goppa, sef rhan o’r palis. O bosib, un o glociau y Goedwig Dduw ydyw, ardal enwog am wneuthurwyr clociau. Ar wyneb y cloc paentiwyd tirlun a choed sy’n gweddu i ardaloedd y Goedwig Ddu yn ne-orllewin yr Almaen. Yn 1702 eiddo teulu’r Parry, Llanrhaeadr Hall, Dinbych oedd y Goppa.

Nid oeddent yn byw yno eu hunain, gan mai gosod y tŷ i denantiaid a fyddent ond byddent yn ei ddefnyddio fel tŷ haf. Yn ôl Mrs Gwyneth Davies a’i mab Mr John Gwyn Davies, sy’n byw yn y Goppa, y tebygrwydd yw mai eiddo teulu’r Parry ydoedd yr hen ddodrefn sy’ yn y Goppa ynghyd â’r cloc arbennig hwn. Yr hyn a’i gwna yn unigryw yw fod ei berfedd i gyd wedi ei wneud o bren. Cynnwys ei grombil, pob echel, pifod, tafol ac ati, yr holl olwynion, rhai bach a mawr, olwynion clicied a chocos, y cwbwl oll wedi eu gwneud o bren. Tybed a oes ei debyg yng Nghymru? Credir mai cloc oedd hwn at iws morwynion a gweision y Goppa (a rheithor y plwy’ hefyd a fu’n byw yno unwaith), a dydd gwaith pob un ohonynt yn cael ei reoli gan fysedd pren yr hen gloc, a hwythau’r bysedd yn troi yn ôl symudiadau a rhod yr olwynion. Er mai ‘cloc dŵad’ a thramorwr o’r Goedwig Ddu ydoedd a ddaeth i Gymru tua dwy ganrif a hanner yn ôl, mae’r hen gloc wedi cymryd ei le ar aelwyd y Goppa ers cenedlaethau lawer, ac yn gloc Cymreig drwyddo draw o’i wyneb rhadlon i’w berfedd pren.

Os ydym yn berchen ar yr ‘hen wyth niwrnod’, wrth edmygu’r graen a’r wedd allanol sydd iddo peidiwn ag anghofio’r darnau cuddiedig o’i fewn, yn arbennig yr olwynion cocos sy’n cydio yn ei gilydd ac yn troi y naill a’r llall gan roi bywyd i’r cloc mawr.

Ceir pobl hefyd sy’n hynod debyg i’r olwynion hyn, y bobl hynny y cyfeirir atynt yn yr Apocryffa, yn Llyfr Ecclesiasticus fel ‘… rhai na fuont erioed… rhai nad oes iddynt goffadwriaeth’. Yn union fel yr olwynion dannedd, gweithio o’r golwg a wna y rhain hefyd, a’u cyfraniad diffwdan yn gyfrifol am droi rhod ac amgylchiadau bywyd i lawer ohonom.

Ie, yr olwyn mae’n debyg yw un o ddyfeisiadau mwyaf effeithiol dyn.

Olwyn a Chloc… a bocs talu

Darllenais yr erthygl ‘Olwyn a Chloc’ yn Rhifyn 56 o Llafar Gwlad gyda diddordeb gan mai fy nhaid Gareth Maelor a’i hysgrifennodd. Ynddi mae cyfeiriad at gloc hynod yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, oedd yn fferm y Goppa, Trawsfynydd. Ysgrifennwyd yr erthygl yn 1997 ac fe allwch ei darllen yma. Tybed ydy’r cloc yno o hyd?

Mae rhai teuluoedd yn ffodus bod ganddyn nhw greiriau teulu. Dic Goodman Jones yw awdur y soned sydd yn sôn amdano yn weindio hen gloc mawr y teulu fel y gwnaeth ei dad a’i daid o’i flaen. Does dim cloc mawr dresel fawr gymreig na chwpwrdd tridarn yn eiddo i’n teulu ni; mae rheiny wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain a dau hen daid wedi’u gwerthu i ddynion hel antiques oedd yn ymweld â thai ers stalwm gan feddwl y byddai cwpwrdd modern yn well o lawer. Syrthiodd y ddau i’r trap gan feddwl eu bod yn taro bargen â’r Saeeson hyn oedd yn hela tai am hen greiriau a bellach mae’r ddresel a’r llestri gleision wedi hen fynd dros glawdd Offa i rywle.

