Robin Gwyndaf. 86 (2014), t.12
Cael cyfle i adnabod trigolion mwyn Y Wladfa – braint nodedig iawn yw honno. A dyna’r fraint y cefais innau ei phrofi yn helaeth. O’r herwydd, mawr iawn fy nyled. Mawr iawn hefyd yw’r hyfrydwch yn awr o gael rhannu â’r darllenwyr ryw ronyn o gyfoeth diwylliant gwerin y Gwladfawyr.
Cyn bwrw ati i wneud hynny, fodd bynnag, gair o gyflwyniad am y ddolen a fu rhyngof i â’r Wladfa er yn ifanc iawn. Yn gyntaf, cael fy ngeni yn Yr Hafod, ffermdy mynyddig braf ym mhlwyf Llangwm, Uwchaled, a’r tŷ wedi’i adeiladu gan neb llai na Michael D Jones, prif sefydlydd y Wladfa Gymreig. Ond fe ddylwn ddweud: cael ei adeiladu gan Michael D Jones ac Ann Jones, ei briod. Y mae ei henw hithau ar y garreg a saif uwchben y drws ffrynt – carreg a gerfiwyd gan ‘Derfel’. Adeiladwyd y tŷ yn 1868, dair blynedd wedi sefydlu’r Wladfa. Sillafwyd enw’r tŷ fel hyn: ‘Rhavod, gyda ‘v’, nid ‘f’, gan ddilyn arfer y Gwladfawyr cynnar. Cof gennyf glywed fy mam yn sôn am ei thad yn cael ei gario yn flwydd oed o’r hen dŷ, Foty Arddwyfan, i Rhavod, y tŷ newydd, yn 1868. Adeiladwyd un tŷ arall hefyd yn yr ardal gan Ann a Michael D. Jones, sef Bryn Llys, ar gyrion plwyf Llanfihangel Glyn Myfyr.
Er mor anghysbell oedd ein cartref, deuai ymwelwyr lawer yno i’n gweld, yn gymdogion, cyfeillion a theulu. Ymhlith yr ymwelwyr cyson yr oedd ewyrth inni, Aneurin Hymphreys, Y Bala, a’i briod Eiddwen. Treuliodd hi ei phlentyndod yn Y Wladfa a bu’n rhannu â ni’r plant ar aelwyd Yr Hafod lawer iawn o’i hatgofion byw am y dyddiau difyr hynny ym Mhatagonia bell. Pan ddeuthum innau yn y man i ddarllen nofelau a storïau antur y cymwynaswr, R Bryn Williams, llyfrau megis Y March Coch (1954), Bandit yr Andes (1956), a Croesi’r Paith (1958), does ryfedd yn y byd imi gael blas anghyffredin arnynt.
Dathlu canmlwyddiant Y Wladfa
1865-1965
Yn 1965 ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Wladfa yn 1865 treuliodd oddeutu 70 o ‘bererinion’, fel y gelwid hwy, dair wythnos fendigedig ym Mhatagonia (22 Hydref- 2 Tachwedd 1965). Drwy haelioni Jenkyn Alban Davies, cynigiodd Cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru ysgoloriaeth i alluogi un person o dan 25 i ymuno yn y dathliadau. Dyna’r fraint fawr a gefais i, a bu’n brofiad bythgofiadwy: cael bod yn rhan annatod o’r dathliadau; cael cyfle i gofnodi hanes y dathlu mewn cyfres o ddeg ysgrif (ar ffurf llythyrau) yn Y Faner; cyfle i rannu peth o orfoledd y dathlu wedi hynny mewn sawl sgwrs a darlith hwnt ac yma yng Nghymru. Uwchlaw dim, cael y fraint amheuthun o gwrdd â phersonau lawer yn Y Wladfa a fu’n gyfeillion ffyddlon gydol fy mywyd – personau megis Tegai Roberts a’i chwaer Eluned Fychan (de Gonzales).