Na, does genni ddim crair na chreiriau gwerthfawr yn ein meddiant fel teulu ond mae gen i hwn

bocs chwarel

Be’ ‘dio? Bocs cyflog. Bocs dal cyflog prin John Samuel Jones, hen hen daid i mi. Gweithiai yn chwarel yr Oakley ym Mlaenau Ffestiniog ac roedd gan pob chwarelwr ddisg efydd a rhif arno. Ar ddiwrnod cyflog byddai’n cyflwyno ei ddisg i’r clerc cyflogau a byddai hwnnw yn rhoi iddo ei gyflog mewn bocs efo’r un rhif.

Amrywiai’r cyflog yn ôl y llechi a wnaed gan y chwarelwr. 208 oedd rhif bocs John Samuel Jones. Yn yr hen Lyfr Emynau geiriau agoriadol Emyn rhif 208 oedd –

“Dyma frawd a annwyd inni
Erbyn cledi a phob clwy…”

Geiriau addas i chwarelwr a wyddai am gledi gwaith a chlwy y garreg las.

Dyma grair arall sydd gennym fel teulu –

crair 2

Ond y tro hwn ni chofnodais beth ddywedodd fy nhaid amdano. Yr unig beth a gofiaf iddo ddweud amdano yw ei fod wedi dod o gartref perthynas i Hedd Wyn. Beth oedd ei bwrpas? Rhywbeth yn ymwneud â bara ceirch rwy’n amau. Tybed fedr rywun roi goleuni ar y mater? Ac wrth gwrs os oes gennych chwithau focs cyflog neu grair difyr arall sy’n perthyn i’ch teulu chi, rhowch wybod.

Graffiti

Anweledig ganodd – “Os dachi isio neud graffiti / gwnewch graffiti Cymraeg.” Ac ysgrifennu am graffiti, a graffiti Cymraeg yn arbennig a wnaeth Myrddin ap Dafydd yn Llafar Gwlad, 32. Fel y dywed Myrddin “yn ôl rhai, mae rhywbeth cyntefig, tiriogaethol yn perthyn i’r arfer o sgwennu graffiti.” Ac mi allai innau dystio i hynny; wedi prynhawn hir o baentio parlwr y tŷ yn 14 Ffordd Portland, Aberystwyth y llynedd, roedd fy ffrind a minnau am adael ein marc –

graffiti 2

Ydi, mae gadael marc fel hyn yn perthyn chwedl Myrddin “yn agos i gi sy’n codi’i goes ar geir, ar lampau ac ar goed er mwyn dangos mai ei batch bach o ydi’r tir hwnnw!” Cofia Myrddin iddo weld y geiriau “English visited Panti” gyda dyddiad oddi tano yn Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Er imi breswylio am ddwy flynedd ym Mhantycelyn, welais i erioed mo’r geiriau hynny – ond cyn symud o’r Neuadd ddwy flynedd yn ôl, roeddem fel criw o ffrindiau am adael ein hôl ar Bantycelyn. Crafodd pawb eu henwau ar eu drysau gyda’r flwyddyn oddi tano. Llwyddodd ambell un ohonom fynd ar y parapet a wir i chi mae ein henwau yno o hyd! Gwireddodd eraill uchelgais i ymweld â’r bar ym Mhantycelyn. Wrth gwrs, mae’r ‘bar’ hwnnw wedi ei gau ers blynyddoedd bellach ac er ceisio ‘torri fewn’ i’r bar ar ôl nosweithiau meddwol, dim ond ar ddiwedd fy nghyfnod ym Mhantycelyn y cefais weld y lle drosof fy hun. Erbyn hyn, lle storio matresi, cadeiriau a byrddau ydyw ond yr hyn a’m rhyfeddodd oedd bod y waliau wedi eu plastro â phosteri, enwau a sloganau gwahanol.

graffiti

posteri panty

Yn sicr, fe ddefnyddiwyd waliau Pantycelyn i gyhoeddi negeseuon gwleidyddol. Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld sawl cenhedlaeth o sloganau, o ‘Cofiwch Dryweryn’ i ‘Meibion Glyndŵr’. Cyfeiria Myrddin at un o’r rhai mwyaf gogleisiol sef honno a baentiwyd ar dro siarp ger Corris. “Caution” meddai’r paent, gair digon disgwyliedig ar dro o’r fath – ond wele’r ychwanegiad “Revolution in Progress”. 1969 oedd hynny. Tydi’r sgwennu ddim yno mwyach na’r wal chwaith.