Ar gof a chadw: medi’r cynhaeaf a gosod cystadleuaeth arbennig i Gymry’r Wlafda
Hyfrydwch arbennig i mi fu cael gohebu’n gyson â’r cyfeillion hyn. Yn wir, arferwn fentro rhoi gwaith cartref i ambell un. Gofyn yn garedig iddynt roi ar gof a chadw ychydig o’u hatgofion gwerthfawr. Un o’r gohebwyr amlycaf oedd y diweddar annwyl Elisa Dimol de Davies, Tre-lew. Y mae ei llythyrau a’i hatgofion hi yn drysorau.
Gweld gwerth casgliadau niferus Elisa Dimol yn anad dim a roes imi’r syniad o osod cystadleuaeth flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol i rai sydd wedi byw yn Y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n parhau i fyw heddiw yn Ariannin. Cynigiwyd yr awgrym i Bwyllgor Llên Eisteddfod Caerdydd, 1978, ac rwy’n fythol ddyledus i’r Pwyllgor hwnnw am ei dderbyn. Yr un modd i Gyngor yr Eisteddfod, ac yn arbennig i Gymdeithas Cymry Ariannin, am sicrhau bod y gystadleuaeth hon yn parhau i gael ei chynnal yn flynyddol. Y Gymdeithas sy’n dewis y testun, y beirniad, ac yn noddi’r gystadleuaeth (er 1999: Gwobr Goffa Shân Emlyn).
Derbyniwyd chwe chasgliad ardderchog o atgofion ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Caerdydd, 1978, Y beirniad oedd R Bryn Williams, ac meddai am gasgliad ‘Gwenmai’ (Elisa Dimol De Davies):
‘Dywed yr ymgeisydd iddi gael ei geni yn Y Wladfa yn y flwyddyn 1895. Rhyfeddol yw fod gwraig sy’n dair a phedwar ugain mlwydd oed, ac na bu erioed yng Nghymru, mae’n debyg, wedi llwyddo i ysgrifennu cymaint, a hynny mewn Cymraeg mor raenus. Bydd cael detholiad o’r atgofion sydd yma yn werthfawr iawn.’
Y llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad mor gyfoethog i fywyd diwylliannol Y Wladfa, Irma Hughes de Jones, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Caerdydd. Cofiwn, er enghraifft, am y llinellau dwys sy’n cloi ei soned i Gymru:
Pan ddelo’r dydd i ysgwyd llaw â thi,
Rwy’n erfyn, Gymru fach, na’m sioma i.
Elisa Dimol de Davies oedd yn ail yn y gystadleuaeth, a Glyn Ceiriog Hughes yn drydydd. Cyhoeddwyd detholiad o’u gwaith hwy, ynghyd â’r tri chystadleuydd arall, mewn cyfrol werthfawr, Atgofion o Batagonia, wedi’i golygu gan R Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980). Cyhoeddwyd hefyd ddetholiad pellach o ffrwyth y gystadleuaeth flynyddol hon yn y gyfrol, Byw ym Mhatagonia, golygwyd gan Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993). Yn y blynyddoedd 2000, 2001 a 2003 enillydd y gystadleuaeth i’r Gwladfawyr oedd Gweneira Davies de Gonzales de Quevedo, Tre-lew, merch Elisa Dimol de Davies.
‘Cynffon y greadigaeth’: cyfoeth yr iaith lafar
A dyma yn awr gyflwyno ychydig enghreifftiau o lên gwerin Y Wladfa, deunydd a gofnodwyd gennyf yn bennaf yn ystod f’ymweliad â Phatagonia ar achlysur dathlu’r canmlwyddiant, Hydref – Tachwedd 1965. Yn gyntaf, peth o flas iaith lafar diddorol y Gwladfawyr, gan nodi’n unig ambell ddywediad:
- Tu hwnt i Hwntw (i gyfleu syndod a rhyfeddod).
- Llwch yn pannu fy nhrowsus.
- Mor hen â baco Shag.
- Dim amser i boeri.
- Cynffon y greadigaeth (i ddisgrifio lleoliad Patagonia).
Mewn anerchiad yng Nghapel Bethel, Trefelin, Cwm Hyfryd, adroddodd y Parchedig D J Peregrine stori am ddwy gath a fu’n ffraeo mor gas nes i rywun eu clymu ar lein ddilad gerfydd eu cynffonnau. Buont yn ffraeo ac ymladd cyhyd fel nad oedd yn y diwedd ddim ar ôl ond y ddwy gynffon! Ac meddai D J Peregrine: ‘Pan fydd y byd ’ma wedi gorffen cweryla, efallai na fyd dim ar ôl ond Gwlad yr Iâ a Phatagonia!’
Y mae’r Gwladfawyr, fel trigolion yr ‘Hen Wlad’ hwythau, yn hoff iawn o gyflwyno dywediad a dihareb yn gryno ar ffurf llinell o gynghanedd, cwpled neu bwt o rigwm. Dyma ddwy enghraifft. Cwpled mewn cynghanedd yn gyntaf.
Mae nerth-mawr mewn Northman;
Mae seithmwy mewn Sowthman!
(Fe ŵyr y cyfarwydd, wrth gwrs, fod angen – er mwyn y gynghanedd – ynghanu ‘nerth-mawr- uchod fel petai’n un gair, gyda’r acen ar y goben, y sillaf olaf ond un). A’r ail enghraifft, y rhigwm bach hwn.
Tre-lew, tre lwyd,
Digon o lwch a dim bwyd!
Ni wn pwy yw awdur y cwpled gogleisiol hwn, ond hyn a wn: fe gawsom ni’r ‘Pererinion’ fwy na digon o fwyd pan oeddem yn Nhrelew yn 1965, a dyna brofiad pawb o Gymru a fu yno wedi hynny, bid siŵr.
Yr unig fachgen ifanc arall ymhlith y fintai o Gymru ar achlysur dathlu’r canmlywddiant oedd Dafydd Wigley. Pan oddem yn Esquel yn yr Andes clywodd Dafydd a minnau Elvira Austin a rhai o ferched ifanc Cwm Hyfryd yn adrodd wrthym yn llawn hwyl a sbri nifer o ddywediadau Cymraeg a ddeilliodd yn bennaf o bosibl, o iaith Sbaeneg yr Archentwyr. Dyma ychydig enghreifftiau, cymariaethau gan fwyaf, a rheini yn rhai hwyliog braf.
- Mae’r blewyn teneuaf yn taflu cysgod ar lawr.
- Rhedeg y sgwarnog (chwilio am fwyd).
- Yn groes fel trot ci!
- Yn gas fel sachiad o gathod!
- Yn amheus fel caseg un llygad!
- Yn fyr fel cig mochyn!
- Yn llithrig fel ffon cigydd!
- Yn llithrig fel selsig mewn pistyll gwydr!
- Yn suddo fel botwm bol dyn tew!
- Yn dawel fel cath tafarn!
Ym Mhorth Madryn buom yn gweld rhai o’r ogofeydd lle bu’r Cymry yn cysgodi wedi’r fordaith hir ar y Mimosa a’r glanio cyntaf yn y wlad newydd. Ar ein taith yn ôl mewn bws o Borth Mardyn, cwrddais â henwr ifanc ei ysbryd, Elvan Thomas, Fron Goch, Gaiman. Wrth sgwrsio am lên gwerin dywedodd wrthyf â chadernid yn ei lais fod y Tylwyth Teg ‘wedi aros i gyd yn yr Hen Wlad’! Ond roedd llawer o’r brodorion – a rhai Cymry – yn parhau i gredu meddai, yn y ‘La Luz’ (‘Y Golau’). Ysbryd yw’r ‘golau’ hwn. Weithiau y mae’n ysbryd da. Dibynna’r cyfan ar y sawl â’i gwêl! Gwyddai trigolion Y Wladfa yn dda hefyd, meddai Elvan Thomas, am stori ‘Llyn y Gŵr Drwg’, ger Gaiman. Yn ôl yr hanes, suddodd dau geffyl ar y Paith sych a methu’n lân â chyrraedd y llyn i gael diod o ddŵr, er eu bod bron yn ymyl.