Sonia Myrddin am graffiti gwleidyddol mewn gwledydd eraill hefyd. Dywed –

“Yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae talcenni tai wedi eu haddurno’n drawiadol gan ddarlunio’r gwahanol safbwyntiau gwleidyddol. Marcio’r diriogaeth unwaith eto, ond mae lle i sylw gwreiddiol, ysgafnach ar dro. Ar wal un tŷ, sgrialwyd y slogan “Throw well, throw shell” yn niwedd y chwedegau. Daeth yr hanes i glyw ffotograffydd newyddiadurol ond pan aeth ef yno i dynnu llun y graffiti, roedd y tŷ erbyn hynny wedi cael ei losgi i’r llawr.”

Mae’n werth dilyn yr #graffiticymraeg ar Twitter – yno fe welwch enghreifftiau o graffiti gwahanol ar draws Cymru – o ‘Twll tin y cwin’ i ‘Tom Jones am byth’. Yno, ymysg y lluniau fe welwch graffiti o’r geiriau ‘Cymru Rydd’ sydd i’w weld ar gopa Garn Boduan, ger Nefyn ym Mhen Llŷn. Byddaf yn cerdded yn wythnosol bron i Garn Boduan, a’r peth cyntaf a wnaf wrth gyrraedd y copa yw sefyll ar y slabyn carreg sydd wedi ei baentio â’r geiriau ‘Cymru Rydd.’ Efallai mai fi sy’n colli arni, ond byddaf yn teimlo rhyw wefr anhygoel bob tro o deimlo’r geiriau dan fy sawdl ac yna codi llygaid i weld Pen Llŷn yn agor fel llyfr o’m blaen.

cymru rydd

Wyddoch chi am fwy o graffiti fel hyn? Cofiwch yrru pwt neu lun os y gwyddoch am graffiti diddorol. Yn sicr, mae angen mwy o graffiti Cymraeg yng Nghymru. Holodd Myrddin pam fod cyn lleied o graffiti Cymraeg ar gael mewn tai bach? Gofynnodd ai “methu fforddio ffelt-pen neu fethu meddwl am ddim byd newydd i’w ddweud” ydym ni? Cyfeiriodd at un tŷ bach diddorol oedd yn llawn graffiti gwahanol sef tŷ bach yn yr Hen Lolfa yn Nhalybont. Dyfynnaf gasgliad o ddoethinebau’r muriau –

“Does dim graddau o fasdads” – G. Huws
Waeth iti garreg na thwll!” – S. Johnson
Dim myg i gyd yw Duw” – E. Pontshân
“Wa’th ti enjoio leiff mo’r dam bit” – D. Bontgoch
Pa leshad i ddyn os cyll efe yr holl fyd, ac ennill ei enaid ei hun” – Wil Sam

A dyma rai dienw oddi ar waliau yr un geudy prysur:

“Perffeithrwydd yw nod yr eilradd”
“Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd.”
“Y lleiafrif sydd wastad yn iawn”
“Bydd yn ymarferol – mynna’r amhosibl”
“Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch.”

Dyfynna Myrddin hefyd bennill gan Glyn Roberts a gyfansoddodd ar gyfer y Talwrn. A dyma fo i chi –

Pennill Graffiti
Ar wal y tŷ bach

Confucius a ddywedodd;
“Eistedd i lawr mewn hedd –
Os siglo y bo’r gadwyn
Cynhesach fydd y sedd.”

I gloi, dyma sôn am un graffiti sy’n dipyn o ffefryn gan Myrddin. Fel y gwyddoch, mae amryw o dai bach bellach yn cael eu paentio â phaent lympiog, glosi dros ben – paent gwrth-graffiti. Ond anghofiwyd paentio’r to mewn un o’r tai bach hyn ac arno mewn llythrennau mân, mân, yr oedd yn rhaid ymestyn ar flaenau’ch traed i graffu arnynt, oedd y geiriau hyn –

“Os wyt ti’n medru darllen hwn,
rwyt ti’n gwlychu dy esgidiau.”