Yn Y Wladfa, fel yng Nghymru, y mae enwau lleoedd, pentrefi a chymoedd, a nodweddion ffisegol, megis caeau a mynyddoedd, nentydd a llynnoedd, yn ddrych i gronfa gyfoethog o draddodiadau a storïau. Hyfryd yw dwyn rhai o’r enwau hyn i gof: Penderyn, Tal-y-llyn, Twyn Carno, Pontyberem, Dolwar Fechan, Treorci, Cwm Hyfryd, Bro Hydref, Bryn Awelon, Maes-yr-ymdrech, Pant-y-blodau, Pant-y-gwaed, Pant-y-ffwdan, Perthi Gleision, Nant-y-pysgod, Llyn-yr-alarch, Dôl-y-plu, Mynydd Edwyn a Bryniau Meri.
‘Teisen Ddu’ a ‘Phwdin Carrots’
Twyn Carno
Am wythnos yn ystod ein harosiad yn Nyffryn Camwy lletywn gyda theulu caredig Twyn Carno, ffermdy braf ger Gaiman. Cefais gan Meillionen a William Edward Davies a’r plant, Muriel a Vilda, groeso nad anghofiaf fyth a mwynglawdd o wybodaeth diddorol am arferion a bywyd Y Wladfa, yn arbennig y bywyd amaethyddol.
A’r droed y gwely lle cysgwn yn Nhwyn Carno yr oedd clustog fawr galed â gorchudd gwyn hardd amdani. Eglurodd Mrs Meillionen Davies imi ei bod yn hen gred yn Y Wladfa y dylid gosod y glustog hon yn ofalus ar droed y gwely bob amser ar ôl ei gyweirio yn y bore. Ei phwrpas oedd bod o gynhorthwy i’r sawl oedd yn cysgu yn y gwely i eistedd arno hefyd a hynny mewn modd gyfforddus â phosibl
Gan Mrs Meillionen Davies, Twyn Carno y profais am y tro cyntaf ‘Deisen Ddu’ enwog Y Wladfa a’r ‘Pwdin Wyau’ blasus. Profais hefyd ei ‘Phwdin Carrots’. A dyma’r rysait diddorol a gefais ganddi ar gyfer paratoi’r pwdin arbennig hwnnw:
- Llond cwpan o saim buwch (sef y ‘siwed sydd o gylch y lwlan’) wedi’i falu’n fân.
- Llond cwpan o fara ‘wedi’i gratio’.
- Llond cwpan o flawd.
- Llond cwpan o siwgr.
- Pinised o halen.
- Llond cwpan o gyrrens.
- Sudd 3 lemon.
- Llond cwpan o siwgr ‘wedi’i losgi’. (Y ffordd i losgi’r siwgr yw gosod hanner llond cwpan o siwgr ar blât tun a’i losgi ar y tân nes ei fod yn ddu. Yna tywallt llond cwpan o ddŵr ar y siwgr llosg. Pwrpas y siwgr llosg yw rhoi blas melys ar y pwdin, wrth gwrs, ond hefyd i roi lliw iddo.)
- Llond cwpan o ‘garrots wedi’u gratio’.
Berwi’r cyfan am dair awr mewn tun caeëdig. Os yw’r pwdin yn rhy sych, gosod ychydig rhagor o sug y siwgr llosg ynddo.
A dyna’r ‘pwdin carrots’ yn barod! Ac un sylw pellach gan wraig garedig Trwyn Carno: ‘y pwdin i’w fwyta gyda grefi gwyn!’
Jac Scotsh a Gringo Gaucho: hen gerddi llafar gwlad
Adroddodd William Edward Davies, Trwyn Carno, wrthyf oddi ar ei gof lawer iawn o hen rigymau, penillion a phytiau o gerddi llafar gwlad, megis rhai o gerddi a phenillion y bardd, Huw Vychan Jones. Un enghraifft yw’r pennill sy’n agor fel hyn:
Mae pawb yn nabod ’rhen Jac Scotsh
Am fod o’n ffond o gysgu…
Perthynai’r gŵr hwn i deulu a ymfudodd i Batagonia o’r Alban. Roedd gan ei dad yntau lysenw yr un mor lliwgar, sef ‘Gringo Gaucho’.
Gan William Edward Davies hefyd y clywais limrigau ysgafn Evan Parry i’r ‘Botel Ddŵr Poeth’. Dyma’r pennill cyntaf yn y gyfres:
Dwy lodes pur landeg oedd rheini
A welais nos Wener yn Rhymni.
Rhyw botel o ddŵr
A wnai yn lle gŵr,
Er cadw yn gynnes yn eu gwely!
Yr un modd, amaethwr clên Twyn Carno a adroddodd wrthyf bennill trawiadol o eiddo Henry Hughes, Gaiman. Roedd gan Henry Hughes feddwl y byd o Gwenno, ei gaseg, ond un diwrnod bu farw ar y Paith. Lluniodd yntau’r pennill coffa hwn iddi yn y fan a’r lle:
O, Gwenno fwyn, O, Gwenno wen,
Un diwrnod daeth dy oes i ben;
Bydd Iesu Grist yn ddiawch o tshap
Pan geith o hon yn gaseg tap.
Cyfeiriais eisoes at Elvan Thomas, Fron Goch, Gaiman. Cefais ganddo yntau hefyd nifer o benillion a phytiau o gerddi llafar gwlad hwyliog a diddorol dros ben, megis hwn gan ŵr o’r enw Antonio Miguens. Roedd Antonio wedi rhoi’r fryd ar ferch o’r enw Cecelia, ond yr oedd hi yr adeg hynny yn canlyn dyn o’r enw Gwilym Ddu, Cymro pryd tywyll. Ac fel hyn y canodd y bardd i’w gariadferch:
O, Celia fwyn, O Celia dlos,
Fi’n caru ti’r dydd, fi’n caru ti’r nos.
Ti’n canlyn mab o ymyl y Dam:
Du, fel y Diawl, a’i goesau fe’n gam!
I roi pen ar fwdwl yr ysgrif hon, carwn ddyfynnu englyn y clywais y Parchedig D J Peregrine yn ei adrodd wrth annerch yng Nghapel Bethel, Trefelin, Cwm Hyfryd. Ac englyn rhagorol iawn ydyw, yn portreadu Cymru mewn syched mawr ar y Paith – yr anialdir sych ym Mhatagonia. Ni wn pwy yw’r awdur, ac fe garwn wybod.
Gwaelod ffynhonnau Gwalia,- a gwin Ffrainc
Yn ffrwd ar fy ngwefla;
Mate cynnes dan des da
Ac enwyn Patagonia.
Mate, fel y gŵyr pawb, bid siŵr, yw diod de draddodiadol yr Indiaid a ffefryn mawr hefyd gan Gymry’r Wladfa. ‘Enwyn’ yw llaeth-enwyn, y llaeth a geir ar ôl corddi’r menyn.)
***
Dyna ychydig friwsion – blesyn yn unig – o gyfoeth llên gwerin y Gwladfawyr. Cyflwynaf y sylwadau gyda diolch o galon i Gymry hoff y Wladfa, ddoe a heddiw, am eu mawr groeso a charedigrwydd ac am eu hymroddiad nodedig i gynnal yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Ar ran y darllenwyr, dymunaf iddynt oll iechyd a phob llawenydd a bendith.